Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Dysgais Fod Jehofa yn Drugarog ac yn Faddeugar

Dysgais Fod Jehofa yn Drugarog ac yn Faddeugar
  • GANWYD: 1954

  • GWLAD ENEDIGOL: CANADA

  • HANES: TWYLL, GAMBLO

FY NGHEFNDIR:

Cefais fy magu mewn ardal dlawd yn ninas Montreal. Pan oeddwn i’n chwe mis oed, bu farw fy nhad, gan adael fy mam i fagu wyth o blant ar ei phen ei hun. Fi oedd yr ieuengaf.

Wrth imi dyfu, roedd cyffuriau, trais, a gamblo yn rhan o fywyd bob dydd. Roeddwn i’n cymysgu â throseddwyr, ac yn ddeg oed dechreuais fynd ar negeseuon i buteiniaid a benthycwyr anghyfreithlon. Roedd dweud celwyddau a thwyllo pobl yn rhoi pleser imi yr un fath â chyffuriau.

Erbyn imi droi’n 14 mlwydd oed, roeddwn i’n hen law ar dwyllo pobl. Er enghraifft, byddwn i’n prynu llwyth o watsys a gemwaith eurblat a defnyddio twlsyn i roi stamp aur 14 carat arnyn nhw a’u gwerthu wedyn ar y strydoedd ac ar feysydd parcio canolfannau siopa. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud arian mor hawdd. Un tro, fe wnes i $10,000 mewn diwrnod!

Ar ôl cael fy mwrw allan o sefydliad troseddwyr ifanc yn 15 oed, roeddwn i heb unrhyw le i fyw. Roeddwn i’n cysgu ar y strydoedd, mewn parciau, neu mewn tai ffrindiau oedd yn fodlon rhoi gwely imi.

Roeddwn i’n cael fy holi gan yr heddlu yn aml. Gan nad oeddwn i’n gwerthu nwyddau oedd wedi eu dwyn, chefais i erioed fy ngyrru i’r carchar. Talais i lawer o ddirwyon sylweddol am dwyll ac am werthu nwyddau heb drwydded. Doedd gen i ddim ofn neb, ac roeddwn i hyd yn oed yn casglu arian ar gyfer benthycwyr anghyfreithlon. Gwaith peryglus oedd hynny, ac ar adegau roeddwn i’n cario gwn. O bryd i’w gilydd, roeddwn i’n gweithio gyda grwpiau mawr o droseddwyr.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Cefais fy nghysylltiad cyntaf â’r Beibl pan oeddwn i’n 17 oed. Roeddwn i’n byw gyda fy nghariad pan ddechreuodd hithau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Ond doeddwn i ddim yn hoffi safonau moesol y Beibl, a gan fy mod i’n gweld dynes arall beth bynnag, gadewais a symud i fyw gyda hi.

Ond newidiodd pethau eto pan ddechreuodd fy nghariad newydd astudio’r Beibl gyda’r Tystion hefyd! Fe ddaeth hi’n fwy caredig ac amyneddgar, ac roedd y newidiadau yn gwneud argraff arna i. Cytunais i fynd i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa yn Neuadd y Deyrnas. Roedd y bobl yno yn garedig a chefais groeso cynnes. Roedden nhw mor wahanol i bobl fy myd i! Doedd fy nheulu erioed wedi dangos cariad imi yn blentyn. Roeddwn i wastad wedi dyheu am y fath o gariad a welais ymhlith Tystion Jehofa. Pan gefais wahoddiad i astudio’r Beibl, cytunais yn syth.

Rydw i’n credu bod yr hyn a ddysgais o’r Beibl wedi achub fy mywyd. Roedd gen i ddyledion gamblo o fwy na $50,000, ac felly roeddwn i wedi bod yn cynllunio lladrad gyda dau ddyn arall er mwyn cael yr arian i’w talu. Ond rydw i mor falch imi dynnu’n ôl! Penderfynodd y dynion eraill fynd ymlaen â’r lladrad. Cafodd un ei arestio a’r llall ei ladd.

Wrth imi barhau i astudio’r Beibl, dechreuais weld faint oedd yn rhaid imi eu newid. Er enghraifft, dysgais fod y Beibl yn dweud yn 1 Corinthiaid 6:9, 10 na fydd lle yn Nheyrnas Dduw “i bobl sy’n lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy’n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw.” Ar ôl darllen hynny, dechreuais grio wrth feddwl am yr holl bethau drwg roeddwn i wedi’u gwneud. Sylweddolais fod angen newid fy mywyd yn llwyr. (Rhufeiniaid 12:2) Roeddwn i’n dreisgar ac yn ymosodol, ac roedd fy mywyd yn gelwydd i gyd.

Sut bynnag, dysgais hefyd o’r Beibl fod Jehofa yn drugarog ac yn faddeugar. (Eseia 1:18) Gweddiais o’r galon ar Jehofa, yn erfyn arno am help i dorri’n rhydd o’r ffordd roeddwn i’n byw. Gyda ei help, yn araf deg, llwyddais i newid fy mhersonoliaeth yn llwyr. Un o’r camau pwysig cyntaf oedd priodi fy nghariad.

Rydw i’n credu fy mod i’n fyw heddiw oherwydd imi roi egwyddorion y Beibl ar waith

Roeddwn i’n 24 oed gyda gwraig a thri o blant ac yn dechrau chwilio am waith gonest. Gydag ychydig iawn o addysg a neb i roi geirda imi, gweddïais yn daer ar Jehofa am help. Yna, es i allan i chwilio am waith. Bob tro, roeddwn i’n dweud fy mod i eisiau newid fy mywyd a bod yn ddyn gonest. Weithiau roeddwn i’n esbonio fy mod i’n astudio’r Beibl ac eisiau bod yn ddyn gwell. Ond cefais fy ngwrthod dro ar ôl tro. O’r diwedd, ar ôl imi fod yn hollol onest am fy hanes mewn un cyfweliad, dywedodd y dyn: “Dw i ddim yn gwybod pam, ond mae rhywbeth yn dweud wrtha i y dylwn i roi swydd ichi.” Rydw i’n credu mae hwn oedd yr ateb i fy ngweddi. Ym mhen amser, cafodd fy ngwraig a minnau ein bedyddio’n Dystion Jehofa.

FY MENDITHION:

Rydw i’n credu fy mod i’n fyw heddiw oherwydd imi roi egwyddorion y Beibl ar waith a byw yn ôl safonau Cristnogol. Mae gen i deulu hapus a chydwybod lân o wybod bod Jehofa wedi maddau imi.

Rydw i wedi bod yn gwasanaethu Jehofa yn llawn amser ers 14 blynedd erbyn hyn, yn helpu eraill i ddysgu am y Beibl, ac yn ddiweddar mae fy ngwraig wedi ymuno â mi. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn bleser i helpu 22 o’m cyd-weithwyr i ddechrau addoli Jehofa. Rydw i’n dal i fynd i ganolfannau siopa, ond nid i dwyllo pobl. Heddiw, bydda i’n edrych am gyfle i rannu fy ffydd ag eraill. Rydw i eisiau rhoi gobaith i bobl am fyd newydd i ddod pan na fydd neb yn cael eu twyllo.​—Salm 37:10, 11.