Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Roeddwn i’n torri bedd i fi fy hun”

“Roeddwn i’n torri bedd i fi fy hun”
  • Ganwyd: 1978

  • Gwlad Enedigol: El Salfador

  • Hanes: Dyn Treisgar a Fu’n Aelod o Gang

FY NGHEFNDIR

 “Os wyt ti wir eisiau gwybod am Dduw, dal ati i astudio gyda’r Tystion Jehofa.” Roedd y geiriau hynny yn fy synnu. Ar y pryd roeddwn i newydd ddechrau astudio gyda Thystion Jehofa. Ond er mwyn ichi ddeall fy ymateb, gadewch imi esbonio rywfaint am fy mywyd.

 Cefais fy ngeni mewn tref o’r enw Quezaltepeque yn El Salfador. Fi oedd y chweched o bymtheg o blant. Roedd fy rhieni yn ceisio ein magu i fod yn onest ac i ufuddhau i’r gyfraith. Ac o bryd i’w gilydd, byddai Leonardo a rhai Tystion Jehofa eraill yn dod i’n dysgu ni am y Beibl. Ond anwybyddu’r cyngor da wnes i, a gwneud un camgymeriad ar ôl y llall. Yn 14 blwydd oed, dechreuais yfed alcohol a chymryd cyffuriau gyda fy ffrindiau ysgol. Fesul un, gadawon nhw’r ysgol ac ymuno â gang, ac fe wnes i ddilyn eu hesiampl ddrwg. Roedden ni’n treulio ein hamser ar y strydoedd, yn bygwth pobl am arian ac yn dwyn er mwyn talu am ein harferion drwg.

 Daeth y gang yn deulu imi. Yn fy meddwl i, roedden nhw’n haeddu teyrngarwch. Er enghraifft, un diwrnod o dan ddylanwad cyffuriau, ymosododd aelod o’r gang ar un o’m cymdogion. Yn ystod y ffrae, llwyddodd y cymydog i reoli fy ffrind a galw’r heddlu. Codais bastwn a mynd ati’n wyllt i ddryllio car y cymydog i geisio gwneud iddo ryddhau fy ffrind. Wrth imi falu un panel a ffenestr ar ôl y llall, erfyniodd arnaf i stopio, ond wnes i ddim gwrando.

 Pan oeddwn i’n 18 oed, bu gwrthdaro rhwng y gang â’r heddlu. Roeddwn i ar fin taflu bom cartref pan ffrwydrodd y peth yn fy llaw​—dydw i ddim yn gwybod sut yn union. Yr unig beth rydw i’n ei gofio yw gweld beth oedd ar ôl o’m llaw, a llewygu. Pan ddeffrois yn yr ysbyty, dysgais fy mod i wedi colli fy llaw dde ynghyd â’r clyw yn fy nghlust dde, a’r cyfan bron o’r golwg yn fy llygad de.

 Er gwaethaf fy anafiadau, ar ôl gadael yr ysbyty, es i’n syth yn ôl at y gang. Ond yn fuan ar ôl hynny, cefais fy arestio gan yr heddlu, a’m hanfon i’r carchar. Roedd y berthynas rhwng aelodau’r gang yn gryfach fyth yn y carchar. Roedden ni gyda’n gilydd drwy’r dydd​—o amser brecwast, pan oedden ni’n cael ein smôcs cyntaf, nes inni fynd i gysgu.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Tra oeddwn i yn y carchar, daeth Leonardo i’m gweld i. Yn ystod y sgwrs, fe bwyntiodd at datŵ ar fy mraich dde. “Ti’n gwybod beth mae’r tri dot yna’n ei feddwl?” gofynnodd. “Wrth gwrs,” meddwn i, “rhyw, cyffuriau, a roc a rôl.” Ond atebodd Leonardo: “Baswn i’n dweud bod nhw’n golygu yr ysbyty, y carchar, a’r bedd. Rwyt ti wedi bod yn yr ysbyty, a rŵan rwyt ti yn y carchar. Ti’n gwybod beth sy’n dod nesaf.”

 Rhoddodd geiriau Leonardo ysgytwad imi. Roedd yn iawn. Roeddwn i’n torri bedd i fi fy hun drwy fyw fel hyn. Cynigiodd Leonardo astudio’r Beibl gyda mi, a chytunais. Fe wnaeth yr hyn a ddysgais newid fy mywyd. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod “cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Gwelais mai un o’r pethau cyntaf y byddai’n rhaid imi ei wneud fyddai cael ffrindiau newydd, felly fe wnes i stopio mynd i gyfarfodydd y gang, a dechrau mynd i’r cyfarfodydd roedd Tystion Jehofa yn eu cynnal yn y carchar. Yn un o’r cyfarfodydd hynny, cwrddais â charcharor arall o’r enw Andrés, a oedd wedi cael ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa yn y carchar. Gofynnodd imi gael brecwast gydag ef. Ar ôl hynny, doeddwn i ddim yn dechrau’r diwrnod yn ysmygu mariwana. Yn lle hynny, roedd Andrés a mi yn trafod adnod o’r Beibl bob bore.

