Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bisgedi i’r Cŵn

Bisgedi i’r Cŵn

“YNG ngwanwyn 2014, wnes i ddechrau cymryd llwybr drwy ganol y ddinas pan o’n i’n mynd â’r cŵn am dro,” meddai Nick sy’n byw yn Oregon, UDA. “O’n i’n gweld y Tystion yno’n aml gyda’u trolïau llyfrau. Oedden nhw wastad yn smart, yn gwenu, ac yn gyfeillgar â phawb.

“Pan dw i’n dweud pawb, dw i’n golygu’r cŵn hefyd! Un diwrnod, gwnaeth Elaine, oedd yn sefyll wrth ymyl y troli, gynnig bisgedi i’r cŵn. Buan wnaethon nhw ddysgu lle oedd y bisgedi, ac roedden nhw’n awyddus iawn i fynd yn ôl.

“Wrth i’r misoedd fynd heibio, gwnaeth y cŵn fwynhau ambell i fisgeden, a wnes i fwynhau ambell i sgwrs â’r Tystion. Ond doeddwn i ddim eisiau bod yn rhy gyfeillgar, am fy mod i ddim yn gwybod beth oedd y Tystion yn ei gredu. Ar ben hynny, o’n i dros fy 70, ac roedd yr eglwysi Cristnogol ond wedi fy siomi, felly oedd well gen i edrych i mewn i’r Beibl ar fy mhen fy hun.

“Bob tro o’n i’n mynd am dro mwy neu lai, o’n i’n gweld Tystion eraill yn sefyll wrth ymyl eu trolïau llyfrau mewn gwahanol fannau o gwmpas y ddinas. Roedden nhwthau hefyd yn gyfeillgar. Oedden nhw wastad yn defnyddio’r Beibl i ateb fy nghwestiynau, felly wnes i ddechrau eu trystio nhw.

“Un diwrnod, dyma Elaine yn gofyn, ‘Ydych chi’n credu bod anifeiliaid yn rhodd gan Dduw?’ ‘Ydw, yn sicr!’ medda fi. A dyma hi’n dangos Eseia 11:6-9 imi. Er o’n i’n gyndyn o dderbyn llenyddiaeth, roedd hynny’n drobwynt imi.

“Dros y dyddiau nesaf, wnes i fwynhau sgyrsiau bach difyr ag Elaine a’i gŵr, Brent. Gwnaethon nhw awgrymu fy mod i’n darllen Mathew hyd Actau er mwyn deall beth mae’n ei olygu i fod yn wir Gristion. Felly dyna wnes i, ac yn fuan wedyn, yn haf 2016, gwnaeth Brent ac Elaine ddechrau astudio’r Beibl gyda fi.

“O’n i o hyd yn edrych ymlaen at fy astudiaeth nesaf, ac at bob cyfarfod yn y Neuadd. O’n i ar ben fy nigon yn dysgu beth yn union mae’r Beibl yn ei ddweud. Felly, ymhen ychydig dros flwyddyn, ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa. Dw i’n 79 bellach, a dw i’n hollol sicr fy mod i ar y llwybr cywir. A dw i wrth fy modd i fod yn rhan o deulu Jehofa.”