Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU

Pan Fyddwch yn Anghytuno

Pan Fyddwch yn Anghytuno

 Gall gwahaniaethau yn eu diddordebau, arferion, a phersonoliaethau fod yn ddigon anodd i gyplau priod ddelio gyda nhw. Ond mae rhai materion, fel y rhai canlynol, yn gallu bod yn fwy sensitif byth:

  •   Faint o amser i’w dreulio gyda pherthnasau

  •   Sut i reoli arian

  •   Penderfynu cael plant neu beidio

 Beth allwch chi ei wneud os ydych chi a’ch cymar yn anghytuno?

 Beth ddylech chi ei wybod?

 Does dim angen bod yn union yr un fath. Dydy hyd yn oed y gŵr a gwraig mwyaf cytûn ddim yn cytuno ar bob dim, hyd yn oed ar bethau pwysig.

 “Wnes i dyfu lan mewn teulu agos. Ar y penwythnosau bydden ni’n treulio amser gyda fy mam-gu a tad-cu, wncl ac anti, a fy nghefndyr. Doedd teulu fy ngŵr ddim yn gwneud llawer gyda’i gilydd. Felly mae gennyn ni syniadau gwahanol ynglŷn â faint o amser dylen ni dreulio gyda’n teulu, neu yn siarad gyda pherthnasau sy’n byw yn bell i fwrdd.”—Tamara.

 “Cafodd fy ngwraig a minnau ein dwyn i fyny gyda syniadau gwahanol am sut i wario arian. Yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl inni briodi, wnaethon ni ffraeo dipyn amdano. Cymerodd sawl sgwrs i ddatrys y broblem.”—Tyler.

Gall dau berson edrych ar yr un olygfa ac eto gweld pethau’n wahanol. Gall yr un peth ddigwydd pan fydd problem yn codi rhwng gŵr a gwraig

 Dydy cyfaddawdu ddim yn datrys pob problem. Er enghraifft, beth os ydy un o’ch teulu-yng-nghyfraith yn mynd yn sâl ac angen gofal? Neu beth os ydy un cymar eisiau cael plant ond dydy’r llall ddim? a

 “Ces i a fy ngwraig ambell i sgwrs hir am gael plant. Mae hi’n meddwl amdani fwy a mwy, ac mae ein safbwyntiau yn mynd yn fwy gwahanol. Dw i ddim yn gweld ffordd o gyfaddawdu.”—Alex.

 Dydy anghytuno ddim yn golygu’r diwedd i’ch priodas. Mae rhai arbenigwyr yn dweud, os dydych chi a’ch cymar ddim yn gallu cytuno ar fater pwysig, dylech chi wneud beth bynnag sydd ei angen i gael eich ffordd eich hun—hyd yn oed os yw’n golygu rhoi’r gorau i’ch priodas. Ond mae’r ffordd yna o “ddatrys” y broblem yn rhoi gormod o bwysigrwydd ar eich teimladau chi, a dim digon ar eich adduned o flaen Duw i aros gyda’ch cymar, er gwell, er gwaeth.

 Beth allwch chi ei wneud?

 Byddwch yn benderfynol o gadw at eich adduned priodas. Trwy wneud hynny, byddwch chi’n gallu datrys y broblem fel tîm yn hytrach na chystadlu.

 Egwyddor o’r Beibl: “Ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno.”—Mathew 19:6.

 Cyfrwch y gost. Er enghraifft, dychmygwch fod un cymar eisiau cael plant a’r llall ddim. Mae yna nifer o ffactorau i’w hystyried, gan gynnwys:

  •   Cryfder eich priodas.

     Fyddwch chi’n gallu delio gyda’r straen ychwanegol sy’n dod o fagu plentyn?

  •   Y cyfrifoldebau sydd gan rieni.

     Mae’n golygu mwy na darparu bwyd, dillad, a rhywle i fyw.

  •   Eich sefyllfa ariannol.

     Fedrwch chi gadw cydbwysedd rhwng eich gwaith, teulu, a gofynion eraill?

 Egwyddor o’r Beibl: “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri’r gost.”—Luc 14:28.

 Ystyriwch y mater o bob ongl. Efallai eich bod chi’n gallu datrys rhai anghytundebau. Er enghraifft, petai’r mater yn ymwneud â chael plant neu beidio, gall y cymar anfodlon ofyn iddi hi neu iddo ef ei hun:

  •   ‘Pan dw i’n dweud dydw i ddim eisiau plant, ydw i’n meddwl byth neu jest ddim ar hyn o’r bryd?’

  •   ‘Ydw i’n ansicr oherwydd dwi’n amau ’mod i’n gallu bod yn rhiant da?’

  •   ‘Ydw i’n poeni bydd fy nghymar yn rhoi llai o sylw imi?’

 Ar y llaw arall, gall y cymar sydd eisiau plant ystyried cwestiynau fel:

  •   ‘Ydyn ni’n barod ar gyfer y cyfrifoldebau sy’n dod o fod yn rhieni?’

  •   ‘Ydy ein sefyllfa ariannol yn caniatáu inni fagu plant?’

 Egwyddor o’r Beibl: ‘Mae’r doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw yn meithrin addfwynder.’—Iago 3:17.

 Cydnabyddwch werth safbwynt eich cymar. Gall dau berson edrych ar yr un olygfa ac eto gweld pethau’n wahanol. Yn yr un ffordd, gall cwpl edrych ar yr un mater, ond o safbwynt gwahanol i’w gilydd—er enghraifft, ar sut i wario arian. Wrth drafod unrhyw sefyllfa ble mae gennych chi safbwynt gwahanol i’ch gilydd, dechreuwch drwy drafod y pethau rydych chi’n cytuno arnyn nhw.

  •   Beth yw eich nod fel cwpl?

  •   Beth yw gwerth pob safbwynt?

  •   Er lles y briodas, oes modd i un neu’r ddau ohonoch chi addasu eich safbwynt er mwyn cymodi â’r llall?

 Egwyddor o’r Beibl: “Ddylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.”—1 Corinthiaid 10:24.

a Dylai materion pwysig gael eu trafod cyn priodi. Ond gall amgylchiadau annisgwyl godi o hyd, neu gall teimladau un cymar newid dros amser.—Pregethwr 8:7.