Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Beth Dylai Rhieni ei Wybod am Ofal Plant

Beth Dylai Rhieni ei Wybod am Ofal Plant

 Mae rhai rhieni sy’n gweithio yn penderfynu anfon eu plant bach i feithrinfa, neu ganolfan gofal plant. A fydd hynny yn gwneud lles i’ch plentyn?

 Cwestiynau dylech chi eu gofyn

 A fydd anfon fy mhlentyn i ganolfan gofal plant yn amharu ar ein perthynas? Efallai. Mae ymennydd plentyn yn datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac mae hynny’n effeithio ar y ffordd mae’n ffurfio perthynas ag eraill. Treuliwch gymaint o amser â phosib gyda’ch plentyn yn ystod y cyfnod pwysig hwn.—Deuteronomium 6:6, 7.

  •    Dylai rhieni sy’n ystyried gofal plant feddwl am sut byddan nhw’n cadw perthynas agos â’u plentyn.

 A fydd gofal plant yn gwanhau eich dylanwad? Efallai. Dywedodd y llyfr Hold On to Your Kids: “Y mwyaf o amser mae plant ifanc yn treulio gyda’u cyfoedion, y mwyaf maen nhw’n dylanwadu ar ei gilydd.”

  •    Dylai rhieni sydd yn ystyried gofal plant bwyso a mesur a fyddan nhw’n colli dylanwad ar fywydau eu plant.

 A fydd gofal plant yn rhoi mantais i’ch plentyn pan fydd yn mynd i’r ysgol? Dyna mae rhai’n ei ddweud. Ond mae eraill yn dweud bod gofal plant ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i ddatblygiad y plentyn. Naill ffordd neu’r llall, ysgrifennodd y seicolegydd plant Penelope Leach: “Peidiwch â chael eich hudo gan y syniad mai ‘addysg’ yw’r allwedd i bob llwyddiant mewn bywyd. Mae gan rai’r agwedd ‘cyntaf yn y byd, gorau yn y byd,’ ond mae’r agwedd honno ond yn dibrisio yr holl bethau rydych chi wedi eu dysgu i’ch plentyn ers iddo gael ei eni.”

  •   Dylai rhieni sy’n ystyried gofal plant ofyn a fydd yn fuddiol, ac a oes ei angen o gwbl.

 A yw’n bosib i chi neu’ch cymar aros gartref i ofalu am eich plentyn? Mewn rhai achosion, yr unig reswm mae’r ddau riant yn gweithio ydy er mwyn byw bywyd mwy cyffyrddus. Ydy’r manteision yn werth yr aberth?

  •   Dylai rhieni sy’n meddwl am ofal plant ystyried a allan nhw fyw bywyd symlach er mwyn i un rhiant allu aros adref.

 Mae ’na fanteision ac anfanteision i anfon eich plentyn i feithrinfa. Mae’n hollbwysig eu pwyso a mesur cyn ichi wneud benderfyniad. Beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n penderfynu o blaid gofal plant?

 Beth gallwch chi ei wneud

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r person call yn fwy gofalus.” (Diarhebion 14:15) Gyda hynny mewn cof, meddyliwch yn ofalus cyn dewis unrhyw fath o ofal plant.

 Pa opsiynau sydd ar gael?

  •   Mae rhai rhieni yn dewis anfon eu plant at rywun sy’n gwarchod plant yn ei dŷ. Fel arfer, mi fydd ’na lond llaw o blant eraill yno hefyd, ac un neu ddau oedolyn i’w gwarchod.

  •   Mae rhai rhieni yn trefnu i aelod o’r teulu neu rywun arall warchod eu plant. Weithiau bydd yr unigolyn hwnnw yn byw gyda’r teulu.

 Mae ’na ddwy ochr i bob opsiwn. Felly beth am holi rhieni eraill sydd wedi defnyddio rhyw fath o ofal plant? Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.”—Diarhebion 13:10.

 Os ydych chi’n dewis anfon eich plant i feithrinfa neu ganolfan gofal plant . . .

 Dysgwch am y feithrinfa

  •   A oes ganddi drwydded, ac a ydy hi’n cyrraedd safonau’r gyfraith? Pa gymwysterau sydd ganddi? A oes ganddi enw da yn yr ardal?

  •   Ydy’r adeilad yn lân ac yn ddiogel?

  •   Pa weithgareddau sydd ar gael? a

 Dysgwch am y staff

  •   Pa hyfforddiant maen nhw wedi ei gael? Er enghraifft, addysg gynnar, cymorth cyntaf, a CPR.

  •   Ydy hi’n bosib gwirio cefndir y gofalwyr i weld a oes ganddyn nhw hanes o droseddu?

  •   Ydy’r staff yn newid yn aml? Os felly, bydd eich plentyn yn gorfod addasu i bobl newydd o hyd.

  •   Faint o blant sydd ’na i bob gofalwr? Pan fydd llawer o blant dan ofal un gofalwr, bydd eich plentyn yn cael llai o sylw. Wrth gwrs bydd anghenion eich plentyn yn dibynnu ar ei oedran a’i allu.

  •   Ydy’r staff yn fodlon trafod eich pryderon chi a’u pryderon nhw?

a Er enghraifft, ydy’r teledu yn gwarchod y plant, neu ydyn nhw’n cynnig gweithgareddau sy’n tanio meddwl y plant ac yn eu cadw nhw’n actif?