Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU

Sut i Helpu Plant i Ymdopi â Methiant

Sut i Helpu Plant i Ymdopi â Methiant

 Yn hwyr neu yn hwyrach, bydd eich plant yn wynebu rhyw fath o fethiant neu rwystr. Sut gallwch chi eu helpu?

 Beth ddylech chi ei wybod?

 Mae methiant yn rhan o fywyd. Mae’r Beibl yn dweud: “Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2) Mae plant hefyd yn gwneud camgymeriadau. Ond ar yr ochr bositif, mae camgymeriadau yn gallu rhoi cyfle i blant feithrin cryfder. Nid yw pob plentyn yn cael ei eni gyda’r cryfder hwn, ond mae’n bosib ei ddatblygu. Mae mam o’r enw Laura yn dweud: “Mae fy ngŵr a minnau wedi gweld bod hi’n well i blant ddysgu sut i ddelio â methiant yn hytrach na chogio fod popeth yn iawn. Maen nhw’n gallu dysgu sut i beidio â rhoi’r ffidil yn y to pan na fydd popeth yn llwyddo.”

 Mae llawer o blant yn ei chael hi’n anodd delio â methiant. Oherwydd bod eu rhieni wedi eu cysgodi rhag cyfrifoldeb, mae rhai plant yn ei chael hi’n anodd delio â methiant. Er enghraifft, weithiau pan fydd plentyn yn cael marciau gwael yn yr ysgol, bydd rhai rhieni yn beio’r athrawon. Neu pan fydd plentyn yn ffraeo gyda ffrind, bydd y rhieni yn rhoi’r bai ar y ffrind yn syth bin.

 Ond sut gall plant ddysgu bod yn gyfrifol am eu camgymeriadau os ydy eu rhieni yn eu cysgodi rhag y canlyniadau?

 Beth allwch chi ei wneud?

  •   Dysgwch eich plant fod canlyniadau i’w gweithredoedd.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau.”—Galatiaid 6:7.

     Mae canlyniadau i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Mae difrod yn costio. Mae pris i’w dalu am gamgymeriadau. Dylai plant wybod bod effaith i bob gweithred, a dylen nhw deimlo cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd. Felly, ceisiwch osgoi beio rhywun arall neu wneud esgus dros eich plant. Yn hytrach, gadewch iddyn nhw wynebu’r canlyniadau mewn modd sy’n addas ar gyfer eu hoedran. Wrth gwrs, mae’n bwysig bod y plentyn hefyd yn gallu gweld y cysylltiad rhwng eu hymddygiad drwg a’r canlyniadau sy’n dilyn.

  •   Helpwch eich plant i ddod o hyd i’r atebion.

     Egwyddor o’r Beibl: “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed.”—Diarhebion 24:16.

     Gall methiant fod yn boenus, ond nid yw hynny’n ddiwedd y byd. Helpwch eich plant i ganolbwyntio ar sut y gallan nhw osgoi y methiant y tro nesaf yn hytrach na chwyno am olwg annheg y sefyllfa o’u safbwynt nhw. Er enghraifft, os ydy eich mab wedi cael marciau gwael yn yr ysgol, helpwch ef i geisio bod yn benderfynol o astudio yn galetach a gwneud yn well y tro nesaf. (Diarhebion 20:4) Os ydy eich merch wedi ffraeo gyda ffrind, helpwch hi i ddeall sut y gallith hi ymddiheuro, hyd yn oed os nad hi oedd ar fai..—Rhufeiniaid 12:18; 2 Timotheus 2:24.

  •   Dysgwch eich plant i fod yn wylaidd.

     Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi.”—Rhufeiniaid 12:3.

     Dydy dweud wrth eich plentyn ei fod yn well na phawb arall ddim yn beth realistig nac yn ei helpu ryw lawer. Wedi’r cwbl, dydy plant sy’n gwneud yn dda yn yr ysgol ddim yn cael marciau perffaith bob amser. A dydy plant sy’n gwneud yn dda mewn rhyw gamp chwaraeon ddim yn ennill bob tro. Mae plant sydd ag agwedd wylaidd yn gallu ymdopi’n well â methiant a rhwystrau.

     Mae’r Beibl yn dweud bod treialon yn gallu ein gwneud ni’n gryfach a’n helpu ni i feithrin dyfalbarhad. (Iago 1:2-4) Felly, er bod methiant a rhwystrau yn gallu digalonni plant, fe allwch chi eu helpu i weld y darlun mawr.

     Mae dysgu eich plant i feithrin cryfder yn gofyn am amser ac ymdrech. Ond fe fydd yn talu ar ei ganfed pan fydd eich plant yn eu harddegau. Mae’r llyfr Letting Go With Love and Confidence yn dweud: “Mae pobl ifanc sy’n gwybod sut i ymdopi â’u problemau yn llai tebygol o wneud rhywbeth peryglus neu ffôl pan fydd bywyd yn eu llethu. Maen nhw’n fwy tebygol o ffynnu mewn sefyllfaoedd newydd neu annisgwyl.” Fe fydd y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd yn eu helpu nawr ac yn y dyfodol.

 Awgrym: Gosodwch yr esiampl. Mae’r ffordd rydych chi’n delio â siom yn eich bywyd chi yn hyfforddi eich plant i ymdopi yn yr un modd.