Neidio i'r cynnwys

AWST 25, 2023
MALAWI

Rhyddhau Fersiwn Diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Tsitseweg

Rhyddhau Fersiwn Diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Tsitseweg

Ar Awst 18, 2023, cafodd fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd ei ryddhau yn Tsitseweg. Gwnaeth y Brawd Kenneth Cook Jr, o’r Corff Llywodraethol ryddhau’r Beibl ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd 2023 “Byddwch yn Amyneddgar”! Cafodd y Gynhadledd ei chynnal yn Neuadd Cynhadledd Lilongwe, Malawi. Cafodd copïau printiedig o’r Beibl eu dosbarthu, ac roedd copïau digidol ar gael i’w lawrlwytho drwy gysylltu dyfeisiadau â JW Box.

Cafodd yr anerchiad hwn ei ddarlledu’n fyw ar sianel loeren JW i ddwy stadiwm yn y wlad, un yn y canol ac un yn y de. Hefyd, cafodd ei ddarlledu i sawl neuadd cynulliad gwledig ac i ran fwyaf o Neuaddau’r Deyrnas ym Malawi. Ar ben hynny, cafodd ei darlledu’n fyw i Neuaddau’r Deyrnas penodol yn nhiriogaethau Tsitseweg ym Mosambîc. Roedd cyfanswm o 77,112 wedi mwynhau’r rhaglen yn y ddwy stadiwm ac yn y neuaddau cynulliad gwledig, tra bod miloedd mwy wedi gwrando ar y rhaglen yn Neuaddau’r Deyrnas.

Tsitseweg yw’r iaith genedlaethol ym Malawi ac mae’n cael ei siarad gan fwy na ddeng miliwn o bobl yn y wlad. Mae hefyd yn cael ei defnyddio ym Mosambîc, De Affrica, Sambia, a Simbabwe. Cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogolei ryddhau yn Tsitseweg yn 2006, a chafodd Cyfieithiad y Byd Newydd yn ei gyfanrwydd ei ryddhau yn 2010. Mae’r brodyr a chwiorydd wrth eu boddau i gael fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn Tsitseweg.

Dywedodd un cyhoeddwr: “Mae llawer o siaradwyr Tsitseweg rydyn ni’n cyfarfod ar y weinidogaeth yn defnyddio cyfieithiadau o’r Beibl gydag iaith hen ffasiwn. Pan ydyn ni’n gofyn iddyn nhw ddarllen adnod o’u Beibl eu hunain, yn aml dydyn nhw ddim yn deall ystyr yr adnod. Ond o gymharu, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn hawdd ei ddeall. Dw i’n edrych ymlaen yn arw i’w ddefnyddio yn y weinidogaeth!”

Rydyn ni’n hyderus bydd fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Tsitseweg yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd, ynghyd â’r rhai sy’n ceisio gwneud ‘beth mae Jehofa eisiau.’—Salm 1:2.