Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Sut i Fod yn Dad Da

Sut i Fod yn Dad Da

 Beth ydy rôl tad?

  •   Cyn i’ch plentyn gael ei eni. Mae’r math o ŵr ydych chi nawr yn dangos sut fath o dad fyddwch chi yn nes ymlaen. Mae’r llyfr Do Fathers Matter? yn dweud:

     “Mae tad sy’n helpu ei bartner i brynu nwyddau tra ei bod hi’n disgwyl, neu’n mynd â hi at y doctor, ac yn gweld y ffetws ar sgan uwchsain neu’n clywed curiad ei galon yn fwy tebygol o gael rhan fwy yn y teulu ar ôl i’r babi gael ei eni.”

     “Gwnes i bopeth yn fy ngallu i wneud i fy ngwraig deimlo nad oedd hi’n mynd trwy hyn ar ei phen ei hun. Gwnaethon ni hyd yn oed addurno ystafell y babi gyda’n gilydd. Roedd hi’n amser arbennig i’r ddau ohonon ni tra oedden ni’n disgwyl i’r babi gyrraedd.”—James.

     Egwyddor o’r Beibl: “Wrth ichi ofalu, nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.”—Philipiaid 2:4.

  •   Ar ôl i’ch plentyn gael ei eni. Drwy chwarae gyda’ch plentyn, ei ddal yn eich breichiau, a helpu i ofalu amdano, gallwch chi ffurfio perthynas agos rhyngoch chi. Mae popeth rydych chi’n ei wneud yn eich rôl fel tad yn dylanwadu ar ddatblygiad eich plentyn. Mae’r berthynas rydych chi’n ei chreu yn dangos cymaint rydych chi’n trysori eich plentyn.

     “Dos i lawr at lefel dy blentyn. Chwaraea. Bydda’n wirion. Paid â chymryd dy hun o ddifri, a chofia, bydd dy blentyn yn dysgu beth ydy cariad oddi wrthot ti fel rhiant.”—Richard.

     Egwyddor o’r Beibl: “Yr ARGLWYDD sy’n rhoi meibion i bobl; gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth.”—Salm 127:3.

  •   Wrth i’ch plentyn dyfu. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n agos at eu tadau yn gwneud yn well yn yr ysgol. Mae hefyd yn dangos bod ganddyn nhw lai o broblemau emosiynol, a’u bod nhw’n llai tebygol o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau, neu droseddu. Felly cymerwch yr amser i feithrin berthynas dda gyda’ch plentyn.

     “Dywedodd fy mab pan symudodd allan mai un o’r pethau byddai’n ei golli mwyaf fyddai’r sgyrsiau roedden ni’n eu cael ar deithiau hir neu amser swper. Cawson ni rai o’n sgyrsiau pwysicaf pan doeddwn i ddim yn eu disgwyl nhw, ac roedd hynny am ein bod ni’n treulio cymaint o amser gyda’n gilydd.”—Dennis.

     Egwyddor o’r Beibl: “Gwyliwch yn ofalus iawn eich bod chi’n cerdded, nid fel pobl annoeth, ond fel pobl ddoeth, gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau, oherwydd bod y dyddiau’n ddrwg.”—Effesiaid 5:15, 16.

 Sut mae rôl tad yn unigryw?

 Yn draddodiadol, mae pobl yn disgwyl i’r tad amddiffyn y teulu a gofalu am eu hanghenion materol, tra bod y fam yn gofalu am eu hanghenion emosiynol. (Deuteronomium 1:31; Eseia 49:15) Wrth gwrs, mae hynny’n gallu amrywio o un teulu i’r llall. Gan ddweud hynny, mae ymchwilwyr yn dweud bod y ddau riant yn cyfrannu rhywbeth unigryw i’r teulu. a

 Mae Judith Wallerstein yn arbenigwraig ar deuluoedd, a dyma ysgrifennodd hi am ei phrofiad hi ei hun: “Pan gafodd fy merch a oedd yn 12 ar y pryd ei tharo gan gar, roedd hi eisiau ei thad yno yn yr ambiwlans efo hi am ei bod hi’n teimlo’n saffach efo fo yno i reoli’r sefyllfa. Ond yna, pan oedd hi yn yr ysbyty, roedd hi eisiau fi i eistedd wrth ei hochr drwy’r dydd i’w chysuro hi.” b

 “Mae tad yn gallu helpu teulu i fod yn saff ac yn sefydlog mewn ffordd efallai fyddai’n anodd i fam ei gwneud ar ei phen ei hun. Ond eto, mae mam yn creu awyrgylch cariadus lle mae’r plant yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad yn agored gan wybod y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall. Felly mae mam a dad yn gweithio fel tîm.”—Daniel.

 Egwyddor o’r Beibl: “Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud, a paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti.”—Diarhebion 1:8.

 Tadau a’u merched

 Fel tad, rydych chi’n dysgu eich merch sut mae hi’n haeddu cael ei thrin gan ddynion. Mae hi’n dysgu’r wers honno mewn dwy ffordd:

  •   Drwy weld sut rydych chi’n trin ei mam. Os ydych chi’n caru ac yn parchu eich gwraig, bydd eich merch yn dysgu pa rinweddau sy’n bwysig wrth ddewis gŵr yn y dyfodol.—1 Pedr 3:7.

  •   Drwy weld sut rydych chi’n ei thrin hi. Os ydych chi’n parchu eich merch, bydd hi’n dysgu i barchu hi ei hun. Bydd hi hefyd yn dysgu mai dyna sut dylai dynion eraill ei thrin hi hefyd.

     Ar y llaw arall, os ydy tad yn pigo ar feiau ei ferch yn ddi-baid, gall hynny chwalu ei hunan-werth a gwneud iddi edrych am gymeradwyaeth oddi wrth ddynion eraill—dynion sy’n poeni dim am beth sydd orau iddi.

     “Mae merch sy’n teimlo cariad a chefnogaeth ei thad yn llai tebygol o syrthio mewn cariad â rhywun fydd yn ŵr gwael.”—Wayne.

a Mae llawer o famau wedi llwyddo i fagu eu plant heb help gŵr.

b O’r llyfr The Unexpected Legacy of Divorce.