Neidio i'r cynnwys

EFELYCHU EU FFYDD | ELIAS

Daliodd Ati Hyd y Diwedd

Daliodd Ati Hyd y Diwedd

 Meddyliodd Elias am y newyddion. Roedd y Brenin Ahab newydd farw. Gallwn ddychmygu’r hen broffwyd yn anwesu ei farf, gan syllu i’r pellter a chofio’r holl achlysuron roedd wedi gorfod delio â’r brenin drwg hwnnw dros y degawdau. Roedd Elias wedi dioddef cymaint! Roedd wedi ei fygwth a’i hela, a bu bron iddo golli ei fywyd​—i gyd dan ddwylo Ahab a’r frenhines Jesebel. Nid oedd y brenin wedi gwneud dim i atal Jesebel rhag gorchymyn i lawer o broffwydi Jehofa gael eu lladd. Roedd trachwant wedi gyrru’r ddau i gynllwynio i ladd Naboth, dyn cyfiawn a dieuog, ynghyd â’i feibion. Mewn ymateb, roedd Elias wedi cyhoeddi barn Jehofa yn condemnio Ahab a’i linach gyfan. Nawr, roedd geiriau Duw yn cael eu cyflawni. Roedd Ahab wedi marw’n union fel roedd Jehofa wedi dweud.—1 Brenhinoedd 18:4; 21:1-26; 22:37, 38; 2 Brenhinoedd 9:26.

 Serch hynny, roedd Elias yn gwybod bod angen iddo ddal ati. Roedd Jesebel yn dal yn fyw, a’i dylanwad ffiaidd dros ei theulu a’r genedl gyfan yr un mor ddrwg ag erioed. Nid oedd problemau Elias drosodd o bell ffordd, ac roedd ganddo lawer i’w ddysgu i Eliseus, ei gyfaill a’i olynydd. Felly dewch inni ystyried tri pheth a ofynnwyd iddo eu gwneud tua diwedd ei oes. Wrth inni weld sut roedd ffydd Elias yn ei helpu i ddal ati, gwelwn sut gallwn ninnau hefyd gryfhau ein ffydd yn y dyddiau cythryblus hyn.

Barnu Ahaseia

 Ahaseia, mab Ahab a Jesebel, oedd brenin Israel erbyn hyn. Yn lle dysgu o ffolineb ei rieni, dilynodd yr un un llwybr drwg. (1 Brenhinoedd 22:52) Fel hwythau, roedd Ahaseia yn addoli Baal. Roedd y grefydd hon yn llygru pawb a ddaeth i gysylltiad â hi, gan annog pobl i buteinio yn y deml ac i offrymu eu plant i’r duwiau. A fyddai unrhyw beth yn perswadio Ahaseia i newid ei ffyrdd ac i arwain ei bobl i addoli Jehofa a chefnu ar y fath anffyddlondeb ffiaidd?

 Yn sydyn, daeth drwg annisgwyl i’r brenin ifanc haerllug. Cafodd godwm yn ei dŷ a chael ei anafu’n ddifrifol. Er bod ei fywyd yn y fantol, gwrthododd droi at Jehofa am help. Penderfynodd anfon negeseuwyr i Ecron, dinas y Philistiaid, i ofyn i’r duw Baal-sebwb a fyddai’n gwella o’i anaf. Roedd Jehofa wedi cael llond bol. Anfonodd angel at Elias i ddweud wrtho am fynd i gyfarfod â’r negeseuwyr. Rhoddodd y proffwyd neges ddeifiol iddyn nhw ar gyfer y brenin. Roedd Ahaseia wedi pechu’n ddifrifol drwy ymddwyn fel nad oedd Duw yn Israel. Roedd Jehofa wedi penderfynu na fyddai Ahaseia byth yn codi o’i wely.—2 Brenhinoedd 1:2-4.

 Yn ddiedifar, roedd Ahaseia eisiau gwybod pwy oedd wedi anfon y neges, ac felly dywedodd wrth y negeseuwyr: “Disgrifiwch y dyn i mi.” Disgrifiodd y negeseuwyr ddillad syml y proffwyd, a dyma Ahaseia yn dweud yn syth: “Elias . . . oedd e!” (2 Brenhinoedd 1:7, 8) Mae’n werth nodi bod bywyd Elias mor syml ac ymroddedig nes bod modd ei adnabod wrth ei ddillad yn unig. Yn sicr, ni ellid dweud hyn am Ahaseia na’i rieni a oedd â’u bryd ar bethau materol. Mae esiampl Elias yn ein hatgoffa ni heddiw am roi cyngor Iesu ynglŷn â byw bywyd syml ar waith a chanolbwyntio ar bethau sydd o wir bwys.—Mathew 6:22-24.

