Neidio i'r cynnwys

Nodiadau o dan y Peiriant Golchi

Nodiadau o dan y Peiriant Golchi

 Ar ôl ei bedydd fel un o Dystion Jehofa, daeth Zarina yn ôl o Rwsia i’w mamwlad yng Nghanolbarth Asia, yn benderfynol o fagu ei dwy ferch yn ei ffydd. Oherwydd ei sefyllfa ariannol, roedd hi’n rhannu fflat un ystafell gyda’i rhieni, ei brawd, a’i chwaer yng nghyfraith. Gorchmynnodd ei rhieni iddi beidio â dysgu gwirionedd y Beibl i’w phlant. Hefyd, dywedon nhw wrth ei merched i beidio â siarad â’u mam am y Beibl.

 Pendronodd Zarina am sut i helpu ei merched i ddysgu am Jehofa. (Diarhebion 1:8) Gweddïodd yn daer arno, gan ofyn am ddoethineb ac arweiniad. Gweithredodd Zarina yn unol â’i gweddïau drwy fynd am dro gyda’i merched a siarad â nhw am ryfeddodau’r greadigaeth. Helpodd y teithiau cerdded byr y merched i feithrin diddordeb yn y Creawdwr.

 Wedyn, meddyliodd Zarina am ffordd o ddysgu mwy i’r merched drwy ddefnyddio’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a Ysgrifennodd baragraffau a chwestiynau air am air o’r llyfr ar ddarnau o bapur. Ychwanegodd ambell frawddeg i helpu ei merched i ddeall y deunydd yn well. Yna, fe guddiodd y darnau papur, ynghyd â phensil, o dan y peiriant golchi yn yr ystafell molchi. Pan fyddai’r merched yn yr ystafell, bydden nhw’n darllen y paragraffau ac yn ysgrifennu eu hatebion.

 Gan ddefnyddio’r dull hwnnw, llwyddodd Zarina i astudio dwy bennod o’r llyfr Beibl Ddysgu gyda’i merched cyn i’r tair ohonyn nhw gael hyd i rywle arall i fyw. Yno, roedd hi’n rhydd i fagu eu merched heb unrhyw ymyrraeth. Yn Hydref 2016, cafodd y ddwy eneth eu bedyddio, yn hapus bod eu mam wedi bod yn ddoeth a chall wrth eu bwydo’n ysbrydol.

a Bellach mae llawer yn defnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!