Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Ffroen Dda y Ci

Ffroen Dda y Ci

 Dywed ymchwilwyr fod cŵn yn defnyddio eu trwynau i ganfod oed, rhyw, neu dymer cŵn eraill. Gellir hyd yn oed hyfforddi cŵn i ganfod ffrwydron a chyffuriau anghyfreithlon. Mae pobl fel arfer yn defnyddio eu llygaid i gael gwybod am yr hyn sydd o’u cwmpas, ond mae cŵn yn defnyddio eu ffroenau. Maen nhw’n “darllen” gyda’u trwynau.

 Ystyriwch: Mae gan gŵn synnwyr arogli sydd filoedd o weithiau’n fwy sensitif na’n synnwyr arogli ni. Yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg UDA (NIST), mae ci “yn gallu canfod rhai cyfansoddion ar raddfa ychydig o rannau ymhob triliwn. Mae’r gamp hon yn cyfateb i fedru blasu chwarter llond llwy o siwgr mewn pwll nofio Olympaidd.”

 Beth sy’n gyfrifol am ffroen dda y ci?

  •   Mae trwyn ci yn wlyb ac felly yn dal y gronynnau sy’n gysylltiedig ag arogl yn well.

  •   Mae dau lwybr anadlu mewn trwyn ci​—un ar gyfer anadlu, a’r llall ar gyfer arogli. Pan fydd ci yn ffroeni, mae’r aer yn mynd i ran o’r trwyn lle mae llawer o niwronau derbyn aroglau.

  •   Mae ardal arogli yn nhrwyn y ci yn gallu bod yn 130 centimetr sgwâr (20 modfedd sgwâr) neu fwy, tra bod yr ardal arogli mewn pobl yn 5 centimetr sgwâr (0.8 modfedd sgwâr).

  •   Mae gan gi hyd at 50 gwaith mwy o niwronau derbyn aroglau na ni.

 Mae hyn i gyd yn caniatáu i’r ci wahaniaethu rhwng y cynhwysion mewn aroglau cymhleth. Er enghraifft, mae pobl yn gallu clywed arogl cawl, ond yn ôl rhai arbenigwyr, mae cŵn yn gallu canfod pob un o’r cynhwysion yn y cawl.

 Mae ymchwilwyr mewn un sefydliad sy’n ymchwilio i ganser, y Pine Street Foundation, yn dweud bod ymennydd a thrwyn y ci yn cydweithio i fod “yn un o’r teclynnau mwyaf soffistigedig ar y blaned ar gyfer canfod aroglau.” Mae gwyddonwyr yn ceisio datblygu “trwynau” electronig sy’n gallu canfod ffrwydron, nwyddau gwaharddedig, a chlefydau, gan gynnwys canser.

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rywbeth a wnaeth esblygu yw synnwyr arogli’r ci? Neu a gafodd ei ddylunio?