Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Y Buddion o Chwarae’n Greadigol

Y Buddion o Chwarae’n Greadigol

 Mae’r term “chwarae creadigol” yn cyfeirio at weithgareddau chwarae sy’n ennyn chwilfrydedd ac yn tanio’r dychymyg, gan helpu’r plentyn i aeddfedu a dod yn dda wrth weithio â’i ddwylo.

 Dyma rai enghreifftiau:

  •   Darlunio

  •   Coginio

  •   Chwarae dychmygol

  •   Canu

  •   Defnyddio blociau adeiladu

  •   Chwarae gyda phethau syml (Gall hyd yn oed bocs cardfwrdd danio’r dychymyg)

 Mewn llawer o wledydd, yn lle gwneud pethau sy’n greadigol, mae plant yn gwylio adloniant neu wneud pethau mae pobl eraill wedi trefnu ar eu cyfer nhw.

 A ddylech chi boeni?

 Beth dylech chi ei wybod

  •   Gall chwarae creadigol gyfrannu tuag at ddatblygiad y plentyn. Gall hybu iechyd corfforol a meddyliol, creadigrwydd, a sgiliau cymdeithasol. Hefyd, gall chwarae o’r fath ddysgu plant i fod yn amyneddgar, gwneud penderfyniadau da, rheoli eu hemosiynau, a dod ymlaen ag eraill wrth chwarae mewn grŵp. Yn fyr, gall chwarae creadigol helpu plant i baratoi ar gyfer bod yn oedolion.

  •   Gall gorddefnyddio cyfryngau electronig fod yn niweidiol. Mae defnydd gormodol o ddyfeisiau electronig yn gallu gwneud i rywun fynd yn gaeth i’r sgrin. Mae hyn wedi cael ei gysylltu â gordewdra ac ymddygiad ymosodol. Dyma rybudd i rieni sy’n defnyddio’r teledu a dyfeisiau electronig eraill fel gwarchodwr i ddifyrru eu plant ifanc.

  •   Mae gan weithgareddau wedi’u trefnu gan eraill anfanteision. Pan fydd plant yn cael eu cludo o un gweithgaredd ffurfiol i’r llall, maen nhw’n cael eu hamddifadu o’r cyfle i chwarae’n rhydd, i wneud pethau fydd yn eu hannog i fod yn chwilfrydig a chreadigol.

 Beth gallwch chi ei wneud

  •   Rhoi gyfleoedd i’r plant chwarae’n greadigol. Pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, gadewch i’r plant dreulio amser tu allan er mwyn iddyn nhw allu dod yn gyfarwydd â byd natur. Gadewch iddyn nhw gael hobïau a chwarae gyda theganau a fydd yn meithrin ochr greadigol eu personoliaeth. a

     Rhywbeth i’w ystyried: Pa rinweddau a sgiliau gall chwarae creadigol helpu fy mhlentyn i’w meithrin? Sut bydd hyn yn gallu helpu ef neu hi yn hwyrach yn eu bywydau?

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae ymarfer corff yn beth da.1 Timotheus 4:8.

  •   Cyfyngu ar amser o flaen y sgrin. Meddyliwch ddwywaith cyn gadael i ffôn, tabled, neu deledu warchod neu garco eich plentyn. Mae paediatregwyr yn argymell i blant o dan ddwy oed beidio â defnyddio sgriniau o gwbl, a dim ond hyd at awr y diwrnod i blant rhwng dwy a phump oed. b

     Rhywbeth i’w ystyried: Pa gyfyngiadau ar eistedd o flaen sgrin galla i eu gosod ar fy mhlentyn? A ddylwn i wylio gyda fy mhlentyn? Pa bethau da mae hi’n bosib eu dewis yn lle dyfeisiau electronig?

     Egwyddor o’r Beibl: “Felly, gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl—byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni.”—Effesiaid 5:15, 16.

  •   Pwyso a mesur rhaglenni wedi eu trefnu. Mae’n wir gall y rhain helpu eich plentyn i wella ei sgiliau chwarae. Ond yn aml bydd gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ond yn ychwanegu stres—nid yn unig i’r plentyn ond hefyd i’r rhiant sydd â’r cyfrifoldeb o gludo’r plentyn o gwmpas. Wrth gwrs, mae’r egwyddor yn Effesiaid 5:15, 16 ynglŷn â defnyddio amser yn ddoeth yn berthnasol yma hefyd.

     Rhywbeth i’w ystyried: Oes gan fy mhlant gormod o weithgareddau ffurfiol yn eu rhaglen? Os felly, ydyn ni’n gallu addasu rhywbeth?

     Egwyddor o’r Beibl: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.

a Gall teganau cymhleth fod yn rhwystr i ochr greadigol y plentyn. Ar y llaw arall, mae teganau syml a phethau fel blociau adeiladu a bocsys cardfwrdd, yn gadael i’r plentyn ddefnyddio’i ddychymyg.

b Mae “amser o flaen y sgrin” yn cyfeirio at adloniant, nid pethau fel fideo-gynadledda gydag anwyliaid neu wylio cyfarfodydd, a rhaglenni ysbrydol eraill gyda’r teulu.