Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Dydw i Ddim yn Teimlo Cywilydd Mwyach”

“Dydw i Ddim yn Teimlo Cywilydd Mwyach”
  • Ganwyd: 1963

  • Gwlad Enedigol: Mecsico

  • Hanes: Plentyn y strydoedd; teimladau o israddoldeb

FY NGHEFNDIR

 Cefais fy ngeni, y pumed o naw o blant, yn Ciudad Obregón, yng ngogledd Mecsico. Roedden ni’n byw ar gyrion y ddinas, lle roedd fy nhad yn rheolwr fferm fach. Roedd yn lle braf i fyw ac roedd y teulu’n unedig ac yn hapus. Ond pan oeddwn i’n bump oed, dinistriwyd y fferm gan gorwynt ac roedd rhaid inni symud i dref arall.

 Roedd fy nhad yn gwneud mwy o arian, ond ar yr un pryd fe aeth yn alcoholig. Roedd hyn yn effeithio ar ei briodas ac arnon ni’r plant. Dechreuon ni ddwyn sigaréts fy nhad ac ysmygu. Pan oeddwn i’n chwech oed fe wnes i feddwi am y tro cyntaf. Yn fuan wedyn, ymwahanodd fy rhieni, ac aeth fy ymddygiad innau o ddrwg i waeth.

 Pan aeth fy mam i fyw gyda dyn arall, aethon ni gyda hi. Ond nid oedd ef yn rhoi arian iddi ac roedden ni’n methu byw ar ei henillion hi’n unig. Fe wnaethon ni blant pa bynnag waith oedd ar gael, ond prin oedden ni’n gallu cael dau ben llinyn ynghyd. Roeddwn i’n glanhau esgidiau, gwerthu bara, papurau newydd, gwm cnoi a phethau eraill. Roeddwn i hefyd yn crwydro’r ddinas yn chwilio biniau sbwriel pobl gyfoethog am damaid i’w fwyta.

 Pan oeddwn i’n ddeg oed, gofynnodd dyn imi weithio gydag ef ar domen sbwriel y ddinas. Cytunais, gan stopio mynd i’r ysgol a gadael fy nghartref. Talodd y dyn 10 Peso (llai na 75 ceiniog) y dydd imi a chefais fwyd yr oedd wedi ei gasglu o’r domen sbwriel. Roeddwn i’n byw mewn cwt wedi ei wneud o wastraff a gefais ar y domen. Roedd y bobl o’m cwmpas yn rhywiol anfoesol ac yn defnyddio iaith anweddus, a llawer ohonyn nhw’n gaeth i gyffuriau ac alcohol. Dyna amser gwaethaf fy mywyd, a chofiaf grio bob nos a chrynu mewn ofn. Roeddwn i’n teimlo cywilydd o achos fy niffyg addysg a’r ffaith fy mod i’n dlawd. Roeddwn i’n byw ar y domen am tua thair blynedd, nes imi symud i dalaith arall ym Mecsico. Yno cefais waith ar y tir, yn torri blodau, yn casglu cotwm neu gansenni siwgr, ac yn codi tatws.

Roeddwn i’n byw ar domen sbwriel debyg i hon am dair blynedd

 Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudais yn ôl i Ciudad Obregón, a chael llety yng nghartref fy modryb a oedd yn defnyddio dewiniaeth i geisio iacháu pobl. Dechreuais gael hunllefau a theimlo mor isel nes imi ystyried lladd fy hun. Un noson gweddïais ar Dduw: “Arglwydd, os wyt ti’n bod, dw i eisiau dy ’nabod di, a bydda i’n dy wasanaethu am byth. Os oes gwir grefydd, dw i eisiau gwybod amdani.”

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Roedd awydd dysgu am Dduw gen i erioed. Hyd yn oed yn blentyn, roeddwn i’n mynd i lawer o wahanol enwadau, ond roedd pob un yn fy siomi. Mewn rhai, roedd gormod o bwyslais ar arian, ac mewn eraill roedd y plwyfolion yn rhywiol anfoesol.

 Pan oeddwn i’n 19 oed, dywedodd brawd-yng-nghyfraith wrtho i fod Tystion Jehofa wedi dangos iddo beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddefnyddio delweddau crefyddol. Darllenodd Exodus 20:4, 5 imi, sy’n dweud na ddylen ni wneud delwau cerfiedig. Mae adnod 5 yn dweud: “Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.” Yna gofynnodd imi, “Os ydy Duw’n defnyddio delwau er mwyn gwneud gwyrthiau, neu os ydy Duw am inni eu defnyddio wrth addoli, pam byddai’n dweud hyn?” Fe wnaeth hynny imi feddwl. Ar ôl hynny cawson ni nifer o drafodaethau am y Beibl. Roedd amser yn hedfan, mor ddiddorol oedd y sgyrsiau hyn imi.

 Yn nes ymlaen, aeth â fi i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa. Fe wnaeth yr hyn a welais ac a glywais argraff fawr arna i. Roedd hyd yn oed y bobl ifanc yn cael rhan yn y cyfarfod, yn siarad yn hyderus o’r llwyfan. Rydw i’n cofio meddwl, ‘Mae pobl yn cael addysg wych yma!” Er gwaethaf fy ngwallt hir a’r golwg flêr oedd arna i, cefais groeso twymgalon gan y Tystion. Fe wnaeth un teulu hyd yn oed gofyn imi fynd yn ôl am bryd o fwyd gyda nhw ar ôl y cyfarfod!

 Drwy astudio’r Beibl gyda help y Tystion, dysgais fod Duw yn Dad cariadus sydd â diddordeb ynon ni beth bynnag yw ein cefndir o ran arian, hil, addysg, neu safle cymdeithasol. Nid oes ganddo ddim rhagfarn. (Actau 10:34, 35) O’r diwedd, roedd fy anghenion ysbrydol yn cael eu diwallu, a’r gwacter yn diflannu.

FY MENDITHION

 Roedd fy holl fywyd yn gwella’n ddramatig. Llwyddais i stopio ysmygu, goryfed, a defnyddio iaith anweddus. Roedd y teimladau chwerwder a fu yn fy nghalon ers imi fod yn blentyn yn dechrau diflannu, a’r hunllefau hefyd. Llwyddais i drechu’r teimladau o israddoldeb o ganlyniad trawma emosiynol fy mhlentyndod a’m diffyg addysg.

 Heddiw mae gen i wraig annwyl sy’n caru Jehofa ac sydd yn gefn cryf imi. Rydw i’n gwasanaethu fel arolygwr cylchdaith gyda Thystion Jehofa, yn ymweld â chynulleidfaoedd i annog ac i ddysgu fy nheulu ysbrydol o frodyr a chwiorydd. Diolch i effaith iachaol y Beibl ac i’r addysg arbennig sy’n dod oddi wrth Dduw, dydw i ddim yn teimlo cywilydd mwyach.

Mae fy ngwraig a minnau’n hoffi helpu eraill fel y cefais i fy helpu