Neidio i'r cynnwys

A Yw Tystion Jehofa Wedi Newid y Beibl i Gyd-fynd â’u Daliadau?

A Yw Tystion Jehofa Wedi Newid y Beibl i Gyd-fynd â’u Daliadau?

 Nac ydyn. I’r gwrthwyneb, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd un o’n daliadau yn cyd-fynd â’r Beibl, fe newidion ni ein daliadau.

 Ymhell cyn inni ddechrau cyhoeddi’r New World Translation of the Holy Scriptures ym 1950, astudion ni’r Beibl yn ofalus. Fe wnaethon ni lunio ein daliadau gan ddefnyddio’r cyfieithiadau oedd ar gael ar y pryd. Ystyriwch rai o’r pethau y mae Tystion Jehofa yn eu credu ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a phenderfynwch drosoch eich hun a ydyn nhw’n cyd-fynd â dysgeidiaeth y Beibl.

  1.   Credwn: Nid yw Duw yn Drindod. Dywedodd rhifyn Gorffennaf 1882 o Zion’s Watch Tower: “Mae ein darllenwyr yn gwybod ein bod ni’n credu yn Jehofa, yn Iesu, ac yn yr Ysbryd glân, ond ein bod yn gwrthod yn llwyr y ddysgeidiaeth anysgrythurol, mai tri Duw yn un person yw’r rhain, neu fel y mae rhai yn ei ddweud, yn un Duw mewn tri pherson.”

      Mae’r Beibl yn dweud: “Yr ARGLWYDD ein Duw ni sydd un ARGLWYDD.” (Deuteronomium 6:4, Beibl Cysegr-lân) “Nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.” (1 Corinthiaid 8:6, Beibl Cysegr-lân) Dywedodd Iesu ei hun: “Y mae fy Nhad yn fwy na myfi.”​—Ioan 14:28, Beibl Cysegr-lân.

  2.   Credwn: Nid oes y fath beth ag artaith dragwyddol mewn uffern danllyd. Yn rhifyn Mehefin 1882, cymerodd Zion’s Watch Tower ei deitl o Rufeiniaid 6:​23, sef “Cyflog Pechod Yw Marwolaeth,” gan ddweud: “Mor eglur yw’r datganiad hwnnw. Ac mor rhyfedd felly, fod cymaint o bobl sy’n honni eu bod nhw’n derbyn y Beibl fel Gair Duw yn parhau i wrthddweud y datganiad eglur hwnnw, a mynnu eu bod nhw’n credu, a bod y Beibl ei hun yn dysgu, mai bywyd tragwyddol mewn poen arteithiol yw cyflog pechod.”

      Mae’r Beibl yn dweud: “Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.” (Eseciel 18:​4, 20, Beibl Cysegr-lân) Y gosb derfynol i’r rhai sy’n gwrthwynebu Duw yw ‘dinistr tragwyddol,’ nid artaith dragwyddol.​—2 Thesaloniaid 1:9, Beibl Cysegr-lân.

  3.   Credwn: Nid rhywbeth yn y galon yw Teyrnas Dduw, ond llywodraeth go iawn. Dywedodd rhifyn Rhagfyr 1881 o Zion’s Watch Tower: “Bydd sefydlu’r Deyrnas hon, wrth reswm, yn golygu dymchwel pob teyrnas ar y ddaear.”

      Mae’r Beibl yn dweud: “Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.”​—Daniel 2:​44, Beibl Cysegr-lân.

A yw Tystion Jehofa yn dibynnu ar y New World Translation i gefnogi eu daliadau?

 Nac ydyn. Rydyn ni’n dal i ddefnyddio llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn ein gweinidogaeth. Rydyn ni’n dosbarthu copïau o’r New World Translation am ddim fel rhan o’n rhaglen o astudio’r Beibl, ond rydyn ni’n hapus i astudio gyda phobl sy’n well ganddyn nhw gyfieithiadau eraill.