Neidio i'r cynnwys

Pwy Oedd y Neffilim?

Pwy Oedd y Neffilim?

Ateb y Beibl

 Cewri treisgar oedd y Neffilim, epil goruwchddynol a gafodd eu geni i ferched dynol wedi iddyn nhw gael rhyw gydag angylion drygionus yn amser Noa. a

 Mae hanes y Beibl yn dweud “dyma’r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd.” (Genesis 6:2) Mewn gwirionedd, roedd y “bodau nefol” hyn yn ysbryd-greaduriaid a wrthryfelodd yn erbyn Duw drwy ‘adael lle roedden nhw i fod i fyw’ yn y nef, a gwneud cyrff dynol iddyn nhw eu hunain, a chymryd pwy bynnag oedden nhw eisiau yn wragedd.​—Jwdas 6; Genesis 6:2.

 Nid plant cyffredin mo’r plant a gafodd eu geni o’r berthynas annaturiol hon. (Genesis 6:4) Roedd y Neffilim yn hen fwlis cas, cewri oedd yn gormesu a llenwi’r ddaear â thrais. (Genesis 6:13) Mae’r Beibl yn dweud amdanyn nhw, “Dyma’r cedyrn gynt, gwŷr enwog.” (Genesis 6:4, BCND) Roedd hanes eu trais a’r ofn ohonyn nhw yn byw ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth.—Genesis 6:5; Numeri 13:33. b

Camsyniadau ynglŷn â’r Neffilim

 Camsyniad: Mae’r Neffilim yn dal i fyw ar y ddaear heddiw.

 Ffaith: Anfonodd Jehofa ddilyw byd-eang i ddinistrio’r hen fyd treisgar hwnnw. Cafodd y Neffilim eu dileu yn llwyr a’r bobl ddrygionus gyda nhw. Yn wahanol i hynny, gwnaeth teulu Noa blesio Jehofa ac y nhw oedd yr unig rai i gael eu hachub.—Genesis 6:9; 7:12, 13, 23; 2 Pedr 2:5.

 Camsyniad: Dynion oedd tadau’r Neffilim.

 Ffaith: Gelwir eu tadau yn ‘feibion Duw.’ (Genesis 6:2, BCND) Mae’r Beibl yn defnyddio’r un ymadrodd i ddisgrifio angylion. (Job 1:6; 2:1; 38:7, BC) Roedd gan angylion y gallu i gymryd ffurf ddynol. (Genesis 19:1-5; Josua 5:13-15) Siaradodd yr apostol Pedr am yr “ysbrydion yng ngharchar. Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa.” (1 Pedr 3:19, 20, BCND) Mae Jwdas 6, wrth gyfeirio at yr un hanes, yn sôn am rai angylion a “wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw . . . a dyma nhw’n gadael lle roedden nhw i fod i fyw.”

 Camsyniad: Angylion syrthiedig oedd y Neffilim.

 Ffaith: Mae cyd-destun Genesis 6:4 yn dangos nad oedd y Neffilim yn angylion, ond yn feibion croesryw a gafodd eu geni wedi i angylion a merched gael perthynas rywiol â’i gilydd. Wedi i’r angylion gymryd “y rhai roedden nhw’n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw eu hunain,” dywedodd Jehofa y byddai’n gweithredu yn erbyn byd annuwiol y cyfnod hwnnw mewn 120 o flynyddoedd. (Genesis 6:1-3) Aeth yr angylion a gymerodd gyrff dynol yn eu blaenau i gael rhyw gyda merched dynol, a’u hepil oedd y “cedyrn gynt,” sef y Neffilim.—Genesis 6:4, BCND.

a Gall y gair Hebraeg a drosir “cewri” neu “Neffilim” olygu “cwympwyr.” Mae Geiriadur Ysgrythyrol gan Thomas Charles yn dweud bod y gair yn cyfeirio at y rhai sy’n “syrthio, neu yn rhuthro, yn ffyrnig, ac yn greulawn, ar ddynion . . . a wnaethant iddynt, trwy ofn a gorthrech i syrthio o’u blaen.”

b Yn ôl pob tebyg, roedd yr ysbiwyr Iddewig yn Numeri 13:33 wedi gweld pobl oedd yn eu hatgoffa o hanesion y Neffilim, a oedd wedi marw canrifoedd ynghynt.—Genesis 7:21-23.