Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pa fath o lwybr rydych chi eisiau i’ch plant ei ddilyn?

AR GYFER RHIENI

8: Esiampl

8: Esiampl

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae rhieni sy’n gosod esiampl yn byw yn unol â’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. Prin y gallwch ddisgwyl i’ch mab fod yn onest os yw’n eich clywed chi’n dweud: “Dweud wrtho dydw i ddim adre,” pan nad ydych eisiau siarad â rhywun wrth y drws.

“Dywediad poblogaidd ydy: ‘Gwna beth dw i’n ei ddweud; nid beth dw i’n ei wneud.’ Ond dydy hynny ddim yn gweithio yn achos plant. Maen nhw fel sbwng sy’n amsugno popeth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud, a byddan nhw’n dweud wrthyn ni pan nad ydy ein hesiampl yn gyson â’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu iddyn nhw.”—David.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Rwyt ti’n pregethu, ‘Paid â dwyn,’ ond a wyt ti’n dwyn?”—Rhufeiniaid 2:21.

PAM MAE’N BWYSIG?

Y rhieni ydy’r dylanwad mwyaf ar eu plant, yn fwy na neb arall—gan gynnwys eu ffrindiau. Mae hynny’n golygu eich bod chi yn y lle gorau i arwain eich plant yn y ffordd gywir—dim ond, wrth gwrs, os ydych chi’n byw’n unol â’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.

“Gallwn ddweud rhywbeth ganwaith drosodd heb wybod a ydy ein plentyn yn gwrando neu beidio, ond os gwnawn ni un peth yn groes i’r hyn rydyn ni’n ei ddweud, bydd y plentyn yn gadael inni wybod. Mae plant yn talu sylw i bob peth rydyn ni’n ei wneud, hyd yn oed os dydyn ni ddim yn meddwl eu bod nhw.”—Nicole.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae’r doethineb sy’n dod oddi uchod . . . yn ddiragrith.”—Iago 3:17.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Edrychwch ar eich safonau eich hun. Pa fath o adloniant ydych chi’n ei wylio? Sut rydych chi’n trin eich cymar a’ch plant? Pa fath o ffrindiau sydd gennych chi? Ydych chi’n meddwl am bobl eraill? Yn fyr, a ydych chi y math o berson rydych chi eisiau i’ch plant fod?

“Dydy fy ngŵr a minnau ddim yn disgwyl i’n plant ddilyn safonau dydyn ninnau ddim yn eu dilyn.”—Christine.

Ymddiheurwch am eich camgymeriadau. Mae eich plant eisoes yn gwybod nad ydych chi’n berffaith. Drwy ddweud “sori” pan fydd angen—wrth eich cymar ac wrth eich plant—byddwch yn dysgu gwers bwysig o ran bod yn onest ac yn ostyngedig.

“Mae’n rhaid i’n plant ein clywed ni’n cyfaddef ein bod ni wedi gwneud camgymeriadau ac mae’n rhaid iddyn nhw ein clywed ni’n ymddiheuro am ein camgymeriadau. Os nad ydyn ni’n gwneud hynny, byddan nhw ond yn dysgu sut i guddio eu camgymeriadau.”—Robin.

“Fel rhieni, ni sydd yn dylanwadu fwyaf ar ein plant, a’n hesiampl ni ydy’r arf mwyaf pwerus sydd gennyn ni oherwydd eu bod nhw’n gweld yr esiampl honno drwy’r amser. Mae ein hesiampl yn debyg i lyfr sydd yn wastad yn agored, ac fel gwers sy’n cael ei dysgu drwy’r amser.”—Wendell.