Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cerfwedd Hynafol yn yr Aifft yn Cadarnhau Hanes yn y Beibl

Cerfwedd Hynafol yn yr Aifft yn Cadarnhau Hanes yn y Beibl

 Mae’r gerfwedd hieroglyffig hon, sydd yn 8 metr o uchder, yn sefyll ger un o’r mynedfeydd i deml hynafol y duw Amun yn Karnak yn yr Aifft. Dywed ysgolheigion fod y gerfwedd yn dangos buddugoliaethau’r Pharo Shishac yn y tiroedd i’r gogledd-ddwyrain o’r Aifft, gan gynnwys Jwda a theyrnas ogleddol Israel.

Cerfwedd Karnak; mae’r llun crwn yn dangos caethion wedi eu rhwymo

 Yn y gerfwedd gwelwn Amun yn trosglwyddo 150 o gaethion, wedi eu rhwymo, i Shishac neu Sheshonc. a Mae pob un yn cynrychioli un o’r trefi neu’r grwpiau o bobl yr oedd yr Eifftiaid wedi eu goresgyn. Mae enwau’r trefi wedi eu naddu ar y siapiau hirgrwn ar gyrff y caethion. Gellir darllen rhai o’r enwau o hyd, ac mae rhai’n gyfarwydd i ddarllenwyr y Beibl. Yn eu plith y mae Beth-sean, Gibeon, Megido, a Shwnem.

 Mae sôn am yr ymgyrch yn erbyn Jwda yn y Beibl. (1 Brenhinoedd 14:25, 26) Yn wir, mae’r Beibl yn rhoi manylion penodol ynglŷn ag ymosodiad Shishac. Darllenwn: “Yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. . Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i’w cyfrif! . . . Dyma fe’n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem.”—2 Cronicl 12:2-4.

 Nid cerfwedd Karnak yw’r unig dystiolaeth archaeolegol o ymgyrch Shishac i mewn i dir Israel. Ar safle hen dref Megido, daeth dernyn o garreg i’r golwg a fu unwaith yn rhan o faen coffa, ac mae’r enw “Sheshonc” hefyd ar hwnnw.

 Mae’r cofnod cywir yn y Beibl am Shishac yn goresgyn Jwda yn enghraifft o onestrwydd yr ysgrifenwyr. Roedden nhw’n fodlon cofnodi nid yn unig buddugoliaethau’r genedl ond hefyd yr achlysuron pan gawson nhw eu gorchfygu. Prin iawn y gwelir gonestrwydd o’r fath ymhlith ysgrifenwyr yr hen fyd.

a Ceir y sillafiad “Shishac” neu “Sisac” yn y Beibl, sy’n adlewyrchu ynganiad Hebraeg yr enw.