Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gael Tatŵs?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gael Tatŵs?

Ateb y Beibl

 Dim ond unwaith mae’r Beibl yn sôn am datŵs. Mae hynny yn Lefiticus 19:28, sy’n dweud: “Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff.” Rhoddodd Duw y gorchymyn hwn i bobl Israel i ddangos eu bod nhw’n wahanol i’r cenhedloedd o’u cwmpas a oedd yn marcio eu crwyn ag enwau neu symbolau eu duwiau. (Deuteronomium 14:2) Er nad yw Cristnogion yn gorfod cadw’r Gyfraith a roddwyd i Israel, mae’r egwyddor sydd yn sail i’r ddeddf hon yn werth ei hystyried.

A fyddai’n iawn i Gristion gael tatŵ?

 Bydd yr adnodau canlynol o’r Beibl yn eich helpu i ateb y cwestiwn hwnnw:

  •   “Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain.” (1 Timotheus 2:9) Mae’r egwyddor hon yn berthnasol i ddynion a merched, ac i bethau heblaw dillad. Dylen ni barchu teimladau pobl eraill a pheidio â gwneud pethau sy’n tynnu gormod o sylw aton ni’n hunain.

  •   Mae rhai yn cael tatŵ er mwyn mynegi eu hunaniaeth neu eu hannibyniaeth, tra bod eraill eisiau dangos bod ganddyn nhw’r hawl i wneud fel y mynnant â’u cyrff nhw eu hunain. Sut bynnag, mae’r Beibl yn annog Cristnogion: “Cyflwyn[wch] eich hunain iddo yn aberth byw—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.” (Rhufeiniaid 12:1) Ceisiwch ganfod pam mae cael tatŵ yn apelio atoch chi. Os ydych chi eisiau dilyn ffasiwn neu ddangos eich bod yn aelod o grŵp arbennig, cofiwch fod y teimladau hynny’n gallu newid, tra bod tatŵ yn rhywbeth parhaol. Bydd ystyried eich rhesymau yn eich helpu chi i benderfynu’n ddoeth.—Diarhebion 4:7.

  •   “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus . . . ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.” (Diarhebion 21:5) Yn aml, penderfyniad sydyn yw cael tatŵ, ond fe all gael effaith hir dymor ar eich perthynas ag eraill a’ch cyfleoedd o ran gwaith. Gall fod yn gostus ac yn boenus i gael gwared ar datŵs. Mae ymchwil—ynghyd â’r twf aruthrol yn y nifer o fusnesau sy’n tynnu tatŵs—yn dangos bod nifer mawr o bobl sy’n cael tatŵ yn y pen draw yn difaru gwneud.