Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Siarad â Phobl Sydd Wedi Dweud yn y Gorffennol “Does Gen i Ddim Diddordeb”?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Siarad â Phobl Sydd Wedi Dweud yn y Gorffennol “Does Gen i Ddim Diddordeb”?

 Oherwydd eu cariad at Dduw a chariad at eu cymdogion, mae Tystion Jehofa’n mwynhau rhannu neges y Beibl â phawb, gan gynnwys rhai sydd wedi dweud yn y gorffennol, “Does gen i ddim diddordeb.” (Mathew 22:37-​39) Mae cariad at Dduw yn ein cymell ni i ddilyn gorchymyn ei Fab i ‘roi tystiolaeth drylwyr.’ (Actau 10:42; 1 Ioan 5:3) Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n cymryd neges Duw i bobl dro ar ôl tro, fel gwnaeth proffwydi Duw. (Jeremeia 25:4) Allan o gariad at ein cymdogion, rydyn ni’n ceisio rhannu’r ‘newyddion da am y Deyrnas’ gyda phawb, gan gynnwys y rhai nad oedden nhw’n dangos diddordeb ar y dechrau.​—Mathew 24:14.

 Wrth inni fynd yn ôl i dai pobl doedd ddim wedi dangos diddordeb, rydyn ni’n aml yn cael ymateb gwahanol. Dyma dri rheswm pam:

  •   Mae pobl yn symud.

  •   Mae rhywun arall yn y cartref yn dangos diddordeb yn ein neges.

  •   Mae pobl yn newid. Gall digwyddiadau yn y Byd neu amgylchiadau personol wneud i rai sylweddoli bod “ganddyn nhw angen ysbrydol” ac yna maen nhw eisiau dysgu am neges y Beibl. (Mathew 5:3) Gall hyd yn oed rhai sy’n ein gwrthwynebu ni newid eu meddyliau, fel gwnaeth yr apostol Paul.​—1 Timotheus 1:​13.

 Er hynny, dydyn ni ddim yn gorfodi neb i dderbyn ein neges. (1 Pedr 3:​15) Rydyn ni’n credu bod rhaid i bawb gwneud dewis ei hun ynglŷn ag addoliad.​—Deuteronomium 30:19, 20.