Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cyfraith Duw ar Hylendid—Deddfau o Flaen Eu Hoes

Cyfraith Duw ar Hylendid—Deddfau o Flaen Eu Hoes

 Ychydig cyn i bobl Israel gyrraedd Gwlad yr Addewid, ryw 3,500 o flynyddoedd yn ôl, dywedodd Duw y byddai’n eu hamddiffyn rhag yr heintiau yr oedden nhw wedi eu gweld yn yr Aifft. (Deuteronomium 7:15) Un ffordd iddo wneud hynny oedd drwy roi cyfarwyddiadau manwl ynglŷn â hylendid a rheoli heintiau. Er enghraifft:

  •   O dan y gyfraith, roedd yn ofynnol i bobl ymolchi a golchi dillad.—Lefiticus 15:4-27.

  •   Ynglŷn â charthion dynol, dywedodd Duw: “Rhaid trefnu lle tu allan i’r gwersyll i’r dynion fynd i’r tŷ bach. Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd.”—Deuteronomium 23:12, 13.

  •   Byddai pobl gyda symptomau clefyd trosglwyddadwy yn cael eu rhoi mewn cwarantîn, sef cael eu cadw ar wahân i bobl eraill am gyfnod. Ar ôl dod dros eu salwch ond cyn dychwelyd i’r gwersyll, roedden nhw’n gorfod ymolchi a golchi eu dillad er mwyn cael eu hystyried “yn lân.”—Lefiticus 14:8, 9.

  •   Roedd unrhyw un a gyffyrddodd â chorff marw yn cael ei roi mewn cwarantîn.—Lefiticus 5:2, 3; Numeri 19:16.

 Yn y gyfraith i Israel gwelwn syniadau meddygol ac agweddau tuag at lanweithdra sydd ymhell o flaen eu hoes.

 Mewn mannau eraill, roedd safonau hylendid yn eithaf cyntefig. Er enghraifft:

  •   Roedd pobl yn taflu ysbwriel a charthion i’r strydoedd. Roedd dŵr budr, bwyd aflan, a mathau eraill o wastraff yn creu amodau afiach oedd yn cyfrannu at lefelau uchel o ran afiechydon a marwolaethau babanod.

  •   Yn yr hen fyd doedd gan feddygon fawr ddim dealltwriaeth o bathogenau a germau. Ymhlith “meddyginiaethau” yr Eifftiaid oedd gwaed madfallod, baw pelicanod, llygod marw, wrin, a bara wedi llwydo. Defnyddid carthion dynol yn ogystal â baw anifeiliaid yn eu triniaethau meddygol.

  •   Roedd yr hen Eifftiaid yn cael eu heintio â nifer o barasitiaid yn nŵr budr Afon Nîl a’r camlesi oedd yn dyfrhau’r tir. Hefyd, roedd bwyd aflan yn achosi i lawer o fabanod yn yr Aifft farw o’r dolur rhydd ac anhwylderau tebyg.

 Ar y llaw arall, roedd yr Israeliaid yn medru aros yn gymharol iach drwy ddilyn y safonau yng Nghyfraith Duw.