Neidio i'r cynnwys

MEDI 4, 2023
BWRWNDI

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd Diwygiedig yn yr Iaith Cirwndi

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd Diwygiedig yn yr Iaith Cirwndi

Ar Awst 25, 2023, gwnaeth y Brawd Kenneth Cook, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig yn yr iaith Cirwndi. Cafodd y Beibl ei ryddhau yn ystod y Gynhadledd Ranbarthol a gynhaliwyd yn Bujumbura, Bwrwndi. Cafodd y rhaglen ei ffrydio yn fyw i 11 lleoliad drwy gydol tiriogaeth y gangen, gyda 15,084 o bobl yn bresennol. Derbyniodd y rhai oedd yno gopïau printiedig o’r Beibl, ac roedd fformat digidol ar gael i’w lawrlwytho.

Mae tua 13 miliwn o bobl yn siarad Cirwndi yn Bwrwndi. Cafodd y gynulleidfa Cirwndi gyntaf ei sefydlu ym 1969. Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau yn yr iaith Cirwndi ym 1985. Heddiw, mae mwy na 16,900 o frodyr a chwiorydd, mewn 350 o gynulleidfaoedd Cirwndi yn Bwrwndi. Yn 2007, roedd ein brodyr a chwiorydd Cirwndi wrth eu boddau yn cael Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Nawr, maen nhw wedi eu cyffroi o gael Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig cyfan.

Un o’r ymadroddion sy’n disgrifio caredigrwydd Jehofa yn yr iaith Cirwndi ydy “caredigrwydd eithriadol” sy’n amlygu haelioni’r Rhoddwr. Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a chwiorydd a’r llawer o bobl eraill sy’n siarad Cirwndi, a fydd yn teimlo “caredigrwydd eithriadol” Jehofa drwy dudalennau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Cirwndi.—Titus 2:11.