Pwy Oedd y “Tri Gŵr Doeth”? A Wnaethon Nhw Ddilyn “Seren” Bethlehem?
Ateb y Beibl
Yn wahanol i draddodiad poblogaidd y Nadolig, dydy’r Beibl ddim yn defnyddio’r termau “tri gŵr doeth” na “tri brenin” i ddisgrifio’r teithwyr a aeth i weld Iesu ar ôl iddo gael ei eni. (Mathew 2:1) Yn hytrach, defnyddiodd Mathew y gair Groeg ma’goi yn ei efengyl i ddisgrifio’r rhai a aeth i weld Iesu. Mae’n debyg bod y gair yn cyfeirio at arbenigwyr mewn astroleg ac arferion eraill yr ocwlt. a Mae nifer o gyfieithiadau o’r Beibl yn eu galw nhw’n “astrolegwyr” neu’n “magi.” b
Faint o ‘wŷr doeth’ oedd ’na?
Dydy’r Beibl ddim yn dweud, ac mae traddodiadau am eu nifer yn amrywio. Mae’r Encyclopedia Britannica yn dweud: “Yn ôl traddodiadau y Dwyrain, 12 Magi yr oedd, ond yn ôl traddodiadau y Gorllewin, tri yr oedd, yn fwy na thebyg ar sail y tair anrheg o ‘aur, thus, a myrr’ (Mathew 2:11) gwnaethon nhw eu rhoi i’r baban.”
Oedd y “gwŷr doeth” yn frenhinoedd?
Er bod traddodiadau’r Nadolig yn portreadu’r ymwelwyr fel ’na, dydy’r Beibl ddim yn eu galw nhw’n frenhinoedd mewn unrhyw le. Yn ôl yr Encyclopedia Britannica, cafodd y disgrifiad hwnnw ei ychwanegu ganrifoedd wedyn fel rhan o’r traddodiadau a oedd yn “lliwio’r stori.”
Beth oedd enwau’r “gwŷr doeth”?
Dydy’r Beibl ddim yn datgelu enwau’r astrolegwyr. Yn ôl yr International Standard Bible Encyclopedia, “mae ymdrechion i’w henwi (e.e., Caspar, Melchior, a Balthasar) yn dod o chwedlau.”
Pryd aeth y “gwŷr doeth” i weld Iesu?
Mae’n bosib bod yr astrolegwyr wedi ymweld â Iesu rai misoedd ar ôl ei enedigaeth. Mae hyn yn amlwg oherwydd bod y Brenin Herod, a oedd eisiau i Iesu gael ei ladd, wedi gorchymyn i bob bachgen dwy flwydd oed neu lai gael ei ladd. Seiliodd yr oedran hwnnw ar y wybodaeth a gafodd oddi wrth yr astrolegwyr.—Mathew 2:16.
Ni wnaeth yr astrolegwyr ymweld â Iesu ar noson ei enedigaeth. Mae’r Beibl yn dweud: “Pan aethon nhw i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda’i fam, Mair.” (Mathew 2:11) Mae hyn yn dangos bod y teulu yn byw mewn tŷ erbyn hyn ac nad oedd Iesu’n faban mewn preseb bellach.—Luc 2:16.
A wnaeth Duw ddefnyddio “seren” Bethlehem i arwain y “gwŷr doeth”?
Mae rhai yn credu bod Duw wedi defnyddio “seren” Bethlehem i arwain yr astrolegwyr i Iesu. Ystyriwch pam nad yw hynny’n bosib.
Roedd yr hyn a oedd yn ymddangos fel seren wedi arwain yr astrolegwyr i Jerwsalem yn gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud: “Daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem i ofyn, ‘Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.’”—Mathew 2:1, 2.
Y Brenin Herod, nid y “seren,” oedd y cyntaf i gyfeirio’r astrolegwyr i Fethlehem. Pan glywodd am rywun arall a all fod “yn frenin yr Iddewon,” holodd Herod am le y byddai’r Crist yn cael ei eni. (Mathew 2:3-6) Ar ôl clywed mai ym Methlehem y byddai’n cael ei eni, dywedodd wrth yr astrolegwyr am fynd yno, chwilio am y plentyn, ac adrodd yn ôl iddo.
Dim ond wedyn aeth yr astrolegwyr i Fethlehem. Mae’r Beibl yn dweud: “Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i’w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma’r seren yn mynd o’u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.”—Mathew 2:9.
Unwaith i bobl weld y “seren,” digwyddodd bethau a wnaeth fygwth bywyd Iesu ac arwain at ladd plant bach diniwed. Ar ôl i’r astrolegwyr adael Bethlehem, gwnaeth Duw eu rhybuddio i beidio â mynd yn ôl at Herod.—Mathew 2:12.
Beth oedd ymateb Herod? Mae’r Beibl yn dweud: “Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi ei dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a’r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed—hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi ei ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i’r golwg.” (Mathew 2:16) Fyddai Duw byth yn achosi i rywbeth mor greulon ddigwydd.—Job 34:10.
a Dywedodd Herodotus, hanesydd Groeg o’r bumed ganrif COG, fod ma’goi yr adeg honno yn perthyn i lwyth o ardal Media (Persia) a oedd yn arbenigo mewn astroleg a dehongli breuddwydion.
b Gweler hefyd y Beiblau Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig, Cyfieithiad y Brifysgol, Y Cyfammod Newydd, ac Oraclau Bywiol. Mae Beibl.net a’r Beibl Cysegr-lân yn cyfeirio at yr ymwelwyr hynny fel “gwŷr doeth” a “doethion,” ond dydyn nhw ddim yn dweud bod ’na dri ohonyn nhw.