Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 4

Sut i Reoli Eich Arian

Sut i Reoli Eich Arian

“Sicrheir cynlluniau trwy gyngor.”—Diarhebion 20:18

Mae angen arian arnon ni i gyd er mwyn edrych ar ôl y teulu. (Diarhebion 30:8) Wedi’r cwbl, mae ‘arian yn amddiffyn.’ (Pregethwr 7:12) Efallai bydd hi’n anodd ichi siarad am arian fel cwpl, ond peidiwch â gadael i arian achosi problemau yn eich priodas. (Effesiaid 4:32) Dylai cyplau priod ymddiried yn ei gilydd a chydweithio wrth benderfynu sut i wario eu harian.

1 CYNLLUNIWCH YN OFALUS

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau’r gwaith?” (Luc 14:28) Mae’n hanfodol ichi gynllunio gyda’ch gilydd ynglŷn â sut i ddefnyddio eich arian. (Amos 3:3) Penderfynwch beth sydd ei angen arnoch a faint gallwch chi ei fforddio. (Diarhebion 31:16) Hyd yn oed os oes gennych chi ddigon o arian i brynu rhywbeth, dydy hynny ddim yn golygu y dylech chi ei brynu. Ceisiwch osgoi dyled. Gwariwch ddim ond yr arian sydd gennych.—Diarhebion 21:5; 22:7.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Os oes gennych arian dros ben ar ddiwedd y mis, penderfynwch gyda’ch gilydd beth i’w wneud gyda’r arian

  • Os oes gennych ddiffyg arian, gwnewch gynllun pendant i leihau eich costau. Er enghraifft, gallwch baratoi bwyd adref yn lle bwyta allan

2 BYDDWCH YN AGORED AC YN REALISTIG

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Dylai ein hamcanion fod “yn anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg pobl.” (2 Corinthiaid 8:21) Byddwch yn anrhydeddus ac onest gyda’ch cymar am faint rydych yn ei ennill a’i wario.

Siaradwch â’ch cymar cyn gwneud penderfyniadau mawr ynglŷn â’ch arian. (Diarhebion 13:10) Bydd trafod eich arian yn helpu i gadw heddwch yn eich priodas. Ystyriwch eich arian fel arian y teulu ac nid fel arian personol.—1 Timotheus 5:8.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Cytunwch ar faint o arian gallwch ei wario heb orfod trafod y peth

  • Peidiwch ag aros nes i broblem godi cyn ichi drafod eich arian