 Yn mynnu talu’r pwyth yn ôl, anfonodd Ahaseia gapten o’r fyddin gyda hanner cant o ddynion i arestio Elias. Daethon nhw o hyd i Elias “yn eistedd ar ben bryn.” a A dyma’r capten yn dweud wrtho’n swta: “Mae’r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr”—yn ôl pob tebyg i gael ei ddienyddio. Meddyliwch am hynny! Roedden nhw’n gwybod bod Elias yn “broffwyd Duw,” ond eto roedden nhw’n fodlon i’w fygwth a’i fwlio. Ond camgymeriad mawr oedd hynny! Dywedodd Elias wrth y capten: “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o’r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” Gweithredodd Duw yn syth! “Daeth tân i lawr o’r awyr a’i ladd e a’i filwyr.” (2 Brenhinoedd 1:9, 10) Mae marwolaeth y milwyr hynny’n ein hatgoffa ni nad yw Jehofa’n cau ei lygaid pan fydd pobl yn amharchu neu’n cam-drin ei weision.—1 Cronicl 16:21, 22.

 Anfonodd Ahaseia gapten arall gyda hanner cant o ddynion. Roedd hwnnw hyd yn oed yn fwy byrbwyll na’r cyntaf. Mae’n amlwg nad oedd wedi dysgu dim o farwolaeth y 51 dyn arall, er bod eu llwch efallai yn dal i’w weld ar lethrau’r bryn. Ailadroddodd orchymyn hallt y capten cyntaf am ddod i lawr, gan ychwanegu “brysia”! Am beth gwirion i’w wneud! Collodd ef a’i ddynion eu bywydau yn yr un modd â’r grŵp cyntaf. Ond yn fwy ffôl byth oedd ymateb y brenin. Mor benstiff ag erioed, anfonodd drydedd fintai. Ond dyn callach oedd y capten y tro hwn. Aeth at Elias gydag agwedd ostyngedig, gan erfyn arno am achub eu bywydau. Dyn duwiol oedd Elias, ac roedd ei ateb i’r capten yn ddiau yn adlewyrchu trugaredd Jehofa. Dywedodd angel Jehofa wrth Elias am fynd gyda’r milwyr. Ufuddhaodd Elias gan ailadrodd dedfryd Jehofa ar y brenin drwg. Yn union fel roedd Duw wedi dweud, bu farw Ahaseia. Roedd wedi teyrnasu am gwta ddwy flynedd.—2 Brenhinoedd 1:11-17.

Efelychodd Elias drugaredd Jehofa yn ei agwedd tuag at y capten gostyngedig

 Sut llwyddodd Elias i ddal ati er gwaethaf agwedd ystyfnig a gwrthryfelgar y bobl o’i gwmpas? Mae’r cwestiwn hwnnw yn dal yn berthnasol heddiw. Ydych chi erioed wedi eich siomi o weld rhywun annwyl ichi yn gwrthod cyngor da ac yn mynnu dilyn ei lwybr niweidiol ei hun? Sut gallwn ni ymdopi â’r fath siom? Mae’r ffaith bod y milwyr wedi cael hyd i Elias “yn eistedd ar ben bryn” yn ddiddorol. Allwn ni ddim dweud yn sicr pam roedd Elias ar ben bryn, ond gallwn fod yn sicr y byddai lle tawel fel hwnnw yn rhoi cyfle i ddyn gweddigar glosio at ei Dduw. (Iago 5:16-18) Gallwn ninnau hefyd neilltuo amser yn rheolaidd i weddïo ar Dduw, gan alw ar ei enw a sôn wrtho am ein problemau a’n pryderon. Wedyn byddwn ni’n medru dal ati’n well, hyd yn oed pan fydd pobl o’n cwmpas yn gwneud dewisiadau ffôl a hunan-niweidiol.

Trosglwyddo’r Fantell

 Daeth hi’n amser i Elias roi’r gorau i’w ddyletswyddau swyddogol. Sylwch ar yr hyn a wnaeth. Wrth iddyn nhw adael tref Gilgal, dywedodd Elias wrth Eliseus am aros ar ôl yn y dref tra byddai ef yn mynd ymlaen i Bethel, tua 7 milltir (11 km) i ffwrdd. Roedd ateb Eliseus yn gadarn: “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” Ar ôl cyrraedd Bethel, dywedodd Elias y byddai’n mynd ymlaen ar ei ben ei hun i Jericho, tua 14 milltir (22 km) i ffwrdd. Atebodd Eliseus yr un fath ag o’r blaen. Digwyddodd yr un peth eto, am y trydydd tro yn Jericho, a chychwynnodd y ddau i gyfeiriad yr Iorddonen, ryw 5 milltir (8 km) i’r dwyrain. Eto roedd y dyn ifanc yn benderfynol. Nid oedd am adael Elias!​—2 Brenhinoedd 2:1-6.

