Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Roeddwn i’n Byw ar y Stryd”

“Roeddwn i’n Byw ar y Stryd”
  • Ganwyd: 1955

  • Gwlad Enedigol: Sbaen

  • Hanes: Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol, Trais

FY NGHEFNDIR

 Mae rhai pobl yn araf i ddysgu, hyd yn oed o’u profiadau chwerw eu hunain. Un fel ’na oeddwn i. Cefais fy ngeni a fy magu yn Barcelona, ail ddinas fwyaf yn Sbaen. Roedd fy nheulu yn byw mewn rhan o’r ddinas ar lân y môr, o’r enw Somorrostro. Roedd gan yr ardal enw drwg am drosedd a chyffuriau.

 Roedd gan fy rhieni naw o blant, a fi oedd yr hynaf. Gan ein bod ni’n dlawd iawn, cefais fy ngyrru gan fy nhad i weithio mewn clwb tennis yn codi peli. Yn ddeng mlwydd oed, roeddwn i’n gweithio ddeg awr y dydd. O ganlyniad, doeddwn i ddim yn mynd i’r ysgol fel y plant eraill o fy oedran i. Yn 14 oed, es i weithio mewn gweithdy peiriannau.

Ym 1975, ymunais â Lleng Dramor Sbaen yng Ngogledd Affrica a gwisgo ei lifrai arbennig

 Yn Sbaen, roedd gwasanaeth milwrol yn orfodol, ac ym 1975 cefais fy ngalw i’r fyddin. Roeddwn i eisiau bywyd anturus ac felly ymunais â Lleng Dramor Sbaen ym Melilla, dinas sy’n perthyn i Sbaen ar arfordir gogleddol Affrica. Yno, syrthiais i fyd tywyll cyffuriau ac alcohol.

 Ar ôl gadael y Lleng, es i yn ôl i Barcelona a ffurfio gang. Bydden ni’n dwyn unrhyw beth y gallen ni gael gafael ynddo a’i werthu wedyn er mwyn cael arian ar gyfer cyffuriau. Dechreuais gymryd LSD ac amffetaminau, ac aeth fy mywyd yn gylch diderfyn o ryw, alcohol, a gamblo. Roedd byw bywyd mor ddinistriol yn gwneud imi fynd yn fwyfwy treisgar. Roeddwn i bob amser yn cario cyllell, bwyell, neu machete, a doedd gen i ddim ofn eu defnyddio petai rhaid.

 Un tro, fe wnaeth y gang a fi ddwyn car a chael ein herlid gan yr heddlu. Roedd hi fel rhywbeth mewn ffilm. Gyrron ni’r car am tua 30 cilomedr (20 milltir), nes i’r heddlu ddechrau saethu arnon ni. Yn y diwedd, fe wnaethon ni falu’r car, a rhedeg i ffwrdd. Nid heb reswm, pan glywodd fy nhad am hyn, cefais fy nhaflu o’r tŷ.

 Am y pum mlynedd nesaf, roeddwn i’n byw ar y stryd, gan gysgu mewn drysau, yng nghefn lorïau, ar feinciau yn y parc, ac mewn mynwentydd. Roeddwn i hyd yn oed yn byw am sbel mewn ogof. Roedd fy mywyd yn hollol ddibwrpas, ac roeddwn i’n teimlo nad oedd ots a oeddwn i’n byw neu farw. Rydw i’n cofio niweidio fy hun gan dorri’r croen ar fy arddyrnau a’m breichiau ar ôl cymryd cyffuriau. Mae’r creithiau’n dal gen i hyd heddiw.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Pan oeddwn i’n 28 oed, daeth fy mam i chwilio amdanaf a gofyn imi fynd adref. Cytunais, gan addo y byddwn i’n newid fy mywyd, ond cymerodd amser imi gadw’r addewid hwnnw.

 Un prynhawn, daeth dau o Dystion Jehofa at y drws. Wrth imi wrando arnyn nhw, clywais fy nhad yn gweiddi o’r tŷ imi gau’r drws yn eu hwynebau. Doeddwn i byth yn un da am ufuddhau i orchmynion, a phenderfynais ei anwybyddu. Fe wnaethon nhw gynnig tri llyfr bach imi, ac roeddwn i’n hapus i’w derbyn. Gofynnais iddyn nhw lle roedden nhw’n cynnal cyfarfodydd ac ychydig o ddyddiau wedyn, dyma fi’n cyrraedd Neuadd y Deyrnas.

