Neidio i'r cynnwys

Help ar Gyfer Gweithwyr Ysbyty sy’n Delio â Stres

Help ar Gyfer Gweithwyr Ysbyty sy’n Delio â Stres

 Mae Bryn, sy’n byw yng Ngogledd Carolina, U.D.A., yn aelod o’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai. Mae’r pwyllgor hwnnw yn gweithio gydag ysbytai i ofalu am anghenion cleifion sy’n Dystion Jehofa.

 Oherwydd y pandemig COVID-19, doedd llawer o ysbytai ddim yn caniatáu i bobl ymweld â chleifion. Felly dyma Bryn yn ffonio’r cyfarwyddwr gofal bugeiliol yn yr ysbyty lleol i ofyn sut byddai’n gallu helpu’r Tystion yno.

 Aeth yr alwad trwodd i gynorthwyydd y cyfarwyddwr. Oherwydd y cyfyngiadau ar y pryd, gofynnodd Bryn a oedd hi’n bosib rhoi ei rif ffôn i’r cleifion a oedd yn Dystion, er mwyn iddo gael siarad â nhw. Gwnaethon nhw gytuno i wneud hynny.

 Roedd Bryn hefyd wedi meddwl am staff yr ysbyty. Felly, gwnaeth ef ddiolch am y gwaith roedden nhw’n ei wneud a dweud ei fod yn gobeithio bod pawb yn cadw’n iawn. Dywedodd ei fod wedi darllen am sut roedd y pandemig wedi achosi stres ofnadwy i bobl ledled y byd, yn enwedig i weithwyr ysbyty.

 Gwnaeth y cynorthwyydd gadarnhau bod COVID-19 wedi gwneud bywyd yn anodd iawn yn yr ysbyty.

 Wedyn dywedodd Bryn: “Mae ’na lawer o wybodaeth ar ein gwefan all helpu pobl i ddelio â stres. Os ewch chi i jw.org a theipio ‘straen’ yn y blwch chwilio, bydd erthyglau calonogol iawn yn codi, a dw i’n siŵr byddan nhw’n helpu eich staff.”

 Tra eu bod nhw’n siarad, aeth y cynorthwyydd i’r wefan, a theipio “straen” yn y blwch chwilio. Pan welodd yr erthyglau, dywedodd “Waw! Mi wna i ddangos hyn i’r cyfarwyddwr. Bydd hyn yn wych i’r staff ond bydd yn wych i eraill hefyd. Dw i’n mynd i brintio rhai o’r rhain a’u rhannu nhw o gwmpas yr ysbyty.”

 Ychydig o wythnosau wedyn, siaradodd Bryn â’r cyfarwyddwr. Dywedodd yntau eu bod nhw wedi mynd i’r wefan a phrintio ambell i erthygl am stres a phynciau tebyg. Roedden nhw wedi eu rhannu â’r nyrsys ac aelodau eraill o’r staff yn yr ysbyty.

 Dywedodd Bryn: “Roedd y cyfarwyddwr yn ddiolchgar iawn am ein gwaith. Roedd yn canmol yr erthyglau ac yn dweud pa mor ddefnyddiol oedden nhw wedi bod.”