 Roedd Eliseus yn dangos cariad ffyddlon. Dyna’r math o gariad a oedd gan Ruth tuag at Naomi, sef cariad sy’n glynu wrth ei wrthrych ac yn gwrthod gollwng gafael. (Ruth 1:15, 16) Heddiw, yn fwy nag erioed, mae angen y rhinwedd hanfodol hon ar bob un o weision Duw. A ydyn ni, fel Eliseus, yn gweld pa mor bwysig ydyw?

 Mae’n debyg bod gweld cariad ffyddlon ei gyfaill ifanc wedi cyffwrdd â chalon Elias. Oherwydd y cariad hwnnw, gwelodd Eliseus wyrth olaf Elias. Cyrhaeddon nhw lan yr Iorddonen, sydd yn afon gyflym a dwfn mewn mannau. Cymerodd Elias ei fantell a tharo’r dŵr. A dyma’r dyfroedd yn ymrannu! Rhai eraill a welodd y wyrth hon oedd “pum deg aelod o’r urdd o broffwydi.” Mae’n debyg eu bod yn perthyn i urdd gynyddol o ddynion a oedd yn cael eu hyfforddi i arwain pur addoliad yn y wlad. (2 Brenhinoedd 2:7, 8) Elias, yn ôl pob tebyg, oedd yn trefnu eu hyfforddiant. Rai blynyddoedd ynghynt, roedd Elias yn teimlo mai ef oedd yr unig ddyn ffyddlon yn y wlad. Ond ers hynny, roedd Jehofa wedi ei fendithio am ei ddyfalbarhad. Roedd Elias yn gallu gweld bod y sefyllfa ymhlith addolwyr Jehofa wedi gwella’n sylweddol.—1 Brenhinoedd 19:10.

 Ar ôl croesi’r Iorddonen, dywedodd Elias wrth Eliseus: “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” Roedd Elias yn gwybod ei bod hi’n amser iddo adael. Nid oedd yn genfigennus o’r breintiau a’r sylw a gâi ei gyfaill yn y dyfodol. I’r gwrthwyneb, roedd Elias yn awyddus i’w helpu mewn unrhyw ffordd a allai. Cais syml Eliseus oedd: “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di.” (2 Brenhinoedd 2:9) Nid oedd hyn yn golygu ei fod yn gofyn am ddwywaith cymaint o’r ysbryd glân ag yr oedd gan Elias. Gofyn oedd am etifeddiaeth debyg i honno a gâi mab hynaf. Yn ôl y gyfraith y byddai mab hynaf yn derbyn siâr ddwbl o eiddo’r tad i gyd-fynd â’i gyfrifoldebau newydd fel pen y teulu. (Deuteronomium 21:17) Ac yntau’n etifedd ysbrydol i Elias, gwelodd y byddai arno angen yr un ysbryd dewr ag Elias er mwyn cyflawni ei waith.

 Gadawodd Elias i Jehofa roi’r ateb. Petai Jehofa yn caniatáu i Eliseus weld Elias yn cael ei gymryd i ffwrdd, yna fe fyddai Duw yn caniatáu cais Eliseus. Cyn bo hir, wrth i’r ddau gyfaill “fynd yn eu blaenau yn sgwrsio,” digwyddodd rhywbeth rhyfeddol!—2 Brenhinoedd 2:10, 11.

Rhaid bod y cyfeillgarwch rhwng Elias ac Eliseus wedi helpu’r ddau i ddal ati drwy amserau anodd

 Dyma olau rhyfedd yn ymddangos yn yr awyr ac yn dod yn nesnes. Gallwn ddychmygu sŵn gwynt yn rhuo’n sydyn a rhywbeth llachar yn gwibio tuag at y ddau ddyn, yn dod rhyngddyn nhw ac yn gwneud iddyn nhw neidio yn ôl mewn braw. Dyma nhw’n gweld mai cerbyd oedd, cerbyd a oedd yn disgleirio fel petai wedi ei wneud o dân. Fe wyddai Elias fod ei amser wedi dod. Ai camu i mewn i’r cerbyd a wnaeth? Nid yw’r Beibl yn dweud. Sut bynnag, cafodd ei hun yn codi i’r awyr a’i gario ymaith yn y corwynt.

 Gwyliodd Eliseus yn syfrdan. Gan ei fod yn dyst i’r olygfa drawiadol hon, fe wyddai y byddai Jehofa yn rhoi iddo “siâr ddwbl” o ysbryd dewr Elias. Ond roedd Eliseus yn rhy drist i feddwl am hynny. Ni wyddai lle roedd ei hen ffrind yn mynd, ond mae’n debyg nad oedd yn disgwyl gweld Elias eto. Gwaeddodd: “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Gwyliodd wrth i’w athro annwyl ddiflannu i’r pellter, ac yna rhwygodd Eliseus ei ddillad mewn tristwch.—2 Brenhinoedd 2:12, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 Wrth i Elias godi i’r awyr, efallai iddo glywed llef druenus ei ffrind ifanc a cholli deigryn neu ddau. Ond yn sicr roedd cael cwmni cyfaill fel Eliseus wedi ei helpu i ddal ati drwy adegau anodd. Da fyddai inni ddysgu o esiampl Elias a meithrin perthynas glòs â phobl sy’n caru Duw ac yn ceisio gwneud ei ewyllys!

Fe wnaeth Duw drosglwyddo Elias i weithio mewn ardal arall

Yr Aseiniad Olaf

 Lle aeth Elias wedyn? Mae rhai crefyddau yn dweud ei fod wedi ei gymryd i’r nefoedd i fod gyda Duw. Ond mae hynny’n amhosib. Ganrifoedd yn ddiweddarach, dywedodd Iesu nad oedd neb wedi esgyn i’r nefoedd cyn ei amser ef. (Ioan 3:13) Felly, pan ddarllenwn fod Elias wedi mynd “i fyny i’r nefoedd,” mae angen gofyn, Pa nefoedd? (2 Brenhinoedd 2:11) Mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “nefoedd” i gyfeirio, nid yn unig at y lle y mae Jehofa yn byw, ond hefyd at atmosffer y ddaear lle mae’r cymylau’n ffurfio a’r adar yn hedfan. (Salm 147:8) I’r nefoedd hynny​—sef yr awyr—aeth Elias. Felly beth ddigwyddodd iddo?

 Trosglwyddodd Jehofa ei broffwyd annwyl i weithio mewn ardal arall, y tro hwn yn nheyrnas Jwda i’r de. Mae’r Beibl yn cyfeirio at ei waith yno ryw saith mlynedd yn ddiweddarach. Jehoram oedd brenin drwg Jwda ar y pryd. Roedd ef wedi priodi merch Ahab a Jesebel, ac felly roedd eu dylanwad ffiaidd hwythau yn dal ar waith. Gorchmynnodd Jehofa i Elias ysgrifennu llythyr yn cyhoeddi barn ar Jehoram. Ac fel y rhagfynegwyd, bu farw Jehoram mewn ffordd ofnadwy. Ac yn waeth byth, mae’r hanes yn dweud: “Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw.”​—2 Cronicl 21:12-​20.

 Mor wahanol oedd y brenin drwg hwnnw i Elias! Nid ydyn ni’n gwybod sut neu pryd y bu farw Elias. Ond rydyn ni’n gwybod nad oedd yn marw fel Jehoram, a neb yn galaru amdano. Roedd Eliseus yn teimlo’r golled, ac mae’n siŵr bod y proffwydi ffyddlon eraill yn teimlo’r un ffordd. Roedd Elias yn dal yn agos at galon Jehofa ryw fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, oherwydd defnyddiodd Jehofa ddarlun o’i broffwyd annwyl yng ngweledigaeth y gweddnewidiad. (Mathew 17:1-9) Ydych chi’n awyddus i ddysgu o esiampl Elias ac i feithrin ffydd sy’n aros yn gryf er gwaethaf treialon? Os felly, cofiwch glosio at bobl sy’n caru Duw, rhowch y flaenoriaeth i bethau ysbrydol, a gweddïwch yn aml ac o’r galon. Wedyn, byddwch chi fel Elias yn cael lle parhaol yng nghalon Jehofa!

a Mae rhai ysgolheigion yn awgrymu mai Mynydd Carmel oedd hwn, lle roedd Duw wedi galluogi Elias i orchfygu proffwydi Baal rai blynyddoedd ynghynt. Ond nid yw’r Beibl yn enwi’r mynydd.