Neidio i'r cynnwys

Gwasanaethu o’u Gwirfodd​—Yn Albania a Chosofo

Gwasanaethu o’u Gwirfodd​—Yn Albania a Chosofo

 “Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n gallu gwneud gymaint yng ngwasanaeth Jehofa.” Dyna sut mae Gwen, sydd o Loegr yn wreiddiol, yn teimlo am wasanaethu lle mae’r angen yn fwy yn Albania. a

 Nid Gwen ydy’r unig un sydd wedi symud i Albania i helpu i gasglu “trysor yr holl genhedloedd.” (Haggai 2:7, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae llawer o Dystion eraill wedi gwneud yr un peth. Ond beth sy’n eu cymell nhw? Beth roedd rhaid iddyn nhw ei wneud er mwyn gallu symud? A beth sydd wedi eu helpu nhw i ddal ati yn wyneb heriau?

Amgylchiadau Gwahanol, Ond yr Un Nod

 Mae’r holl gyhoeddwyr sydd wedi symud i Albania i helpu wedi dod am yr un rheswm​—maen nhw’n caru Jehofa ac eisiau i eraill ddod i’w adnabod.

 Gwnaethon nhw fwy yn y weinidogaeth cyn symud, a gwnaeth hynny eu paratoi nhw ar gyfer yr heriau o wasanaethu dramor. Dywedodd Gwen: “Y cam cyntaf i mi, oedd ymuno â grŵp Albaneg yn fy ardal leol. Yna es i i Albania ar gyfer cynhadledd, cyn dychwelyd yno am gyfnod er mwyn dysgu’r iaith yn well.”

Gwen

 Pan oedd Manuela yn 23, gwnaeth hi symud i helpu cynulleidfa fach yn ei mamwlad, yr Eidal. Dywedodd hi: “O’n i yn y gynulleidfa honno am bedair blynedd, ond wedyn wnes i glywed bod ’na lawer o waith i’w wneud yn Albania. Felly, es i yno i arloesi am ychydig o fisoedd.”

Manuela (Canol)

 Mewn un gynhadledd, gwnaeth adroddiad am Albania ddal sylw Federica, oedd ond yn saith mlwydd oed ar y pryd. Mae hi’n dweud: “Yn ystod yr adroddiad, dywedodd y brawd bod y brodyr a chwiorydd yn Albania yn cael llwyddiant mawr wrth ddechrau astudiaethau Beiblaidd a gwahodd rhai i’r cyfarfodydd. Er mawr syndod i fy rhieni, o’n i wirioneddol eisiau symud i Albania ar ôl clywed hynny. A dyma Dad yn dweud, ‘Gweddïa am y peth, ac os mai dyna mae Jehofa eisiau, bydd yn gwrando.’ Ychydig o fisoedd wedyn, cawson ni fel teulu ein gwahodd i wasanaethu yn Albania!” Erbyn hyn, mae llawer o flynyddoedd wedi mynd heibio ac mae Federica yn dal yn Albania, yn gwasanaethu’n llawn amser gyda’i gŵr, Orges.

Orges a Federica

 Symudodd Gianpiero, a’i wraig Gloria, i Albania ar ôl iddo ymddeol. Dywedodd: “Gwnaethon ni fagu’r hogia’ yn yr Eidal, a symudodd tri ohonyn nhw i wasanaethu lle oedd yr angen yn fwy. A gwnaeth un erthygl Tŵr Gwylio o’r enw Can You Step Over Into Macedonia? wneud i ni eisiau gwneud hynny hefyd. Felly, gwnaethon ni drafod sut gallwn ni ddefnyddio fy mhensiwn i wasanaethu yn Albania.”

Gianpiero a Gloria

Gwnaethon Nhw Gynllunio yn Ofalus

 Cyn symud i le mae’r angen yn fwy, gwnaethon nhw gynllunio, gwneud y newidiadau angenrheidiol, a ffeindio ffordd o gynnal eu hunain tra oedden nhw i ffwrdd. (Luc 14:28) Er enghraifft, cyn i Gwen symud o Loegr, symudodd hi i mewn gyda’i chwaer er mwyn arbed arian. Wrth gofio yn ôl, dywedodd Sophia a Christopher, sydd hefyd o Loegr: “Gwnaethon ni werthu ein car ac ychydig o ddodrefn yn y gobaith y byddwn ni’n gallu aros yn Albania am o leiaf flwyddyn.” Ond fel mae’n digwydd, roedden nhw’n gallu aros yn llawer iawn hirach!

