Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sgrôl Hynafol “Wedi ei Dadlapio”

Sgrôl Hynafol “Wedi ei Dadlapio”

Roedd dernyn llosg Ein Gedi yn annarllenadwy ers iddo gael ei ddarganfod ym 1970. Mae sgan 3D wedi datgelu bod rhan o Lefiticus yn y sgrôl, a bod y rhan honno’n cynnwys enw personol Duw

YM 1970, cafodd sgrôl a oedd wedi ei llosgi’n ddifrifol ei thyrchu o’r pridd gan archaeolegwyr yn Ein Gedi, Israel, wrth ymyl glan orllewinol y Môr Marw. Cawson nhw hyd i’r sgrôl wrth ddatgloddio synagog, a losgwyd pan gafodd y pentref ei ddinistrio, yn y chweched ganrif OG yn ôl pob tebyg. Roedd cyflwr y sgrôl yn ei gwneud hi’n amhosib i’w darllen a doedd ’na ddim modd ei dadrolio heb ei thorri. Sut bynnag, diolch i dechneg sganio 3D, fe gafodd y sgrôl ei “dadlapio.” Gyda chymorth meddalwedd golygu delweddau, mae’n bosib ei darllen.

Beth mae’r sgan wedi ei ddatgelu? Testun Beiblaidd yw’r sgrôl. Mae’r hyn sydd ar ôl yn cynnwys adnodau o ran agoriadol llyfr Lefiticus. Mae’r adnodau yn cynnwys y Tetragramaton, sef enw personol Duw yn Hebraeg. Mae’n ymddangos bod y darganfyddiad yn dyddio o’r cyfnod rhwng ail hanner y ganrif gyntaf OG a’r bedwaredd ganrif OG, sy’n golygu mai’r sgrôl hon yw’r hynaf a ddarganfuwyd ers llawysgrifau Qumran. “Hyd nes cafodd dernyn Ein Gedi o lyfr Lefiticus ei dadrolio yn rhithiol,” meddai Gil Zohar yn y Jerusalem Post, “roedd bwlch o fileniwm rhwng Sgroliau’r Môr Marw 2,000 o flynyddoedd oed, yn dyddio o gyfnod yr Ail Deml, a’r Codex Aleppo canoloesol a ysgrifennwyd yn y 10fed ganrif.” Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r sgrôl a gafodd ei dadlapio yn rhithiol yn dangos bod testun Masoretaidd y Tora “wedi cael ei gadw’n ddigyfnewid am filoedd o flynyddoedd, heb gamgymeriadau copïwyr yn sleifio i mewn.”