Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Cenhadu?

Ydy Tystion Jehofa yn Cenhadu?

 Ydyn. Pa le bynnag maen nhw’n byw, mae Tystion Jehofa yn ceisio dangos yr un agwedd â chenhadon, gan rannu eu ffydd yn gyson â phobl.​—Mathew 28:19, 20.

 Hefyd, mae rhai Tystion yn ymweld ag ardaloedd yn eu gwledydd eu hunain, neu yn symud yno, er mwyn rhannu’r newyddion da o’r Beibl â phobl sydd heb ei glywed eto. Er mwyn ehangu eu gweinidogaeth mae eraill wedi symud i wledydd tramor. Maen nhw’n hapus i gael rhan yng nghyflawniad proffwydoliaeth Iesu: “Byddwch yn dystion i mi . . . hyd eithaf y ddaear.”​—Actau 1:8.

 Yn 1943, cafodd ysgol ei sefydlu gan y Tystion i ddarparu hyfforddiant arbenigol i rai o’n cenhadon. Ers hynny, mae dros 8,000 o Dystion wedi bod i’r ysgol, sef Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower.