Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Oedd Ioan Fedyddiwr yn Berson Go Iawn?

A Oedd Ioan Fedyddiwr yn Berson Go Iawn?

 Mae’r Efengylau yn sôn am ddyn o’r enw Ioan Fedyddiwr, a bregethodd am Deyrnas Dduw yn Jwdea. Ydy beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyn hwn yn gywir? Ystyriwch:

  •   Mae’r Beibl yn dweud: “Dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. Dyma’r neges oedd ganddo, ‘Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.’” (Mathew 3:1, 2) Oes ffynonellau eraill yn cadarnhau hyn? Oes.

     Yn y ganrif gyntaf, disgrifiodd yr hanesydd Flavius Josephus ddyn, sef “Ioan yr hwn a elwid y Bedyddiwr,” a wnaeth ‘ddysgu’r Iddewon i fyw bywydau da,’ i ymarfer “eu crefydd tuag at Dduw, ac felly gymeryd eu bedyddio” gan Ioan.—Hynafiaethau yr Iuddewon, Llyfr XVIII.

  •   Mae’r Beibl yn dweud bod Ioan wedi ceryddu Herod Antipas, a oedd yn rheoli dros Galilea a Perea. Roedd Herod yn honni ei fod yn Iddew a oedd yn dilyn Cyfraith Moses. Dywedodd Ioan wrth Herod nad oedd hi’n iawn iddo briodi gwraig ei hanner brawd, Herodias. (Marc 6:18) Mae’r manylyn hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan ffynonellau eraill.

     Dywedodd yr hanesydd Josephus am Antipas: “Syrthiodd mewn cariad â Herodias” ac “anturiodd siarad â hi yn nghylch priodas rhyngddynt.” Cytunodd Herodias a gadael ei gŵr er mwyn priodi Antipas.

  •   Mae’r Beibl yn dweud: “Roedd pobl o Jerwsalem a phobman arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan at [Ioan]. Pan oedden nhw’n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.”—Mathew 3:5, 6.

     Mae Josephus hefyd yn cefnogi hyn gan nodi fod y bobl wedi dod yn “dorfeydd” i weld Ioan a’u bod nhw wedi ‘cynhyrfu yn fawr trwy wrando ar ei eiriau.’

 Yn amlwg, roedd Josephus yn ystyried Ioan Fedyddiwr yn berson go iawn. A gallwn ninnau hefyd.