Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Gofal Duw o Fudd Ichi?

Sut Mae Gofal Duw o Fudd Ichi?

Mae Duw wedi creu ein cyrff â’r gallu i’w hiacháu eu hunain. Pan fydd corff iach yn cael ei dorri, ei grafu, neu ei drywanu, mae’n “rhoi cychwyn ar broses hynod o gymhleth sydd wedi ei dylunio er mwyn gwella clwyfau bach a mawr.” (Johns Hopkins Medicine) Mae’r corff yn gweithredu ar unwaith i stopio’r gwaedu, i ledu’r pibellau gwaed, i fendio’r briwiau, ac i gryfhau’r meinwe.

YSTYRIWCH: Os ydy Duw wedi dylunio ein cyrff i iacháu clwyfau corfforol, onid allwn ni ymddiried yn ei addewid i’n helpu ni i wella o’n briwiau emosiynol hefyd? “Mae e’n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo eu briwiau,” ysgrifennodd y salmydd. (Salm 147:3) Ond, os ydych chi’n dioddef oherwydd trawma emosiynol, sut gallwch chi fod yn sicr y bydd Jehofa yn rhwymo eich briwiau chi—nawr ac yn y dyfodol?

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU INNI AM GARIAD DUW?

Mae Duw yn addo: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di.” (Eseia 41:10) Mae rhywun sy’n gwybod bod Duw yn gofalu amdano yn cael heddwch meddwl ac yn teimlo’n ddigon cryf i ddelio gyda gwahanol dreialon. Yn ôl yr apostol Paul, y tawelwch hwnnw ydy’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.” Ychwanegodd Paul: “O Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni.”—Philipiaid 4:4-7, 9; 2 Corinthiaid 4:7.

Mae’r Ysgrythurau yn ein helpu i gryfhau ein ffydd yn addewidion Jehofa am ddyfodol dynolryw. Er enghraifft, mae Datguddiad 21:4, 5 yn dweud wrthyn ni beth fydd Duw yn ei wneud a pham y gallwn ni ymddiried ynddo i gadw at ei air:

  • “Bydd yn sychu pob deigryn” o lygaid pobl. Bydd Jehofa yn cael gwared ar ein holl ddioddefaint a’n pryder, hyd yn oed os ydyn nhw’n ymddangos yn ddibwys i bobl eraill.

  • Ac yntau “yn eistedd ar yr orsedd” yn y nefoedd, bydd y Brenin Hollalluog, sy’n ben ar yr holl greadigaeth, yn defnyddio ei rym a’i awdurdod i sicrhau nad ydyn ni’n dioddef ac i ddarparu’r help sydd ei angen arnon ni.

  • Mae Jehofa yn gwarantu bod ei addewidion yn “gwbl ddibynadwy ac yn wir.” Hynny yw, gan mai ef ydy’r Gwir Dduw, mae ei enw da yn gwarantu y bydd ei addewidion yn cael eu cyflawni.

“‘Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.’ Dyma’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, ‘Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!’ Meddai wedyn, ‘Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.’”—Datguddiad 21:4, 5

Mae’r bydysawd ynghyd â’r Beibl yn datgelu personoliaeth a rhinweddau ein Tad nefol. Heb ddefnyddio geiriau, mae’r greadigaeth yn ein gwahodd ni i ddod yn ffrindiau agos i Dduw, ond mae’r gwahoddiad hwnnw’n hollol eglur yn y Beibl: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.” (Iago 4:8) Mae Actau 17:27 yn dweud: “Dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni.”

Wrth ichi gymryd amser i ddod i adnabod Duw, byddwch yn dod yn fwy ac yn fwy sicr ei fod yn “gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Beth ydy’r buddion ymarferol sy’n dod o ddibynnu ar Jehofa?

Ystyriwch hanes Toru, sy’n dod o Japan. Cafodd ei fagu gan ei fam, a oedd yn Gristion, ond daeth yn rhan o fyd treisgar yr yakusa, y Mafia Japaneaidd. Mae’n dweud: “Roeddwn i’n credu bod Duw yn fy nghasáu i, a phan oedd rhywun annwyl imi’n marw, roeddwn i’n teimlo bod Duw yn fy nghosbi.” Mae Toru yn cyfaddef ei fod wedi troi’n “berson calon-galed a dideimlad” yn yr awyrgylch a’r meddylfryd dinistriol hwnnw. Ynglŷn â’i uchelgais, mae’n dweud: “Roeddwn i eisiau marw’n ifanc ar ôl lladd rhywun a oedd yn fwy enwog na mi ac ennill clod i mi fy hun oherwydd hynny.”

Fodd bynnag, pan astudiodd Toru a’i wraig, Hannah, y Beibl, gwnaeth Toru newidiadau mawr yn ei fywyd a’i olygwedd. “Gwelais fy ngŵr yn newid o flaen fy llygaid,” meddai Hannah. Nawr, mae Toru yn dweud heb unrhyw amheuaeth: “Yn wir, mae ’na Dduw sy’n gofalu am bob un ohonon ni. Dydy Duw ddim eisiau i neb farw, ac mae’n barod i faddau i bawb sy’n edifarhau am eu camgymeriadau. Mae’n gwrando ar y pethau rydyn ni’n eu dweud dim ond wrtho ef, pethau fyddai neb arall yn eu deall. Yn y dyfodol agos, bydd Jehofa yn cael gwared ar ein holl broblemau, ein dioddefaint, a’n poen. Hyd yn oed nawr, mae’n ein helpu ni yn y ffyrdd mwyaf annisgwyl. Mae’n gofalu amdanon ni ac yn ein hachub ni pan ydyn ni’n teimlo’n isel.”—Salm 136:23.

Mae gan Dduw y gallu i gael gwared ar bob trychineb ac i sychu pob deigryn o’n llygaid ni, ac fe fydd yn gwneud hynny yn fuan iawn. Fel mae profiad Toru yn ei ddangos, mae gwybod am hyn yn rhoi gobaith sicr inni ar gyfer y dyfodol ac yn ein helpu i fyw bywyd gwell heddiw. Hyd yn oed mewn byd sy’n llawn dioddefaint, fe allwch chi elwa ar ofal cariadus Duw.