 Roedd aelodau’r gang yn sylwi’n syth ar y newidiadau. O ganlyniad, dyma un o arweinwyr y gang yn dweud ei fod yn mynd i gael gair â mi. Roedd ofn arna i. Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n ei wneud ar ôl clywed am fy mwriadau, oherwydd mae bron yn amhosib dod allan o gang. Dywedodd ef: “Rydyn ni wedi sylwi nad wyt ti’n dod i’n cyfarfodydd bellach, ond rwyt ti’n mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Beth wyt ti’n bwriadu wneud?” Dywedais wrtho fy mod i eisiau parhau i astudio’r Beibl a newid fy mywyd. Er mawr syndod imi, dywedodd y byddai’r gang yn fy mharchu ar yr amod fy mod i’n cadw at fy mwriad i ddod yn un o Dystion Jehofa. Yna dywedodd: “Os wyt ti wir eisiau gwybod am Dduw, dal ati i astudio gyda’r Tystion Jehofa. Byddwn ni’n disgwyl iti stopio gwneud pethau drwg. Llongyfarchiadau. Rwyt ti ar y llwybr iawn. Bydd y Tystion yn gallu dy helpu. Roeddwn i’n arfer astudio gyda nhw yn yr Unol Daleithiau, ac mae rhai yn fy nheulu yn Dystion Jehofa. Paid â bod ag ofn. Dal ati.” Roeddwn i’n dal yn ofnus, ond ar yr un pryd, roeddwn i wrth fy modd. Fe wnes i ddiolch i Jehofa o waelod fy nghalon. Teimlais fel aderyn wedi ei ryddhau o’i gaets. Roeddwn i’n deall geiriau Iesu: “Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”​—Ioan 8:32, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

 Ceisiai rhai o’m hen ffrindiau roi prawf arna i, drwy gynnig cyffuriau imi. Ac mae’n rhaid imi gyfaddef, weithiau roeddwn i’n llithro. Ond yn y pen draw, ar ôl llawer o weddïau taer, fe lwyddais i drechu fy arferion drwg.​—Salm 51:10, 11.

 Ar ôl imi gael fy rhyddhau o’r carchar, roedd llawer yn credu y byddwn i’n mynd yn ôl i fy hen ffyrdd, ond wnes i ddim. Yn lle hynny, byddwn i’n mynd yn ôl i’r carchar yn rheolaidd i rannu’r hyn roeddwn i wedi ei ddysgu o’r Beibl gyda’r carcharorion. Yn y diwedd, roedd fy hen ffrindiau yn gallu gweld fy mod i wedi newid. Ond yn anffodus, nid oedd fy hen elynion mor sicr.

 Un diwrnod, pan aeth ffrind a fi allan i bregethu, yn sydyn dyma grŵp o ddynion arfog yn ymddangos. Perthyn i gang a fu’n elynion i fy hen gang innau oedden nhw, ac roedden nhw eisiau fy lladd. Yn ddewr ond yn gwrtais, esboniodd fy mhartner nad oeddwn i’n aelod o gang bellach. Yn y cyfamser, roeddwn i’n ceisio cadw fy mhen. Ar ôl rhoi curfa i mi a’m rhybuddio i beidio â mynd yn ôl i’r ardal honno, fe wnaeth y dynion roi eu harfau i lawr a gadael inni fynd. Roedd y Beibl yn sicr wedi newid fy mywyd. Yn y gorffennol, byddwn i wedi ceisio dial arnyn nhw. Ond heddiw rydw i’n dilyn y cyngor yn 1 Thesaloniaid 5:​15: “Peidiwch gadael i bobl dalu’r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i’ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd.”

 Ers imi ddod yn un o Dystion Jehofa, rydw i wedi ceisio byw yn onest. Ni fu’n hawdd. Ond, gyda help Jehofa, cyngor o’r Beibl, a chefnogaeth fy ffrindiau newydd, rydw i wedi llwyddo. Fyddwn i byth eisiau mynd yn ôl i fy hen ffordd o fyw.​—2 Pedr 2:22.

FY MENDITHION

 Roeddwn i’n arfer bod yn ddyn brwnt. Rydw i’n sicr na fyddwn i’n fyw heddiw petawn i wedi aros ar y llwybr treisgar hwnnw. Cefais fy newid yn llwyr gan yr hyn a ddysgais yn y Beibl. Rydw i wedi cefnu ar fy arferion drwg, a dysgu byw mewn heddwch gyda fy hen elynion. (Luc 6:​27) Mae gen i ffrindiau sy’n fy helpu i fod yn ddyn gwell. (Diarhebion 13:20) Mae fy mywyd yn hapus ac yn llawn pwrpas heddiw, yn gwasanaethu’r Duw a fu’n barod i faddau imi am yr holl bethau drwg rydw i wedi eu gwneud.​—Eseia 1:​18.

 Yn 2006, es i ar gwrs hyfforddi arbennig ar gyfer Cristnogion sengl. Rai blynyddoedd wedyn, priodais â fy ngwraig annwyl, ac erbyn hyn mae gennyn ni ferch. Rydw i’n treulio llawer o amser yn dysgu eraill am yr egwyddorion yn y Beibl sydd wedi fy helpu i. Rydw i’n gwasanaethu fel henuriad yn y gynulleidfa leol, ac rydw i’n ceisio helpu pobl ifanc i osgoi’r camgymeriadau a wnes i pan oeddwn i’n ifanc. Heddiw, yn lle torri bedd i fi fy hun, rydw i’n adeiladu ar gyfer y dyfodol tragwyddol y mae Duw yn ei addo yn y Beibl.