Neidio i'r cynnwys

Gweddïau Dynes Ddall yn Cael eu Hateb

Gweddïau Dynes Ddall yn Cael eu Hateb

 Gwnaeth Yanmei, Tyst yn Asia, gynnig helpu dynes ddall o’r enw Mingjie i groesi’r ffordd. a Dywedodd Mingjie: “Diolch. Bendith Duw arnoch chi!” Ar ôl hynny, gofynnodd Yanmei i Mingjie a fyddai hi’n hoffi cyfarfod i drafod y Beibl. Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Mingjie ei bod hi wedi bod yn gweddïo bob dydd i gael ei harwain at wir gynulleidfa Duw. Pam oedd hi wedi bod yn gofyn am hynny?

 Esboniodd Mingjie ei bod hi wedi derbyn gwahoddiad gan ffrind dall yn 2008 i fynd i eglwys ar gyfer pobl anabl. Ar ôl gwrando ar y bregeth, gofynnodd Mingjie i’r gweinidog o ba lyfr roedd wedi dyfynnu. Dywedodd wrthi ei fod wedi dyfynnu o’r Beibl, sef gwir Air Duw. Roedd Mingjie yn awyddus iawn i’w ddarllen, felly cafodd hi afael ar gopi braille Tsieineeg o’r Beibl, a darllenodd y 32 cyfrol mewn tua chwe mis. Wrth i Mingjie ddarllen mwy o’r Beibl, daeth i’r casgliad bod dysgeidiaeth y Drindod, oedd yn cael ei dysgu yn ei heglwys hi, yn anghywir, a bod gan Dduw enw, Jehofa.

 Ymhen amser, cafodd Mingjie ei siomi gan ymddygiad aelodau’r eglwys. Sylweddolodd eu bod nhw ddim yn byw’n unol â beth roedd hi’n ei ddarllen yn y Beibl. Er enghraifft, roedd y dall yn cael gweddillion bwyd, tra oedd pawb arall yn cael bwyd ffres. Cafodd Mingjie ei brifo gan y fath annhegwch, felly gwnaeth hi ddechrau chwilio am eglwysi eraill yn yr ardal. Dyna pam roedd Mingjie yn gweddïo i ffeindio’r gwir gynulleidfa Gristnogol.

 Am fod Yanmei wedi bod mor garedig, gwnaeth Mingjie dderbyn ei chynnig o astudiaeth Feiblaidd. Yn hwyrach ymlaen, aeth Mingjie i’w chyfarfod cyntaf gyda Thystion Jehofa. Wrth gofio’n ôl, dywedodd Mingjie: “Wna i byth anghofio fy nghyfarfod cyntaf. Ces i groeso cynnes iawn gan y brodyr a chwiorydd i gyd. Wnaeth hynny gyffwrdd fy nghalon. Er fy mod i’n ddall, roedd hi’n amlwg imi eu bod nhw’n dangos cariad tuag at bawb.”

 Gwnaeth Mingjie gynnydd da, a dechrau mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd. Roedd hi’n hoff iawn o ganu caneuon y Deyrnas, ond roedd hynny’n anodd iddi am fod y llyfr caneuon ddim ar gael yn y braille roedd hi’n ei ddarllen. Felly gyda help y gynulleidfa, gwnaeth Mingjie ei llyfr caneuon ei hun. Cymerodd 22 awr iddi drawsgrifio’r 151 o ganeuon! Ym mis Ebrill 2018, dechreuodd Mingjie gael rhan yn y weinidogaeth, ac ers hynny, mae hi wedi bod yn treulio tua 30 awr bob mis yn pregethu.

Mae trawsgrifio llyfr i braille yn waith diflas

 I helpu Mingjie i baratoi ar gyfer bedydd, gwnaeth Yanmei recordiad sain o’r cwestiynau a’r adnodau yn y llyfr Organized to Do Jehovah’s Will. Ym mis Gorffennaf 2018, cafodd Mingjie ei bedyddio. Dywedodd: “Gwnaeth y cariad ddangosodd y brodyr a chwiorydd yn y gynhadledd honno gyffwrdd fy nghalon. O’n i mor hapus o’n i’n crio, oherwydd o’r diwedd, o’n i’n rhan o wir gynulleidfa Duw.” (Ioan 13:34, 35) Bellach, mae Mingjie yn gwasanaethu’n llawn amser am ei bod hi’n benderfynol o ddangos yr un cariad gafodd ei ddangos tuag ati hi.

a Newidiwyd yr enwau.