Neidio i'r cynnwys

Gwasanaethu o’u Gwirfodd​—Ym Mwlgaria

Gwasanaethu o’u Gwirfodd​—Ym Mwlgaria

 Mae Tystion Jehofa ym Mwlgaria wrthi’n brysur yn dysgu eraill y gwir am Dduw a’i Air y Beibl. Er mwyn eu helpu, mae cannoedd o Dystion o wledydd eraill wedi symud i Fwlgaria ers y flwyddyn 2000. Beth yw’r heriau mae rhywun yn eu cael o symud i wlad estron i bregethu? Pam mae hi’n werth yr ymdrech? Dyma ychydig o sylwadau gan rai sydd wedi symud i Fwlgaria.

Gosod y Nod

 “Roedd hi wastad wedi bod yn nod i wasanaethu tramor lle mae angen mwy o help,” meddai Darren, a oedd yn byw yn Lloegr. “Ar ôl imi briodi Dawn, symudon ni i Lundain i helpu pobl sy’n siarad Rwseg i ddysgu am y Beibl. Fe wnaethon ni gynlluniau penodol i symud tramor fwy nag unwaith, ond am amryw resymau roedden ni’n methu mynd. Bron iawn inni roi’r gorau i’r syniad, ond yna helpodd ffrind inni weld bod ein hamgylchiadau wedi newid a bod ein nod o fewn ein cyrraedd.” Dechreuodd Darren a Dawn edrych am wlad lle roedd ’na fwy o angen am athrawon y Beibl a lle oedd hi’n bosib iddyn nhw symud. Yn 2011, symudon nhw i Fwlgaria.

Darren a Dawn

 Mae esiampl lawen y rhai sydd wedi symud i rannau eraill o’r byd wedi annog rhai oedd ar y cychwyn heb feddwl am symud tramor. “Wnes i gwrdd â Thystion a oedd yn gwasanaethu’n hapus yn Ne America ac yn Affrica,” meddai Giada, oedd yn byw yn yr Eidal gyda’i gŵr Luca. “Gwnaeth eu llawenydd a’u profiadau gyffwrdd â nghalon i, a helpodd hyn imi newid fy nodau yng ngwasanaeth Jehofa.”

Luca a Giada

 Symudodd Tomasz a Veronika o’r Weriniaeth Tsiec i Fwlgaria yn 2015, gyda’u plant, Klara a Mathias. Beth ysgogodd nhw i symud? Atebodd Tomasz: “Mi wnaethon ni feddwl yn ddwys am esiamplau a phrofiadau eraill oedd wedi symud tramor, gan gynnwys perthnasau. Cawson ni ein cyffwrdd gan eu llawenydd, a gwnaethon ni drafod hyn â’n gilydd.” Bellach mae aelodau o’r teulu hapus hwn yn pregethu yn eu tiriogaeth newydd yn ninas Montana ym Mwlgaria.

Klara, Tomasz, Veronika, a Mathias

 Mae Linda yn Dyst arall a symudodd i Fwlgaria. Dywedodd: “Llawer o flynyddoedd yn ôl es i i Ecwador a chwrdd â rhai oedd wedi symud yno i bregethu. Gwnaeth hynny wneud imi feddwl y gallwn innau gwasanaethu lle mae’r angen yn fwy.” Cafodd Petteri a Nadja, cwpl o’r Ffindir, eu dylanwadu gan esiampl eraill hefyd. Dywedon nhw: “Yn ôl yn ein cynulleidfa gartref, roedd gynnon ni nifer o gyhoeddwyr profiadol oedd wedi symud i lefydd eraill i helpu pobl yn ysbrydol. Bydden nhw wastad yn siarad yn frwdfrydig am y blynyddoedd y buon nhw yn y math yna o wasanaeth. Dywedon nhw mai dyna oedd blynyddoedd gorau eu bywydau.”

Linda

Nadja a Petteri

Cynllunio o Flaen Llaw

 Mae’n hanfodol i gynllunio’n drylwyr o flaen llaw os ydych chi eisiau gwasanaethu tramor. (Luc 14:28-30) “Wrth imi ddechrau meddwl o ddifri am wasanaethu mewn gwlad arall,” meddai Nele, o Wlad Belg, “es i ati i chwilio am erthyglau perthnasol yn ein cyhoeddiadau gan weddïo ar y mater. Wrth astudio nhw, wnes i geisio gweithio allan beth oedd angen imi wneud i fod yn barod i symud.”

Nele (dde)

 Mae Kristian ac Irmina, o Wlad Pwyl, wedi byw ym Mwlgaria am dros naw mlynedd. Maen nhw’n deall nawr pa mor ddefnyddiol oedd hi eu bod nhw wedi mynychu grŵp Bwlgareg ei iaith yng Ngwlad Pwyl cyn iddyn nhw symud. Yno, cawson nhw’r anogaeth oedden nhw eu hangen i ddysgu’r iaith. Dywedodd Kristian ac Irmina: “Ein profiad ni oedd, os ydych chi’n cynnig eich hun, mae Jehofa Dduw yn gofalu am eich anghenion, ac mae hyn yn deimlad hyfryd. Pan ’dych chi’n dweud wrth Jehofa o’ch gwirfodd, ‘Dyma fi; anfon fi!’ gallwch chi wneud pethau nad oeddech chi erioed yn meddwl y bydden nhw’n bosib.”—Eseia 6:8.

