Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Sut i Adael Gwaith yn y Gweithle

Sut i Adael Gwaith yn y Gweithle

 Oherwydd technoleg, mae cyflogwyr, cyd-weithwyr, a chleientiaid yn aml yn disgwyl inni fod ar gael rownd y rîl. Gall hynny ei gwneud hi’n anodd cadw cydbwysedd rhesymol rhwng ein gwaith a phethau pwysig eraill, fel ein bywyd teuluol, a’n priodas.

 Beth ddylech chi ei wybod?

  •   Os nad ydych chi’n ofalus, gall technoleg wneud i’ch gwaith amharu ar eich bywyd priodasol. Mae’n hawdd teimlo bod rhaid ichi ateb pob neges neu alwad ffôn yn syth, hyd yn oed tu allan i oriau gwaith.

     “Mae i weld yn amhosib byw bywyd syml dyddiau yma. Mae e-byst a galwadau ffôn gan gwaith yn ei gwneud hi’n anodd iawn treulio amser gyda’r teulu. Ac yn y pen draw, y briodas sy’n dioddef.”—Jeanette.

  •   Er mwyn cadw cydbwysedd, mae’n rhaid ichi fod yn effro i faint o amser rydych chi’n ei roi i’ch gwaith, ac i’ch teulu. Os nad ydych chi’n trefnu’ch amser, mae’n fwy tebygol y bydd eich gwaith yn amharu ar eich priodas.

     “Fel arfer, amser gyda’ch cymar ydy’r peth cyntaf i fynd oherwydd ’dyn ni’n cymryd yn ganiataol y byddan nhw’n deall, byddan nhw’n maddau inni, a bydd ’na ddigon o amser i dreulio gyda nhw wedyn.”—Holly.

 Sut i gadw gwaith yn ei le

  •   Rhowch eich priodas yn gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud: “Ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno.” (Mathew 19:6) Mae’n debyg fyddech chi ddim yn gadael i neb eich gwahanu chi oddi wrth eich cymar, felly pam gadael i’ch gwaith wneud hynny?

     “Mae rhai cleientiaid yn meddwl bod gynnon nhw hawl i’ch amser unrhyw adeg maen nhw eisiau am eu bod nhw’n eich talu chi. Ond i mi, fy mhriodas ydy’r peth pwysicaf, felly bydda i’n dweud wrthyn nhw pryd dw i ar gael, ac y bydda i’n cysylltu a nhw yn ystod yr oriau hynny.”—Mark.

     Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydy hi’n amlwg fy mod i’n ystyried fy mhriodas yn bwysicach na fy ngwaith?’

  •   Peidiwch â bod ofn gwrthod gwaith. Mae’r Beibl yn dweud: “Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.” (Diarhebion 11:2) Weithiau, y peth gorau i’w wneud ydy dweud na wrth waith ychwanegol, neu ei roi i rywun arall. Mae hynny’n beth doeth a gwylaidd i’w wneud.

     “Dw i’n blymar, felly yn aml iawn mae pobl yn ffonio fi mewn panig am fod rhywbeth wedi mynd o’i le. Ond os nad ydyn nhw’n gallu disgwyl nes bod gen i’r amser i ddatrys y broblem, dw i’n eu cyfeirio nhw at rywun arall.”—Christopher.

     Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Os byddai gwaith ychwanegol yn gwneud i fy nghymar deimlo eu bod nhw ddim yn cael digon o sylw, ydw i’n fodlon gwrthod y gwaith hwnnw?’ A fyddai eich cymar yn cytuno â’ch ateb?

  •   Neilltuwch amser i dreulio gyda’ch gilydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae . . . amser penodol i bopeth.” (Pregethwr 3:1) Mae’n bwysicach byth eich bod chi’n trefnu i dreulio amser gyda’ch gilydd pan mae pethau’n brysur yn eich gwaith.

     “Fel arfer, pan mae pethau’n mynd yn brysur iawn, ’dyn ni’n trefnu amser lle gallwn ni roi ein sylw llawn i’n gilydd, hyd yn oed os ydyn ni ond yn cael pryd o fwyd, neu’n mynd am dro ar y traeth.”—Deborah.

     Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n neilltuo amser penodol i roi fy sylw llawn i fy nghymar?’ A fyddai eich cymar yn cytuno â’ch ateb?

  •   Trowch eich dyfeisiau i ffwrdd. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Dewis y peth gorau i’w wneud bob amser.’ (Philipiaid 1:10) A allwch chi ddiffodd eich dyfeisiau bob hyn a hyn fel bod negeseuon a galwadau gwaith ddim yn tynnu eich sylw?

     “Dw i’n gwneud fy ngorau glas i orffen gwaith ar amser penodol. Ar ôl hynny, dw i’n mudo fy ffôn.”—Jeremy.

     Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n teimlo bod rhaid imi adael fy nyfeisiau ymlaen rhag ofn bod fy mòs neu gleient eisiau rhywbeth?’ A fyddai eich cymar yn cytuno â’ch ateb?

  •   Byddwch yn rhesymol. Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i bawb weld eich bod yn rhesymol.” (Philipiaid 4:5, New World Translation) Y gwir amdani yw, efallai bydd gwaith yn tarfu ar eich amser gyda’ch gilydd bob hyn a hyn. Er enghraifft, efallai bod natur gwaith eich cymar yn golygu bod rhaid iddo ef neu hi fod ar gael y tu allan i oriau gwaith arferol. Felly, peidiwch â gofyn mwy gan eich cymar na sy’n rhesymol.

     “Mae fy ngŵr yn rhedeg busnes bach, ac mae’n aml yn gorfod delio â phethau ar frys. Mae hynny’n mynd ar fy nerfau weithiau pan mae’n digwydd tu allan i oriau gwaith. Ond ’dyn ni dal yn treulio lot o amser gyda’n gilydd, felly mae pethau’n gweithio allan yn iawn.”—Beverly.

     Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n dangos fy mod i’n deall pa mor brysur ydy fy nghymar drwy beidio â mynnu gormod o amser a sylw ganddo ef neu hi?’ A fyddai eich cymar yn cytuno â’ch ateb?

 Cwestiynau i’w trafod

 Yn gyntaf, meddyliwch am y cwestiynau canlynol ar eich pennau eich hunain. Yna, trafodwch eich atebion gyda’ch gilydd.

  •   Ydy eich cymar erioed wedi cwyno eich bod chi’n dod a’ch gwaith adref gyda chi? Os felly, ydych chi’n cytuno?

  •   Sut yn union gallwch chi wella o ran cadw cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd teuluol?

  •   Ydych chi erioed wedi meddwl bod eich cymar yn cael trafferth cadw gwaith yn ei le? Beth wnaeth wneud ichi feddwl hynny?

  •   Oes ’na unrhyw newidiadau fyddech chi’n hoffi i’ch cymar eu gwneud er mwyn bod yn fwy cytbwys?