Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

”Dydw i Ddim Bellach yn Ddyn Creulon”

”Dydw i Ddim Bellach yn Ddyn Creulon”
  • Ganwyd: 1973

  • Gwlad Enedigol: Wganda

  • Hanes: Yn dreisgar, yn anfoesol, ac yn meddwi

FY NGHEFNDIR

 Ges i fy ngeni yn Wganda yn rhanbarth Gomba. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn dlawd iawn. Doedd gan ein tref ddim trydan felly yn y nos roedden ni’n defnyddio lampau olew.

 Roedd fy rhieni yn ffermwyr, a symudon nhw i Wganda o Rwanda. Roedden nhw’n tyfu coffi a bananas, ac o’r bananas roedden nhw’n gwneud diod alcoholig boblogaidd o’r enw Waragi. Roedd fy rhieni hefyd yn cadw ieir, geifr, moch, a gwartheg. Oherwydd fy magwraeth a fy niwylliant roeddwn i’n credu y dylai gwraig fod yn ufudd i’w gŵr bob amser a byth mynegi ei barn.

 Pan oeddwn i’n 23 mlwydd oed, symudais i Rwanda ac es i i glybiau dawnsio gydag eraill yr un oed â fi. Es i i un ohonyn nhw mor aml, wnaethon nhw roi cerdyn imi a oedd yn gadael imi fynd i mewn heb dalu. Roeddwn i hefyd yn mwynhau ffilmiau a oedd yn cynnwys ymladd a thrais ofnadwy. Gwnaeth y pethau o fy amgylch a fy adloniant ddylanwadu arna i i fod yn dreisgar, yn anfoesol, ac i feddwi.

 Yn 2000, dechreuais fyw gyda dynes ifanc o’r enw Skolastique Kabagwira, a chafon ni dri o blant. Roeddwn i’n disgwyl iddi blygu o fy mlaen i bob tro roedd hi’n fy nghyfarch neu’n gofyn am rywbeth, oherwydd roeddwn i wastad wedi credu dyna sut dylai gwragedd ymddwyn. Roeddwn i hefyd yn teimlo mai fi oedd piau holl eiddo’r teulu, i’w ddefnyddio fel roeddwn i eisiau. Yn aml, roeddwn i’n mynd allan yn y nos ac yn dod yn ôl tua thri yn y bore, wedi meddwi fel arfer. Byddwn i’n cnocio ar y drws, ac os oedd Skolastique yn cymryd rhy hir cyn ateb roeddwn i’n ei churo hi.

 Ar yr adeg honno, roeddwn i’n gweithio fel rheolwr i gwmni diogelwch ac roeddwn i’n ennill cyflog da. Gwnaeth Skolastique geisio fy mherswadio i ymuno â’i heglwys Bentecostaidd, yn meddwl byddai hynny’n fy helpu i newid. Ond doedd gen i ddim diddordeb. Yn hytrach, dechreuais berthynas â dynes arall. Oherwydd fy ymddygiad creulon ac anfoesol, cymerodd Skolastique ein tri o blant i fyw gyda’i rhieni.

 Gwnaeth ffrind mewn oed sgwrsio â fi am fy ffordd o fyw. Gwnaeth o fy annog i fynd yn ôl at Skolastique. Dywedodd dylai fy mhlant annwyl fyw gyda’u tad. Felly yn 2005, stopiais yfed, gadewais y ddynes arall, ac es i yn ôl at Skolastique. Yn 2006 priodon ni. Ond, roeddwn i dal yn gas ac yn dreisgar i fy ngwraig.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Yn 2008, gwnaeth Joël, un o Dystion Jehofa, alw ar ein tŷ, a gwnes i wrando ar ei neges. Am rai misoedd, gwnaeth Joël a thyst arall o’r enw Bonaventure ymweld â fi yn rheolaidd a chafon ni drafodaethau dwfn am y Beibl. Gofynnais lawer o gwestiynau, yn enwedig am lyfr Datguddiad. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n ceisio profi’r Tystion yn anghywir. Er enghraifft, gofynnais sut oedden nhw’n gallu honni byddai’r ‘dyrfa enfawr’ yn Datguddiad 7:9 yn byw ar y ddaear, pan mae’r adnod yn dweud eu bod nhw’n “sefyll o flaen [gorsedd Duw] ac o flaen yr Oen,” Iesu Grist. Gwnaeth Joël ateb fy nghwestiynau yn amyneddgar. Er enghraifft, dangosodd Eseia 66:1 imi, lle mae Duw yn galw’r ddaear ei “stôl droed.” Felly mae’r dyrfa enfawr yn sefyll ar y ddaear o flaen gorsedd Duw. A darllenais Salm 37:29, sy’n dangos bydd y cyfiawn yn byw am byth ar y ddaear.

