Neidio i'r cynnwys

AWST 23, 2023
NEWYDDION BYD-EANG

Rhyddhau’r Pedair Efengyl yn yr Iaith Awcan

Rhyddhau’r Pedair Efengyl yn yr Iaith Awcan

Ar 13 Awst, 2023, gwnaeth y Brawd Roy Zeeman, aelod o Bwyllgor Cangen Swrinâm, ryddhau llyfrau Mathew, Marc, Luc, ac Ioan yn yr iaith Awcan. Roedd 2, 713 o bobl yn bresennol ar gyfer cyfarfod arbennig a gafodd ei gynnal yn Neuadd Cynulliad Tystion Jehofa yn Paramaribo, Swrinâm. Roedd 691 o bobl eraill yn gwylio’r rhaglen o Neuaddau’r Deyrnas yn Cayenne, Giana Ffrengig, a nifer o leoliadau eraill. Roedd fersiynau digidol o’r llyfrau ar gael yn syth, ond cafodd copïau printiedig o’r Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew hefyd eu dosbarthu. Bydd yr Efengylau eraill ar gael mewn print pan fydd gweddill Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn cael ei ryddhau yn yr iaith Awcan.

Creoliaith yw Awcan, sy’n cael ei siarad yn bennaf gan bobl sy’n byw yn Swrinâm a Giana Ffrengig. Iaith lafar ydy hi ar y cyfan, ac ychydig iawn sydd ar gael yn ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, mae cyhoeddwyr yn y cynulleidfaoedd Awcan yn defnyddio Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Sranantongo yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth. Er bod Sranantongo yn cael ei siarad yn eang, mae llawer o siaradwyr Awcan heb fod yn rhugl. Felly yn aml mae cyhoeddwyr yn gorfod cyfieithu adnodau o’r Beibl yn y weinidogaeth. Dywedodd un cyfieithydd: “Mae’n gyffrous inni gael y cyhoeddiad newydd hwn a fydd yn helpu siaradwyr Awcan o bob oedran a chefndir addysg i gael budd llawn o Air Duw.”

Ynghyd â’n brodyr a chwiorydd sy’n siarad Awcan, rydyn ni’n hyderus bod y Beibl newydd hwn yn mynd i helpu hyd yn oed mwy o bobl ddiffuant i foli Jehofa.—Salm 34:1.