 Y peth cyntaf imi sylwi arno oedd pa mor daclus oedd pawb. Roedd gen i wallt hir, a barf a dillad blêr. Roedd hi’n amlwg fy mod i allan o’m cynefin, ac felly arhosais y tu allan i’r neuadd. Ond yn sydyn dyma fi’n gweld rhywun roeddwn i’n ei adnabod​—aelod o’r hen gang, o’r enw Juan​—ac yntau mewn siwt. Dysgais wedyn ei fod wedi dod yn un o Dystion Jehofa tua blwyddyn yn gynharach. Roedd gweld Juan yn codi fy nghalon ac es i mewn a gwrando ar y cyfarfod. A dyna pryd gwnaeth pethau ddechrau newid imi.

 Cytunais i astudio’r Beibl, ac yn fuan iawn sylweddolais y byddai’n rhaid imi newid fy agwedd ymosodol a’m bywyd anfoesol petaswn i eisiau bod yn ffrind i Dduw. Doedd hynny ddim yn hawdd. Er mwyn plesio Jehofa, gwelais fod rhaid imi ‘newid fy mywyd yn llwyr drwy chwyldroi fy ffordd o feddwl am bethau.’ (Rhufeiniaid 12:2) Roedd trugaredd Duw wedi cyffwrdd â’m calon. Er gwaethaf fy nghamgymeriadau, roeddwn i’n teimlo bod Duw yn rhoi ail gyfle imi. Treiddiodd yr hyn a ddysgais am Jehofa yn ddwfn i fy nghalon. Daeth hi’n eglur imi fod Creawdwr yn bodoli, a’i fod yn fy ngharu.​—1 Pedr 5:6, 7.

 Roedd hyn yn gwneud imi ddechrau newid. Er enghraifft, pan drafodon ni dybaco yn fy astudiaeth Feiblaidd, dywedais wrthyf fi fy hun, ‘Os ydy Jehofa eisiau imi aros yn lân ym mhob ffordd, bydd rhaid i’r sigaréts fynd!’ (2 Corinthiaid 7:1) Ac i mewn i’r bin â nhw!

 Hefyd, roedd rhaid imi stopio defnyddio a gwerthu cyffuriau. Roedd hynny’n dasg fwy anodd. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid imi dorri pob cysylltiad â’m hen ffrindiau. Doedd eu dylanwad nhw ddim yn fy helpu i dyfu’n ysbrydol. Sut bynnag, ymhen amser, roeddwn i’n dechrau dibynnu’n fwy ar Dduw ac ar fy ffrindiau newydd yn y gynulleidfa. Roedd eu cariad a’u diddordeb yn rhywbeth hollol newydd imi. Aeth y misoedd heibio, ac yn y diwedd llwyddais i dorri’n rhydd o’r cyffuriau, i newid fy mhersonoliaeth a “gwisgo natur o fath newydd” a fyddai’n plesio Duw. (Effesiaid 4:​24) Ym mis Awst 1985, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION

 Mae’r Beibl wedi rhoi bywyd newydd imi. Mae wedi fy helpu i gefnu ar ffordd o fyw oedd yn dinistrio fy nghorff a’m hunan-barch. Mae mwy na 30 o fy ffrindiau gynt wedi marw’n ifanc o AIDS neu o gyflyrau eraill oedd yn gysylltiedig â chyffuriau. Rydw i’n mor ddiolchgar fy mod i wedi osgoi hyn i gyd drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith.

 Perthyn i’r gorffennol bellach mae’r cyllyll a’r arfau eraill roeddwn i’n arfer eu cario. Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i ryw ddydd yn cario Beibl a’i ddefnyddio i helpu pobl eraill. Heddiw, mae fy ngwraig a minnau’n weinidogion llawn amser gyda Thystion Jehofa.

 Ni wnaeth fy rhieni erioed ddod yn Dystion Jehofa, ond roedden nhw’n medru gweld y ffordd roedd astudio’r Beibl wedi fy helpu. Yn wir, roedd fy nhad yn arfer amddiffyn enw’r Tystion o flaen ei gydweithwyr. Roedd hi’n amlwg iddo ef fod fy ffydd newydd wedi gwella fy mywyd yn rhyfeddol. Roedd fy mam yn dweud yn aml y dylwn i fod wedi astudio’r Beibl yn gynt. Rydw i’n cytuno’n llwyr!

 Rydw i wedi dysgu o brofiad pa mor hurt yw ceisio hapusrwydd drwy gyffuriau a phethau drwg eraill. Heddiw, yr hyn sy’n rhoi gwir hapusrwydd imi yw dangos dysgeidiaethau Gair Duw i bobl eraill—dysgeidiaethau sydd heb os wedi achub fy mywyd.