Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl yn Trafod Priodasau o’r Un Rhyw?

Ydy’r Beibl yn Trafod Priodasau o’r Un Rhyw?

Ateb y Beibl

 Sefydlodd ein Creawdwr reolau ar gyfer priodas ymhell cyn i lywodraethau ddechrau rheoleiddio’r trefniant. Mae llyfr cyntaf y Beibl yn dweud wrthon ni: “Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.” (Genesis 2:24) Mae’r gair Hebraeg ar gyfer “gwraig,” yn ôl Vine’s Expository Dictionary of Biblical Words, yn “golygu un sydd yn fod dynol benyw.” Cadarnhaodd Iesu y dylai’r rhai sy’n priodi fod yn “wryw ac yn fenyw.”—Mathew 19:4.

 Felly, roedd Duw yn bwriadu i briodas fod yn berthynas barhaol ac agos rhwng dyn a dynes. Cafodd dynion a merched eu creu i fod yn gefn i’w gilydd er mwyn iddyn nhw fodloni anghenion emosiynol a rhywiol ei gilydd a chael plant.