Christopher a Sophia

 Mae rhai cyhoeddwyr yn rhannu’r flwyddyn rhwng Albania a’u mamwlad. Maen nhw’n mynd adref i weithio am ychydig o fisoedd er mwyn gallu fforddio mynd yn ôl i Albania am weddill y flwyddyn. Dyna wnaeth Eliseo a Miriam. Dywedodd Eliseo: “Mae Miriam yn dod o ardal yn yr Eidal sy’n boblogaidd â’r twristiaid. Yno, mae’n hawdd iawn ffeindio swyddi dros dro. Roedd gweithio yno am dri mis yn yr haf yn ddigon inni fyw arno yn Albania am naw mis. A dyna wnaethon ni am bum mlynedd.”

Miriam ac Eliseo

Trechu Heriau

 Mae’n rhaid addasu i lawer o amgylchiadau newydd ar ôl symud. Ond gall cyngor ac esiampl y Tystion lleol helpu i drechu’r her honno. Dywedodd Sophia: “Yn ystod y gaeaf, mae’r tai yn Albania yn llawer oerach na beth o’n i wedi arfer gyda yn ôl adref. Ond gwnes i sylwi ar beth oedd y chwiorydd leol yn ei wisgo a’u hefelychu nhw.” Symudodd Grzegorz, a’i wraig Sona, o Wlad Pwyl i Prizren, tref fach hyfryd yng Nghosofo. b Dywedodd Grzegorz: “Mae’r brodyr a chwiorydd lleol mor ostyngedig, caredig, ac amyneddgar! Maen nhw wedi gwneud llawer iawn mwy na dim ond ein helpu ni i ddysgu’r iaith. Gwnaethon nhw ein rhoi ni ar ben ffordd ynglŷn â pha siopau oedd y rhataf, ac esbonio sut i brynu bwyd yn y farchnad leol.”

Llawer o Resymau i Lawenhau

 Un o’r bendithion mwyaf o symud dramor ydy gwneud ffrindiau da â’r Tystion lleol a dysgu am eu cefndir. Dywedodd Sona: “Dw i wedi gweld pa mor bwerus ydy cariad Jehofa. Mae ’na frodyr sydd wedi newid eu bywydau yn llwyr ar ôl dod i’w ’nabod, ac mae hynny wir wedi cryfhau fy ffydd. ’Dyn ni’n teimlo ein bod ni’n rhan o’r gynulleidfa, ac yn ddefnyddiol. ’Dyn ni wrth ein boddau yn gwasanaethu ochr yn ochr â’n brodyr a’n chwiorydd sydd bellach yn ffrindiau da inni.” (Marc 10:29, 30) A dywedodd Gloria: “Dw i’n ’nabod sawl chwaer sydd wedi dioddef gwrthwynebiad ofnadwy, a hyd yn oed treisgar, gan y gymuned, ond mae gweld gymaint maen nhw’n caru Jehofa yn cyffwrdd fy nghalon i.”

Grzegorz a Sona

 Wrth wasanaethu lle mae’r angen yn fwy, mae’r cyhoeddwyr hyn wedi cael y cyfle i ddysgu llawer o wersi na fydden nhw wedi eu dysgu gartref. Byddai llawer ohonyn nhw yn cytuno bod mynd y tu hwnt i beth sy’n gyffyrddus er mwyn gwneud mwy i Jehofa yn dod â llawenydd mawr. Dyna oedd profiad Stefano. Dywedodd: “Pan o’n i adref, o’n i fel arfer yn pregethu dros intercom, ac ond yn gwneud cyflwyniadau byr. Ond mae’r Albaniaid wrth eu boddau yn cael sgyrsiau hir, yn enwedig dros baned o goffi. Oedd gen i gywilydd oherwydd dw i’n swil ofnadwy, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Ond dros amser, wnes i ddysgu i ganolbwyntio ar y bobl a dangos diddordeb ynddyn nhw. Ond rŵan fy mod i wedi dod i arfer siarad â phobl, dw i’n mwynhau’r gwaith pregethu llawer mwy.”

Alida a Stefano

 Symudodd Leah, gyda’i gŵr William, o’r Unol Daleithiau i Albania. Dywedodd hi: “Mae gwasanaethu yma wedi bod yn agoriad llygad. ’Dyn ni wedi dysgu gymaint am letygarwch, cyfeillgarwch, a pharch, yn ogystal â ffyrdd newydd i bregethu, rhesymu o’r Beibl, a mynegi ein hunain.” Dywedodd William: “Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod yma ar gyfer y traethau bendigedig, mae’n well gen i grwydro’r Alpau Albaneg. Ond y bobl sy’n gwneud y lle yma yn arbennig! Mae ’na lawer o bentrefi yn ein tiriogaeth lle ’dyn ni ond wedi pregethu yn ystod ymgyrchoedd arbennig. Weithiau pan ’dyn ni’n mynd yna gallwn ni dreulio’r diwrnod cyfan yn siarad â dim ond un neu ddau o deuluoedd.”

