Neidio i'r cynnwys

AWST 4, 2023
ANGOLA

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Nianeca

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Nianeca

Ar Orffennaf 28, 2023, gwnaeth y Brawd Salvador Domingos, aelod o Bwyllgor Cangen Angola, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Nianeca. Cafodd y Beibl ei ryddhau yn ystod y Gynhadledd Ranbarthol “Byddwch yn Amyneddgar”! a gafodd ei chynnal yn Lubango, Talaith Huíla, yn ne Angola. Cafodd y 2,621 o bobl a oedd yn bresennol gopïau printiedig o’r Beibl, ac roedd y fersiwn digidol hefyd ar gael i’w lawrlwytho.

Mae’r rhan fwyaf o bobl Nianeca yn byw yn nhaleithiau Angola, gan gynnwys Benguela, Cunene, Huíla, a Namibe. Mae’r swyddfa gyfieithu yn ninas Lubango yn gofalu am y gwaith o gyfieithu ein cyhoeddiadau i mewn i’r iaith Nianeca.

Yn y gorffennol, gwnaeth rhai cymdeithasau Beiblaidd gynhyrchu ambell i lyfr o’r Beibl ar wahân yn yr iaith Nianeca. Ond Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ydy’r Beibl cyntaf i gael ei ryddhau yn ei gyfanrwydd yn yr iaith hon. Gan fod ’na lawer o dafodieithoedd yn yr iaith Nianeca, gweithiodd y tîm yn galed i gynnwys geiriau bydd y rhan fwyaf o siaradwyr yr iaith yn eu deall.

Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd sy’n siarad yr iaith Nianeca. Nawr, gallan nhw ddefnyddio’r cyfieithiad newydd hwn wrth iddyn nhw helpu llawer mwy o bobl i ddysgu am Jehofa a’i addoli.—Eseia 2:3.