Kristian ac Irmina

 Er mwyn paratoi a chynilo arian, penderfynodd Reto a Cornelia, cwpl o’r Swistir, i symleiddio eu bywydau. “Flwyddyn cyn inni symud,” medden nhw, “aethon ni i Fwlgaria am wythnos i gael darlun cliriach o sut fath o le oedd y wlad oedden ni’n symud iddi. Cawson ni gyfle i siarad â chenhadon profiadol a chael cyngor ymarferol ganddyn nhw.” Rhoddodd Reto a Cornelia’r cyngor hwnnw ar waith a bellach maen nhw wedi bod ym Mwlgaria ers dros 20 mlynedd.

Cornelia a Reto, gyda’u meibion Luca a Yannik

Ymdopi â Heriau

 Mae’n rhaid i bobl sy’n symud i wlad tramor addasu i amgylchiadau newydd sy’n gallu bod yn heriol. (Actau 16:9, 10; 1 Corinthiaid 9:19-23) Un o’r heriau mwyaf yw dysgu iaith newydd. “’Dyn ni wastad wedi mwynhau ateb yn ein geiriau ein hunain wrth gymryd rhan yn y cyfarfodydd,” meddai Luca, a soniwyd amdano gynnau. “Ond, am gyfnod, roedd hi’n anodd imi a’m gwraig i baratoi hyd yn oed un ateb syml yn Bwlgareg! Roedd hi fel bod yn blant eto. A dweud y gwir, roedd atebion y plant lleol gymaint yn well na rhai ni.”

 Dywedodd Ravil, o’r Almaen: “Roedd dysgu’r iaith yn blino dyn. Ond o’n i’n dweud wrth fy hun, ‘Paid â chymryd dy hun gormod o ddifri, a cheisia gadw synnwyr digrifwch pan wyt ti’n gwneud camgymeriadau.’ Mi fydda i’n edrych ar yr heriau, nid fel problem, ond fel rhan o’m gwasanaeth cysegredig i Jehofa.”

Ravil a Lilly

 Dywedodd Linda, a soniwyd amdani’n gynharach: “Does gen i ddim dawn arbennig am ddysgu ieithoedd. Dydy Bwlgareg ddim yn iaith hawdd ei dysgu, a dw i wedi meddwl droeon am roi’r ffidil yn y to. Er mwyn cadw’n gryf yn ysbrydol, wnes i wneud fy astudio personol i gyd yn Swedeg. Ymhen hir a hwyr, gyda help fy annwyl frodyr a chwiorydd, llwyddais i groesi’r bont a dod yn rhugl.”

 Mae’n gallu cymryd amser i fwrw eich hiraeth. Mae’r rhai sy’n symud yn gadael teulu a ffrindiau ar eu holau. “Yn y dechrau, o’n i’n teimlo’n unig,” meddai Eva, a symudodd gyda’i gŵr, Yannis. “Er mwyn ymdopi â hynny, ’dyn ni’n cyfathrebu’n rheolaidd gyda’n ffrindiau a theulu gartref, a ’dyn ni wedi gwneud ffrindiau newydd yma.”

Yannis ac Eva

 Mae ’na heriau eraill. Esboniodd Robert a Liana, oedd wedi symud o’r Swistir: “Roedd yr iaith a’r diwylliant yn her fawr inni, a doedden ni ddim wedi disgwyl i’r gaeafau fod mor oer yma.” Ond, mae cadw agwedd bositif a chadw eu synnwyr digrifwch wedi helpu’r cwpl i wasanaethu’n ffyddlon ym Mwlgaria dros yr 14 blynedd diwethaf.

Robert a Liana

Y Bendithion

 Mae Lilly yn annog pawb yn frwd i bregethu lle mae mwy o angen. “Dw i wedi gallu dod i adnabod Jehofa mewn ffordd na fyddai ddim wedi bod yn bosib yn ôl yn fy ngwlad fy hun,” meddai hi. “Galla i fod yn brysurach yn helpu eraill, ac mae hyn yn fy helpu i dyfu’n ysbrydol ac yn rhoi llawer o lawenydd a boddhad imi.” Mae Ravil, ei gŵr, yn cytuno. Mae’n dweud: “Dyma’r bywyd gorau, cyfle unigryw i ddod i adnabod Cristnogion selog o wahanol wledydd sydd â llawer o brofiad o ddysgu gwirioneddau’r Beibl i eraill. Dw i wedi dysgu gymaint ganddyn nhw.”

 Mae’r ffaith fod cymaint wedi bod mor awyddus i helpu wedi arwain at lwyddiant ysgubol wrth bregethu “newyddion da am deyrnasiad Duw . . . drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Gyda’u hysbryd parod i wirfoddoli, mae’r rhai sydd wedi dod i Fwlgaria wedi gweld dymuniadau eu calonnau yn dod yn wir a llwyddiant i’w holl gynlluniau.—Salm 20:1-4.