 Yn y pen draw, cytunais i astudio’r Beibl. Felly gwnaeth Bonaventure astudio gyda Skolastique a finnau. Gwnaeth astudio’r Beibl fy ysgogi i wneud newidiadau yn fy mywyd. Dysgais i drin fy ngwraig gyda pharch. Doeddwn i ddim eisiau iddi blygu o fy mlaen i bellach, a gwnes i stopio honni bod holl eiddo’r teulu yn perthyn i fi’n bersonol. Hefyd, wnes i stopio gwylio ffilmiau treisgar. Roedd hi’n anodd gwneud y newidiadau hyn, ac roedd angen lot o hunanreolaeth a gostyngeiddrwydd.

Dw i nawr yn ŵr llawer gwell oherwydd help y Beibl

 Rai blynyddoedd cynt, roeddwn i wedi cymryd fy mab hynaf, Christian, i fyw gyda pherthnasau yn Wganda. Ond ar ôl darllen Deuteronomium 6:4-7, sylweddolais mai fy ngwraig a fi sy’n gyfrifol o flaen Duw am fagu ein plant, gan gynnwys dysgu egwyddorion Beiblaidd iddyn nhw. Roedden ni a’n mab mor hapus pan ddaeth o adref!

FY MENDITHION

 Dysgais fod Jehofa yn Dduw trugarog, ac mae gen i ffydd ei fod wedi maddau imi am fy agwedd a fy ymddygiad yn y gorffennol. Dw i wrth fy modd bod Skolastique wedi ymuno â fi i astudio’r Beibl. Gwnaethon ni gysegru ein bywydau i Jehofa a chael ein bedyddio gyda’n gilydd ar Ragfyr 4, 2010. Nawr, rydyn ni’n trystio ein gilydd ac rydyn ni’n mwynhau rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein teulu. Mae fy ngwraig yn hapus iawn fy mod i’n dod adref yn syth ar ôl gwaith. Mae hi hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith fy mod i’n ei thrin hi’n garedig a gyda pharch, fy mod i wedi gwneud y penderfyniad personol i beidio ag yfed alcohol, a’r ffaith dydw i ddim bellach yn ddyn creulon. Yn 2015 ges i fy apwyntio’n henuriad i helpu bugeilio’r gynulleidfa. O’n pump o blant, mae tri wedi cael eu bedyddio.

 Pan ddechreuais astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa, roeddwn i’n cwestiynu popeth ddywedon nhw cyn ei dderbyn. Ond gwnaeth argraff fawr arna i eu bod nhw’n defnyddio’r Beibl i ateb fy nghwestiynau. Daeth Skolastique a finnau i ddeall bod rhaid i’r rhai sy’n honni gwasanaethu’r gwir Dduw fyw yn unol â’i holl safonau, nid dewis a dethol pa rai i’w dilyn. Dw i mor ddiolchgar bod Jehofa wedi fy nenu i, a dw i nawr yn rhan o’i deulu ysbrydol. Wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, dw i’n hollol sicr gall unrhyw un diffuant, gyda help Duw, wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn ei blesio.