Neidio i'r cynnwys

Pryd Cafodd Iesu ei Eni?

Pryd Cafodd Iesu ei Eni?

Ateb y Beibl

 Dydy’r Beibl ddim yn rhoi dyddiad penodol i enedigaeth Iesu Grist, fel y gwelwn yn y cyfeiriadau isod:

  •   “Mae rhai wedi pennodi genedigaeth Crist yn mhob mis o’r flwyddyn. Ond nid yw’r Ysbryd Glan wedi gweled bod yn dda bennodi’r amser.”—Yr Eurgrawn Wesleyaidd.

  •   “Nid oes un coffad yn y Testament Newydd am y dydd na’r mis yn mha un y ganwyd yr Iachawdwr.”—Y Geiniogwerth.

 Er nad yw’r Beibl yn esbonio’n benodol ‘Pryd ganwyd Iesu?’ mae’n disgrifio dau ddigwyddiad adeg ei enedigaeth sy’n arwain llawer i gasglu na chafodd ei eni ar 25 Rhagfyr.

Nid yn y gaeaf

  1.   Y cofrestru. Ychydig cyn i Iesu gael ei eni, rhoddodd Cesar Awgwstws orchymyn i gynnal “cyfrifiad drwy’r Ymerodraeth Rufeinig i gyd.” Roedd rhaid i bawb fynd “adre i’r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru.” Yn achos rhieni Iesu, gallai’r daith hon fod wedi cymryd wythnos neu fwy. (Luc 2:1-3) Byddai’r gorchymyn hwnnw—a wnaed, yn ôl pob tebyg, i hwyluso codi trethi a chonsgripsiwn i’r fyddin—wedi bod yn amhoblogaidd unrhyw adeg o’r flwyddyn, felly mae’n annhebyg y byddai Awgwstws wedi pryfocio ei ddinasyddion ymhellach drwy orfodi llawer ohonyn nhw i wneud teithiau hir yn ystod y gaeaf caled.

  2.   Y defaid. Roedd bugeiliaid “allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid.” (Luc 2:8) Noda’r llyfr Cysondeb y Pedair Efengyl: “Arferai yr amaethwyr dwyr[einiol] adael eu diadellau allan y nos fel y dydd, o amser y Pasg hyd ddechreuad y cynnar-wlaw ar ol y cynhauaf yn mis Hydref, a gosod y bugeiliaid i’w gwylio dros y nos.” Ychwanega: “O Hydref hyd y Pasg dilynol, ni adewid hwynt ond y dydd yn unig, o herwydd oerder annyoddefol ac afiachusrwydd awyr y nos yn ystod y misoedd hyny. Cyfynga y ffaith hon enedigaeth yr Iesu i’r misoedd o Ebrill hyd Hydref,” gan fod yr Efengyl yn dweud bod y defaid gyda’r bugeiliaid allan yn y meysydd gyda’r nos.

Yn gynnar yn yr hydref

 Gallwn amcangyfrif pryd cafodd Iesu ei eni drwy gyfri am yn ôl o’i farwolaeth ar ŵyl y Pasg, 14 Nisan yng ngwanwyn y flwyddyn 33 OG. (Ioan 19:14-16) Roedd Iesu tua 30 mlwydd oed pan ddechreuodd ei weinidogaeth tair blynedd a hanner, felly ganed ef yn gynnar yn yr hydref, 2 COG.—Luc 3:23.

Pam mae’r Nadolig ar 25 Rhagfyr?

 Gan nad oes prawf bod Iesu Grist wedi ei eni ar 25 Rhagfyr, pam dathlir y Nadolig ar y dyddiad hwn? Dywed y llyfr Sêrs a Rybana “Trefnodd yr Eglwys fod dathlu’r Nadolig Cristnogol yn cydredeg â’r Satwrnalia” sef adeg heuldro’r gaeaf. Yn ôl Y Wawr, mae llawer o ysgolheigion yn credu “i’r Nadolig gael ei osod ar yr un dydd er boddio y pagan.”