William a Leah

 Y peth gorau am wasanaethu lle mae’r angen yn fwy ydy gweld pobl yn ymateb yn dda i neges y Deyrnas. (1 Thesaloniaid 2:19, 20) Symudodd Laura i Albania pan oedd hi’n chwaer ifanc, sengl. Dywedodd hi: “Gwnes i wasanaethu yn Fier am gyfnod, ac o fewn dwy flynedd a hanner roedd ’na 120 o gyhoeddwyr newydd! Ges i’r fraint o astudio gydag 16 ohonyn nhw!” Dywedodd chwaer arall o’r enw Sandra: “Dw i’n cofio tystiolaethu i ddynes oedd yn gweithio yn y farchnad​—daeth hi’n chwaer yn y pen draw​—a’r diwethaf imi glywed oedd ei bod hi wedi symud yn ôl i’w phentref ac wedi cychwyn 15 astudiaeth Feiblaidd!”

Laura

Sandra

Mae Jehofa yn eu Bendithio am Ddal Ati

 Mae rhai sydd wedi symud i Albania yno ers blynyddoedd, ac maen nhw’n mwynhau eu gwasanaeth yn fawr iawn. Weithiau maen nhw’n synnu ar yr ochr orau pan maen nhw’n gweld bod eu gwaith wedi dwyn ffrwyth ymhell ar ôl iddyn nhw blannu’r hedyn cyntaf. (Pregethwr 11:6) Dywedodd Christopher, gwnaethon ni ei ddyfynnu gynnau: “Des i ar draws un o’r dynion cyntaf imi astudio ag ef yn Albania. Roedd yn cofio ein sgyrsiau cyntaf am y Beibl. Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny, ond oedd hi’n syrpréis neis. Erbyn hyn, mae ef a’i wraig wedi cael eu bedyddio.” Dywedodd Federica, gwnaethon ni sôn amdani gynt: “Mewn un gynulleidfa, daeth chwaer ata i a gofyn os o’n i’n ei chofio hi. Oedd hi’n cofio fy mod i wedi tystiolaethu iddi naw mlynedd yn ôl. Rywbryd ar ôl imi symud i dref arall, roedd hi wedi astudio’r Beibl a chael ei bedyddio. O’n i’n arfer meddwl ein bod ni heb gael llawer o lwyddiant yn ein blynyddoedd cynnar yn Albania, ond o’n i’n hollol anghywir!”

 Yn sicr, mae Jehofa wedi bendithio’r brodyr a’r chwiorydd sydd wedi symud i Albania neu Cosofo i helpu, ac wedi rhoi bywyd llawn pwrpas iddyn nhw. Maen nhw’n hynod o ddiolchgar am hynny. Ar ôl blynyddoedd yn Albania, daeth Eliseo i’r casgliad: “Fel pobl, mae’n ddigon hawdd syrthio i’r fagl o feddwl y bydd ein bywyd yn un sefydlog os ydyn ni’n dibynnu ar beth mae’r byd yn ei ystyried yn sefydlog. Ond mewn gwirionedd, egwyddorion Jehofa sy’n ein gwneud ni’n sefydlog ac sy’n rhoi pwrpas inni. Mae gwasanaethu lle mae’r angen yn fwy wedi fy helpu i i gofio hynny. Dw i’n teimlo’n ddefnyddiol ac yn werthfawr. Ar ben hynny, mae gen i ffrindiau go iawn sy’n gweithio tuag at yr un amcanion. Mae Sandra yn cytuno. Dywedodd: “O’n i wastad eisiau bod yn genhades, a dw i’n teimlo bod gwasanaethu lle mae’r angen yn fwy wedi bod yn gyfle gan Jehofa i wneud hynny. Dw ddim wedi difaru symud i Albania o gwbl, a dw i erioed wedi bod yn hapusach!”

a Gallwch chi ddysgu mwy am hanes y gwaith pregethu yn Albania yn Blwyddlyfr Tystion Jehofa 2010.

b Mae Cosofo i’r gogledd-ddwyrain o Albania. Yn yr ardal hon, mae llawer o bobl yn siarad un o dafodieithoedd Albania. Aeth Tystion o Albania, yr Unol Daleithiau, a sawl un o wledydd Ewrop i rannu’r newyddion da yng Nghosofo â’r rhai sy’n siarad y dafodiaith honno. Erbyn 2020, roedd ’na 256 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn wyth cynulleidfa, tri grŵp, a dau rhag-grŵp.