Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Helpu’r Rhai Sydd â Iechyd Meddwl Gwael

Sut i Helpu’r Rhai Sydd â Iechyd Meddwl Gwael

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—DIARHEBION 17:17.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Mae’n anodd gwybod beth i’w wneud pan mae ffrind yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Ond bydd helpu ef i ddelio â’i sefyllfa yn dangos iddo faint rydych chi’n ei garu.

Sut Gall Hyn Helpu?

‘Byddwch yn gyflym i wrando.’—IAGO 1:19.

Un o’r ffyrdd gorau o helpu’ch ffrind yw gwrando pan mae ef eisiau siarad. Does dim angen dweud llawer, dim ond cydnabod beth mae’n ei ddweud a dangos cydymdeimlad. Cadwch feddwl agored yn hytrach na barnu neu neidio i gasgliad. Mae’n dda i gofio, efallai bydden nhw’n dweud pethau nad ydyn nhw’n eu golygu neu bethau byddan nhw’n eu difaru yn nes ymlaen.—Job 6:2, 3.

‘Siaradwch yn gysurlon.’—1 THESALONIAID 5:14.

Os ydy eich ffrind yn poeni, neu’n teimlo’n dda i ddim, gallwch chi ddangos eich bod chi’n ei garu drwy ei annog a’i gysuro hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod beth i’w ddweud.

“Mae ffrind yn ffyddlon bob amser.”—DIARHEBION 17:17.

Cynigiwch help ymarferol. Byddai’n werth gofyn i’ch ffrind beth gallwch chi ei wneud i helpu yn hytrach na chymryd eich bod chi’n gwybod yn well. Os nad ydyn nhw’n siŵr beth fydd yn helpu, gallech chi awgrymu rhywbeth ymarferol i’w wneud gyda’ch gilydd, fel mynd am dro. Hefyd, gallech chi helpu gyda’r siopa, glanhau, neu rywbeth arall.—Galatiaid 6:2.

‘Byddwch yn amyneddgar.’—1 THESALONIAID 5:14.

Efallai nad ydy eich ffrind yn barod i siarad am ei deimladau, ond gadewch iddo wybod byddwch chi wastad yn barod i wrando. Oherwydd ei salwch, efallai bydd eich ffrind yn dweud neu’n gwneud pethau fydd yn eich brifo. Efallai byddan nhw mewn tymer drwg neu’n canslo trefniadau, ond byddwch yn amyneddgar, a cheisiwch ddeall sut mae’n teimlo wrth ichi ei gefnogi.—Diarhebion 18:24.

Gall Eich Cefnogaeth Wneud Gwahaniaeth

“Dw i’n gwneud yn siŵr bod fy ffrind yn gallu dibynnu arna i. Hyd yn oed os does gen i ddim atebion, dw i’n gwrando’n astud ar beth sydd ganddi i’w ddweud. Weithiau mae gwneud hynny yn ddigon ynddo’i hun i wneud iddi deimlo’n well.”—Farrah, a sy’n ffrind i rywun sy’n dioddef o anhwylder bwyta, gorbryder, ac iselder clinigol.

“Mae gen i ffrind sydd mor garedig a phositif. Gwnaeth hi ofyn imi fynd draw am bryd o fwyd, ac roedd yr awyrgylch mor gariadus a chynnes roedd hi’n hawdd iawn imi siarad am sut o’n i’n teimlo. Gwnaeth hynny wir rhoi hwb imi!”—Ha-eun, sy’n dioddef o iselder clinigol.

“Mae hi mor bwysig i fod yn amyneddgar. Pan mae fy ngwraig yn gwneud rhywbeth sy’n fy mrifo, dw i’n atgoffa fy hun mai’r salwch sy’n siarad, nid hi. Mae hyn yn fy helpu i beidio â cholli fy nhymer, ond i fod yn garedig.”—Jacob, sydd â gwraig sy’n dioddef o iselder clinigol.

“Mae fy ngwraig wedi bod yn gefn imi. Pan mae fy mhryder yn fy llethu, dydy hi ddim yn fy ngorfodi i wneud rhywbeth dydw i ddim eisiau ei wneud. Weithiau mae hynny’n golygu ei bod hi’n colli allan ar rywbeth mae hi wir eisiau ei wneud. Mae hi mor hael ac anhunanol, mae hi werth y byd i mi!”—Enrico, sy’n dioddef o anhwylder gorbryder.

a Mae rhai enwau wedi cael eu newid.