Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 1: A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?

Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 1: A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?

 Yn ôl un arolwg, mae 97 y cant o bobl yn eu harddegau yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Ydy eich plentyn chi’n gofyn am gael eu defnyddio hefyd? Os felly, dyma rai pethau ichi eu hystyried.

Yn yr erthygl hon

 Amser eich plentyn

 “Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi eu dylunio i fachu eich sylw, i’ch cadw chi ar lein, ac i wneud ichi edrych ar eich dyfais o hyd i gael y newyddion diweddaraf,” meddai’r wefan HelpGuide.

 “Mae munudau’n troi’n oriau wrth imi sgrolio drwy negeseuon di-ben-draw ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall fod yn anodd iawn rhoi’n ffôn i lawr a mynd i wneud rhywbeth mwy defnyddiol.”—Lynne, 20.

 Gofynnwch i chi’ch hun: A fydd gan fy mhlentyn ddigon o hunanreolaeth i gadw at fy rheolau o ran faint o amser y mae’n ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol? Ydy fy mhlentyn yn ddigon aeddfed i osod ei reolau ei hun a chadw atyn nhw?

 Egwyddor o’r Beibl: “Gwyliwch yn ofalus iawn eich bod chi’n cerdded . . . fel pobl ddoeth, gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau.”—Effesiaid 5:15, 16.

Mae gadael i blant ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol heb roi canllawiau yn debyg i adael iddyn nhw fynd ar gefn ceffyl heb unrhyw hyfforddiant

 Agwedd eich plentyn at ffrindiau

 Mae’r term “cyfryngau cymdeithasol” yn awgrymu eu bod nhw’n dod â ffrindiau at ei gilydd, neu yn cysylltu pobl. Ond yn aml iawn, peth digon arwynebol yw’r cysylltiad hwnnw.

 “Dw i wedi sylwi bod llawer o bobl ifanc yn meddwl os bydd mwy yn eu ‘hoffi,’ neu’n eu dilyn, yna mae mwy o bobl yn malio amdanyn nhw, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ’nabod y bobl hynny.”—Patricia, 17.

 Gofynnwch i chi’ch hun: Ydy fy mhlentyn yn ddigon aeddfed i beidio â rhoi gormod o bwyslais ar faint o bobl sy’n ei hoffi neu’n ei ddilyn ar lein? Pa mor dda y mae’n gallu meithrin cyfeillgarwch â phobl wyneb yn wyneb?

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

 Iechyd emosiynol eich plentyn

 Mae ymchwilwyr wedi sylwi bod yna gysylltiad rhwng gorddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac unigrwydd, pryder, a hyd yn oed iselder ysbryd.

 “Dydy gweld lluniau o dy ffrindiau yn cael hwyl—a hynny hebddot ti—byth yn deimlad braf.”—Serena, 19.

 Gofynnwch i chi’ch hun: Ydy fy mhlentyn yn ddigon aeddfed i beidio â mynd yn hunanol ac yn gystadleuol, na gadael i’r pethau mae eraill yn ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol effeithio arno yn ormodol?

 Egwyddor o’r Beibl: “Dylen ni beidio â bod yn egotistaidd, yn creu ysbryd cystadleugar yn ein plith, yn eiddigeddus o’n gilydd.”—Galatiaid 5:26.

 Ymddygiad eich plentyn ar y we

 Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu agor y drws i seiberfwlio, secstio, a gweld pornograffi. Hyd yn oed os nad ydy eich plentyn yn bwriadu gwneud y pethau hyn, mae’n ddigon posib y bydd yn dod i gysylltiad â nhw.

 “Dw i wedi sylwi bod hi’n hawdd i bethau ar y cyfryngau cymdeithasol droi i gyfeiriad drwg. Mae ’na lawer o iaith anweddus a cherddoriaeth anaddas.”—Linda, 23.

 Gofynnwch i chi’ch hun: Ydy fy mhlentyn yn ddigon aeddfed i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddoeth? A fydd ganddo ddigon o gryfder moesol i wrthod edrych ar bethau anaddas?

 Egwyddor o’r Beibl: “Ni ddylai neb yn eich plith hyd yn oed sôn am anfoesoldeb rhywiol, . . . nac ymddygiad cywilyddus na siarad yn wirion na dweud jôcs anweddus.”—Effesiaid 5:3, 4.

 Oes rhaid defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

 Dydy’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn hanfodol i fywyd hapus a chyfforddus. Mae llawer o bobl ifanc yn fodlon byw hebddyn nhw—gan gynnwys rhai a oedd yn arfer eu defnyddio cyn penderfynu peidio.

 “Ar ôl imi weld effaith ddrwg y cyfryngau cymdeithasol ar fy chwaer, penderfynais stopio eu defnyddio. Ers hynny, dw i wedi bod yn llawer hapusach a dw i’n teimlo mod i’n cael mwy allan o fy mywyd.”—Nathan, 17.

 I grynhoi: Cyn caniatáu i’ch plentyn ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon aeddfed i osod terfynau o ran amser, i gadw perthynas dda ag eraill, ac i osgoi pethau anaddas.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r call yn ystyried pob cam.”—Diarhebion 14:15, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.