Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD

Gwnaeth y Beibl Oroesi Gwrthwynebiad

Gwnaeth y Beibl Oroesi Gwrthwynebiad

Y PERYG: Roedd llawer o wleidyddion ac arweinwyr crefyddol yn gwneud pethau oedd yn mynd yn groes i’r Beibl. Yn aml, roedden nhw’n defnyddio eu hawdurdod i stopio pobl rhag bod yn berchen ar Feibl, ei gynhyrchu, neu ei gyfieithu. Ystyriwch ddwy enghraifft:

  • Tua 167 COG: Gwnaeth y Brenin Antiochus Epiphanes, a oedd yn ceisio gorfodi’r grefydd Roeg ar yr Iddewon, orchymyn i bob copi o’r Ysgrythurau Hebraeg gael ei ddinistrio. Gwnaeth ei swyddogion “rwygo a llosgi sgroliau’r Gyfraith bryd bynnag daethon nhw o hyd iddyn nhw,” ysgrifennodd yr hanesydd Heinrich Graetz, “a lladd y rhai oedd eisiau eu darllen nhw.”

  • Y Canol Oesoedd: Roedd rhai arweinwyr Catholig yn ddig bod pobl gyffredin yr Eglwys yn pregethu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu yn hytrach na dogma Catholig. Felly roedden nhw’n galw unrhyw un oedd yn berchen ar un o lyfrau’r Beibl, heblaw’r Salmau yn Lladin, yn heretic. Fe wnaeth un cyngor eglwysig orchymyn i’w dynion chwilio’n ofalus drwy bob tŷ ac ystafell dan ddaear lle roedden nhw’n tybio bod rhywun wedi cuddio rhannau o’r Beibl, ac i wneud hynny’n aml. Os oedden nhw’n cael hyd i heretic, roedd rhaid iddyn nhw ddinistrio ei dŷ.

Petai gelynion y Beibl wedi llwyddo i’w ddinistrio, byddai ei neges wedi diflannu.

Goroesodd cyfieithiad Saesneg William Tyndale o’r Beibl er gwaethaf gwaharddiad, ymgyrch i losgi Beiblau, a dienyddiad Tyndale ei hun ym 1536

SUT GWNAETH Y BEIBL OROESI? Roedd y Brenin Antiochus wedi canolbwyntio ar Israel yn ei ymgyrch, ond roedd yr Iddewon wedi sefydlu cymunedau mewn llawer o wledydd eraill. A dweud y gwir, mae ysgolheigion yn amcangyfrif bod 60 y cant o Iddewon yn byw y tu allan i Israel erbyn y ganrif gyntaf OG. Yn eu synagogau, roedd yr Iddewon yn cadw copïau o’r Ysgrythurau—yr un Ysgrythurau a gafodd eu defnyddio yn hwyrach ymlaen gan y Cristnogion hefyd.—Actau 15:21.

Yn ystod y canol oesoedd, gwnaeth rhai oedd yn caru’r Beibl barhau i’w gyfieithu a mynd ati’n ddewr i’w gopïo er gwaethaf erledigaeth. Cyn i’r Beibl ddechrau cael ei brintio ar wasg, mwy na 500 mlynedd yn ôl, roedd rhannau ohono eisoes wedi cael ei gyfieithu a’i gopïo â llaw i o leiaf 33 o ieithoedd. O hynny ymlaen, roedd y Beibl yn cael ei gyfieithu a’i gynhyrchu yn gynt nag erioed o’r blaen.

Y CANLYNIAD: Er bod brenhinoedd pwerus ac arweinwyr crefyddol wedi ceisio dinistrio’r Beibl, mae’n bosib ei ddarllen ar hyd a lled y byd, ac mae wedi ei gyfieithu i fwy o ieithoedd nag unrhyw lyfr arall. Mae wedi dylanwadu ar gyfreithiau ac ieithoedd rhai gwledydd, yn ogystal â bywydau miliynau o bobl.