Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Diafol Wir yn Bodoli?

Ydy’r Diafol Wir yn Bodoli?

Ateb y Beibl

 Ydy, mae’r Diafol yn bodoli. Ef yw “tywysog y byd hwn,” ysbryd greadur a aeth yn ddrwg ac a wrthryfelodd yn erbyn Duw. (Ioan 14:30; Effesiaid 6:11, 12) Mae’r Beibl yn datgelu personoliaeth y Diafol drwy’r enwau a’r disgrifiadau hyn:

  •   Satan, sy’n golygu “Gwrthwynebwr.”—Job 1:6.

  •   Diafol, sy’n golygu “Enllibiwr.”—Datguddiad 12:9.

  •   Sarff, sy’n cael ei ddefnyddio yn y Beibl i olygu “Twyllwr.”—2 Corinthiaid 11:3.

  •   Temtiwr.—Mathew 4:3, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   Celwyddgi.—Ioan 8:44.

Nid yn nodwedd ddrygionus

 Mae rhai yn gweld Satan y Diafol fel rhan ddrwg o’n cymeriad sy’n bodoli y tu mewn inni. Ond, mae’r Beibl yn cofnodi sgwrs rhwng Duw a Satan. Mae Duw yn berffaith, felly doedd hi ddim yn bosib iddo siarad â rhan ddrygionus ohono’i hun. (Deuteronomium 32:4; Job 2:1-6) Yn yr un modd, temtiodd Satan Iesu, sydd yn rhydd o bechod. (Mathew 4:8-10; 1 Ioan 3:5) Felly, mae’r Beibl yn dangos bod y Diafol yn berson go iawn ac nid yn ddrygioni wedi ei bersonoleiddio.

 A ddylen ni synnu bod llawer o bobl ddim yn credu bod y Diafol yn berson go iawn? Ddim o gwbl, achos mae’r Beibl yn dweud bod Satan yn defnyddio twyll i gyrraedd ei amcanion. (2 Thesaloniaid 2:9, 10) Un o’i driciau mwyaf yw dallu pobl i’w fodolaeth.—2 Corinthiaid 4:4.

Mwy o gamsyniadau am y Diafol

  Myth: Enw arall ar y Diafol yw Lwsiffer.

 Ffaith: Mae’r gair Hebraeg a gyfieithir weithiau’n “Lwsiffer” yn golygu “un disglair.” (Eseia 14:12, Beibl Cysegr-lân) Mae’r cyd-destun yn dangos bod yr enw hwn yn cyfeirio at linach o frenhinoedd Babilon, y byddai Duw’n ei iselhau am fod yn haerllug. (Eseia 14:4, 13-20) Cafodd yr ymadrodd “un disglair” ei ddefnyddio i wawdio llinach brenhinoedd Babilon ar ôl ei chwymp.

  Myth: Mae Satan yn gweithio i Dduw fel “twrnai erlyn.”

 Ffaith: Gelyn Duw yw’r Diafol, nid ei was. Mae Satan y Diafol yn gwrthwynebu ac yn camgyhuddo pobl sy’n gwasanaethu Duw.—1 Pedr 5:8; Datguddiad 12:10.