Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pa fath o gerbyd oedd yr eunuch o Ethiopia yn ei ddefnyddio pan ddaeth Philip ato?

MAE’R gair sydd wedi ei gyfieithu “cerbyd” yn Cyfieithiad y Byd Newydd yn gallu golygu mwy nag un math o gerbyd. (Act. 8:​28, 29, 38) Ond, mae’n edrych fel bod yr Ethiopiad yn defnyddio cerbyd mwy na cherbyd rhyfel neu gerbyd rasio. Dyma rai rhesymau pam gallwn ni ddod at y casgliad hwn.

Roedd yr Ethiopiad yn swyddog uchel oedd wedi teithio pellter hir. Roedd yn ddyn “a oedd ag awdurdod o dan Candace, brenhines yr Ethiopiaid, ac a oedd yn gyfrifol am ei holl drysor hi.” (Act. 8:27) Roedd Ethiopia gynt yn cynnwys y Swdan a’r rhan ddeheuol o’r Aifft sy’n bodoli heddiw. Mae’n debyg nad oedd y dyn wedi teithio yn yr un cerbyd am y daith gyfan, ond byddai wedi cymryd bagiau gydag ef am y daith hir. Yn y ganrif gyntaf, un o’r cerbydau a oedd yn cael ei ddefnyddio oedd cerbyd gyda phedair olwyn a tho arno. “Byddai cerbyd o’r fath yn caniatáu i rywun gymryd mwy o fagiau gyda nhw, yn gwneud y daith yn fwy cyfforddus, ac efallai yn ei gwneud hi’n bosib iddyn nhw deithio’n hirach,” meddai’r llyfr Acts—An Exegetical Commentary.

Roedd yr Ethiopiad yn darllen pan ddaeth Philip ato. Mae’r hanes yn dweud bod Philip wedi rhedeg “wrth ochr y cerbyd a chlywed [yr eunuch] yn darllen y proffwyd Eseia yn uchel.” (Act. 8:30) Doedd cerbydau teithio ddim wedi cael eu gwneud i fynd yn gyflym. Byddai teithio yn arafach wedi caniatáu i’r eunuch ddarllen a hefyd galluogi Philip i ddal i fyny â’r cerbyd.

Gwnaeth yr Ethiopiad “wahodd Philip i ddod i fyny ac eistedd gydag ef.” (Act. 8:31) Byddai pobl wedi gorfod sefyll mewn cerbyd rasio. Ond, mewn cerbyd teithio, byddai digon o le i’r eunuch a Philip eistedd i lawr gyda’i gilydd.

Yn unol â’r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yn Actau pennod 8 a’r dystiolaeth hanesyddol sydd ar gael, mae ein cyhoeddiadau diweddar wedi dangos yr eunuch o Ethiopia yn eistedd mewn cerbyd mwy o faint na cherbyd rhyfel neu rasio.