Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Neilltuwch Amser i Fod Gyda’ch Gilydd

Neilltuwch Amser i Fod Gyda’ch Gilydd

 Mae llawer o wŷr a gwragedd yn ei chael hi’n anodd siarad â’i gilydd, hyd yn oed pan fyddan nhw yng nghwmni ei gilydd. Beth yw’r rhesymau?

 Gyda’ch gilydd ond eto ar wahân—pam?

  •   Blinder

     “Pan fydd gynnon ni amser i siarad â’n gilydd, un ai bydd fy ngŵr wedi blino neu fi fydd wedi blino. Pan fydda i wedi blino, bydd pethau bach yn mynd ar fy nerfau. Waeth inni wylio’r teledu ddim.”—Anna.

  •   Dyfeisiau electronig yn tynnu ein sylw

     “Gall cyfryngau cymdeithasol ac adloniant ar-lein lyncu eich amser. Gallwch chi dreulio oriau ar bethau fel hyn, heb siarad â’ch priod o gwbl. Waeth ichi beidio â bod yn yr un ystafell.”—Katherine.

  •   Diddordebau gwahanol

     “Ar ôl i ngŵr ddod gartre o’i waith, fydd e’n treulio llawer o amser gyda’i hobïau. Mae’n gweithio’n galed iawn felly mae’n haeddu treulio amser ar ei ben ei hun yn gwneud beth mae e’n ei hoffi. Ond byddai’n braf cael treulio mwy o amser gyda’n gilydd.”—Jane.

  •   Gwaith

     “Oherwydd technoleg, mae’r ffin rhwng gwaith a bywyd teuluol braidd yn aneglur bellach. Lawer tro, bydda i’n cael fy hun yn ateb negeseuon testun ac e-byst gwaith, lle gallwn i fod yn treulio amser efo fy ngwraig.”—Mark.

 Beth allwch chi ei wneud?

  •   Ceisiwch ddeall bod treulio amser gyda’ch priod yn angenrheidiol, nid rhywbeth i’w wneud yn achlysurol yn unig.

     Egwyddor o’r Beibl: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.

     Rhywbeth i’w ystyried: Ydy’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dangos eich bod chi’n ystyried eich priodas yn bwysicach na’ch gwaith neu’ch hobïau? Ydy eich priod ond yn cael yr ychydig amser sydd ar ôl wedi ichi orffen gwaith neu dreulio amser ar eich hobïau?

     Awgrym: Peidiwch â gadael pethau i hap a damwain. Trefnwch gyfnodau penodol gyda’ch priod heb unrhyw beth arall i dynnu eich sylw.

     “Dw i wrth fy modd pan fydd fy ngŵr yn gwneud cynlluniau jest i’r ddau ohonon ni. Mae’n gwneud imi deimlo’n sbesial, ac yn fy sicrhau ei fod eisiau bod yn fy nghwmni. Mae hynny’n gwneud imi ei garu o hyd yn oed yn fwy.”—Anna.

  •   Dysgwch ddweud “dim nawr” i’ch dyfeisiau electronig.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae . . . amser penodol i bopeth.”—Pregethwr 3:1.

     Rhywbeth i’w ystyried: Pa mor aml bydd neges testun yn tynnu eich sylw oddi ar eich priod?

     Awgrym: Ceisiwch gael o leiaf un pryd gyda’ch gilydd bob dydd—a gadewch eich ffonau mewn ystafell arall. Mae bwyta prydau gyda’ch gilydd yn gyfle da i drafod digwyddiadau’r dydd.

  •   Pan fydd yn bosib, gwnewch waith tŷ a siopa gyda’ch gilydd.

     Egwyddor o’r Beibl: “‘Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un.’ Wrth weithio gyda’i gilydd mae’r ddau berson ar eu hennill.”—Pregethwr 4:9.

     Rhywbeth i’w ystyried: Pa mor aml byddwch chi a’ch priod yn mynd ar eich pennau’ch hunain i wneud pethau dros y teulu, fel siopa am fwyd?

     Awgrym: Gwnewch bethau gyda’ch gilydd, hyd yn oed os ydy un ohonoch chi’n gallu gwneud y dasg ar ei ben ei hun.

     “Ceisiwch ddefnyddio tasgau fel siopa am fwyd, golchi llestri, plygu dillad, a garddio fel cyfleoedd i dreulio amser gyda’ch gilydd.”—Nina.

  •   Byddwch yn rhesymol

     Egwyddor o’r Beibl: “Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig.”—Philipiaid 4:5.

     Rhywbeth i’w ystyried: Sut gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi ddim yn disgwyl gormod gan eich priod?

     Awgrym: Beth am drafod y peth i weld beth ydy anghenion y ddau ohonoch chi. Penderfynwch sut gallwch chi a’ch priod dreulio amser mewn ffordd sy’n plesio’r ddau ohonoch chi.

     “Mae fy ngŵr yn llawn egni, ond dw i’n blino’n hawdd oherwydd fy iechyd. Yn aml, bydda i’n ei annog, ‘Dos ma’s a chael hwyl, a wna i dy weld ti pan ddoi di’n ôl.’ Bydda i’n aros gartre am yr orffwys dw i angen, tra bydd e’n mynd ma’s am yr ymarfer corff sydd ei angen arno fe. Bydd y ddau ohonon ni’n teimlo’n well o wneud beth ’dyn ni angen ei wneud.”—Daniela.

 Cwestiynau i’w trafod

 Yn gyntaf, meddyliwch am y cwestiynau canlynol ar eich pennau eich hunain. Yna, trafodwch eich atebion gyda’ch gilydd.

  •   Beth fyddech chi’n dweud yw’r sefyllfa nawr, ydych chi a’ch priod yn treulio digon o amser gyda’ch gilydd?

  •   Pa ganmoliaeth gallwch chi roi i’ch priod am ei ymdrech i dreulio amser gyda chi?

  •   Beth fyddech chi’n hoffi’ch priod i’w wneud yn well?

  •   Pa mor aml mae dyfeisiau electronig yn tynnu eich sylw a rhwystro chi rhag gwrando’n iawn ar eich priod?

  •   Sut gall y ddau ohonoch chi fod yn rhesymol ynglŷn â beth rydych chi’n disgwyl oddi wrth eich gilydd?

  •   Pa newidiadau gall y ddau ohonoch chi eu gwneud yr wythnos hon i gael amser gyda’ch gilydd heb unrhyw beth i dynnu eich sylw?