Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Silindr clai yn cynnwys yr enw Belshasar

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Sut mae archaeoleg yn cadarnhau rôl Belshasar o Fabilon?

ERS blynyddoedd lawer, mae beirniaid y Beibl wedi honni nad oedd y Brenin Belshasar, a sonnir amdano yn llyfr Daniel, wedi bodoli o gwbl. (Dan. 5:1) Roedden nhw’n credu hyn am nad oedd archaeolegwyr yn gallu cael hyd i unrhyw dystiolaeth ei fod wedi bodoli. Sut bynnag, newidiodd hynny ym 1854. Pam?

Yn y flwyddyn honno, fe archwiliodd conswl Prydeinig o’r enw J. G. Taylor rai o adfeilion dinas hynafol Ur, ardal sydd yn ne Irac heddiw. Yno, mewn tŵr mawr, fe ddarganfyddodd sawl silindr clai. Mae’r silindrau, tua phedair modfedd (10 cm) o hyd, wedi eu harysgrifio ag ysgrifen gynffurf. Ar un o’r silindrau mae ’na weddi ar gyfer hir oes i Nabonidus, brenin Babilon, a’i fab hynaf, Belshasar. Roedd rhaid i’r beirniaid gytuno: Mae’r darganfyddiad hwn yn profi bod Belshasar wedi bodoli.

Sut bynnag, nid yn unig y mae’r Beibl yn dweud bod Belshasar wedi bodoli ond mae hefyd yn dweud ei fod yn frenin. Ond eto, roedd y beirniaid yn bwrw amheuon. Er enghraifft, ysgrifennodd William Talbot, gwyddonydd o Loegr, yn y 19eg ganrif fod rhai yn datgan bod “Bel-sar-ussur [Belshasar] yn rheoli gyda Nabonidus ei dad. Ond nid oes gennym y rhithyn lleiaf o dystiolaeth dros hyn.”

Ond, daeth diwedd ar y ddadl honno pan ddatgelodd ysgrifau ar silindrau clai eraill fod tad Belshasar, y Brenin Nabonidus, i ffwrdd o’r brifddinas am flynyddoedd ar y tro. Beth ddigwyddodd yn ystod ei absenoldeb? “Pan aeth Nabonidus yn alltud,” meddai’r Encyclopaedia Britannica, “fe ymddiriedodd yr orsedd a rhan fwyaf o’i fyddin i Belshasar.” Felly fe wasanaethodd Belshasar fel cyd-reolwr ym Mabilon yn ystod y cyfnod hwnnw. Gan hynny, dywedodd yr archaeolegwr ac ieithydd Alan Millard ei fod yn briodol fod “llyfr Daniel yn galw Belshasar yn ‘frenin.’”

Wrth gwrs, i weision Duw, y brif dystiolaeth sy’n dangos bod llyfr Daniel yn ddibynadwy ac wedi ei ysbrydoli gan Dduw yw’r hyn sydd yn y Beibl ei hun.—2 Tim. 3:16.