Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BalanceFormcreative/iStock via Getty Images Plus

Brwydro yn Erbyn Unigrwydd Drwy Helpu Eraill—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud

Brwydro yn Erbyn Unigrwydd Drwy Helpu Eraill—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud

 Mae pobl o gwmpas y byd yn teimlo’n unig a’u bod nhw wedi colli cysylltiad ag eraill. Mae rhai arbenigwyr ym maes iechyd yn credu mai un ffordd i frwydro yn erbyn unigrwydd yw drwy helpu pobl eraill.

  •   “Mae helpu eraill mewn angen yn gallu rhoi ystyr i’n bywydau a lleihau teimladau o unigrwydd a diffyg cysylltiad.”—U.S. National Institutes of Health.

 Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol ar sut gallwn ni helpu eraill. Mae rhoi ei gyngor ar waith yn gallu ein helpu ni i frwydro yn erbyn unigrwydd.

Beth allwch chi ei wneud?

 Byddwch yn hael. Chwiliwch am gyfle i dreulio amser gyda phobl eraill, wyneb yn wyneb. Byddwch yn barod i rannu. Pan wnewch chi hynny, mae’n debyg y bydd eraill yn ddiolchgar, a byddwch yn dod yn ffrindiau.

  •   Egwyddor o’r Beibl: “Parhewch i roi, a bydd pobl yn rhoi i chithau.”—Luc 6:38.

 Defnyddiwch eich egni i helpu eraill. Chwiliwch am ffyrdd i helpu eraill sy’n mynd drwy amser anodd. Efallai bydd hynny yn golygu gwrando a chydymdeimlo neu gynnig help ymarferol a fydd yn ysgafnu’r baich.

  •   Egwyddor o’r Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

 Am fwy o wybodaeth ar sut i gadw perthynas dda ag eraill, gweler yr erthygl “Perthynas â Theulu a Ffrindiau.”