Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB

4 | Trechu Casineb Gyda Help Duw

4 | Trechu Casineb Gyda Help Duw

Dysgeidiaeth o’r Beibl:

“Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth.”GALATIAID 5:22, 23.

Beth Mae’n ei Olygu:

Gallwn ni dorri’r cylch o gasineb gyda help Duw. Mae ei ysbryd glân yn gallu ein helpu ni i gael rhinweddau fyddwn ni byth yn gallu eu meithrin ar ein pennau’n hunain. Yn lle ceisio trechu casineb yn ein nerth ein hunain, mae’n dda i ddibynnu ar help gan Dduw. Os ydyn ni, byddwn ni’n profi’r un peth â’r apostol Paul a ysgrifennodd: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.” (Philipiaid 4:13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yna byddwn ni’n gallu dweud: “Daw [fy] help oddi wrth yr ARGLWYDD.”—Salm 121:2.

Beth Allwch Chi ei Wneud:

“Mae Jehofa wedi fy nhrawsffurfio o ddyn treisgar i ddyn heddychlon.”—WALDO

Gweddïwch ar Jehofa gan ofyn yn daer am ei ysbryd glân. (Luc 11:13) Gofyn iddo eich helpu chi i feithrin rhinweddau Duwiol yn eich bywyd. Astudiwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am rinweddau sy’n gwrthwynebu casineb, fel cariad, heddwch, amynedd, a hunanreolaeth. Edrychwch am ffyrdd i ddatblygu’r rhinweddau hyn yn eich bywyd, a threuliwch amser gyda rhai sy’n ceisio gwneud yr un peth. Bydd pobl felly yn ein helpu ni i annog ein gilydd i “ddangos cariad a gwneud daioni.”—Hebreaid 10:24.