Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Sut roedd pobl yn adeg y Beibl yn gwybod pryd roedd misoedd a blynyddoedd yn cychwyn?

I’R HEBREAID yng Ngwlad yr Addewid, roedd y flwyddyn waith yn cychwyn pan oedden nhw’n dechrau aredig a hau. Roedd hynny’n digwydd yn ystod mis Medi neu Hydref, fel rydyn ni bellach yn eu galw.

Roedd pobl yn arfer mesur y deuddeg mis yn ôl y lleuad, felly roedd y misoedd tua 29 neu 30 diwrnod o hyd. Ond roedden nhw’n mesur y flwyddyn yn ôl yr haul. Y broblem oedd bod blwyddyn o fisoedd y lleuad yn fyrrach na blwyddyn yr haul. Felly sut roedden nhw’n datrys hynny? Roedden nhw’n ychwanegu diwrnod neu fis bob hyn a hyn, er enghraifft, cyn i’r flwyddyn nesaf gychwyn. Drwy wneud hynny, roedd y calendr yn cyd-fynd â’r tymhorau ar gyfer plannu a chynaeafu.

Yn adeg Moses, dywedodd Duw wrth ei bobl y dylai’r flwyddyn grefyddol ddechrau gyda mis Abib, neu Nisan, hynny yw mis Mawrth neu Ebrill erbyn heddiw. (Ex. 12:2; 13:4) Yn ystod y mis hwn, roedden nhw’n cynaeafu’r haidd fel rhan o ŵyl.—Ex. 23:15, 16.

Yn ei lyfr The History of the Jewish People in the Age of Jesus Christ, (175 B.C.–A.D. 135), dywedodd Emil Schürer: “Roedd y ffordd roedden nhw’n penderfynu a ddylen nhw roi dyddiau i mewn i’r calendr neu beidio, yn syml iawn. Roedd rhaid i ŵyl y Pasg, a oedd yn cael ei dathlu ar noson y lleuad llawn ym mis Nisan (Nisan 14), ddigwydd ar ôl cyhydnos y gwanwyn. Felly os oedden nhw’n sylwi y byddai’r Pasg yn syrthio cyn cyhydnos y gwanwyn, roedden nhw’n cyhoeddi y byddai mis arall (13eg mis) yn cael ei ychwanegu o flaen Nisan.”

Mae Tystion Jehofa yn defnyddio’r un rheol wrth weithio allan y diwrnod cywir ar gyfer Swper yr Arglwydd, sy’n cyfateb i Nisan 14 ar y calendr Hebreig. Mae cynulleidfaoedd ledled y byd yn cael gwybod o flaen llaw beth ydy’r dyddiad hwnnw. *

Ond sut roedd yr Hebreaid yn gwybod pryd byddai un mis yn gorffen ac un newydd yn dechrau? Heddiw, mae’n ddigon hawdd inni edrych ar galendr ar wal, neu ar ein ffôn, ond doedd pethau ddim mor syml yn adeg y Beibl.

Yn nyddiau Noa, roedd misoedd yn 30 diwrnod o hyd. (Gen. 7:11, 24; 8:3, 4) Ond yn hwyrach ymlaen, yn adeg yr Hebreaid, doedd misoedd ddim o reidrwydd yn para 30 diwrnod. Yn eu calendr nhw, roedd mis newydd yn cychwyn cyn gynted ag yr oedden nhw’n gweld cryman y lleuad newydd. Gallai hynny fod yn 29 neu 30 diwrnod ar ôl cychwyn y mis blaenorol.

Ar un achlysur, cyfeiriodd Dafydd a Jonathan at fis drwy ddweud bod yna ‘leuad newydd fory.’ (1 Sam. 20:5, 18) Mae hynny’n dangos bod y misoedd yn cael eu cyfrif o flaen llaw erbyn yr 11eg ganrif COG. Ond sut roedd yr Israeliaid yn gwybod pryd roedd mis newydd yn cychwyn? Mae’r Mishnah, sydd yn gasgliad o gyfraith lafar a thraddodiad Iddewig, yn dangos sut roedd pethau’n cael eu gwneud ar ôl y gaethglud i Fabilon. Yn ystod y saith mis pan oedd ’na ŵyl, roedd y Sanhedrin, (sef Uchel Lys yr Iddewon), yn cyfarfod ar 30ain diwrnod y mis. Nhw oedd yn gyfrifol am benderfynu pryd byddai mis newydd yn cychwyn. Ond sut roedden nhw’n gwneud hynny?

Roedd dynion yn cael eu haseinio i fynd i fannau uchel o gwmpas Jerwsalem i gadw llygad allan am y lleuad newydd, ac adrodd yn ôl i’r Sanhedrin cyn gynted ag yr oedden nhw’n ei gweld. Unwaith i’r llys gael digon o dystiolaeth bod ’na leuad newydd, roedden nhw’n cyhoeddi cychwyn mis newydd. Ond beth os oedd ’na gymylau neu niwl yn gorchuddio’r lleuad? Roedden nhw wedyn yn cyhoeddi bod gan y mis cyfredol 30 diwrnod ac felly gallai mis newydd gychwyn.

Yn ôl y Mishnah, yn y dyddiau cynnar, roedden nhw’n cynnau tân ar ben Mynydd yr Olewydd ger Jerwsalem er mwyn cyhoeddi penderfyniad y Sanhedrin. Yna, roedd y newyddion yn lledaenu drwy Israel wrth iddyn nhw gynnau tân ar fannau uchel eraill. Yn hwyrach ymlaen yn eu hanes, roedden nhw’n defnyddio negeswyr. Drwy wneud hynny, roedd yr Iddewon drwy Jerwsalem, Israel, a llefydd eraill yn gwybod bod y mis newydd wedi cychwyn. Felly, roedden nhw’n gallu dathlu’r gwyliau tymhorol ar yr un pryd â’i gilydd.

Efallai bydd y siart isod yn dy helpu i ddeall sut roedd y misoedd, gwyliau, a thymhorau yn cysylltu â’i gilydd yn adeg yr Israeliaid.

^ Gweler rhifyn Chwefror 15, 1990, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 15, a Questions From Readers yn rhifyn Mehefin 15, 1977.