Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Sonar y Dolffin

Sonar y Dolffin

 Mae dolffiniaid yn creu amryw o synau clicio a chwibanu ac yna’n gwrando ar yr atsain er mwyn chwilota a chael hyd i’w ffordd o gwmpas eu cynefin. Wedi eu hysbrydoli gan sonar naturiol y dolffin trwyn potel (Tursiops truncatus) , mae gwyddonwyr yn datblygu systemau acwstig tanddwr er mwyn datrys problemau sydd y tu hwnt i allu’r dechnoleg bresennol.

 Ystyriwch: Sonar y dolffin sydd yn ei alluogi i gael hyd i bysgod sy’n cuddio yn y tywod ar wely’r môr, ac i wahaniaethu rhwng pysgod a cherrig. Yn ôl Keith Brown, uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Heriot-Watt, Caeredin, yr Alban, gall dolffiniaid hefyd “wahaniaethu rhwng cynwysyddion sydd yn dal dŵr croyw, dŵr hallt, surop ac olew o 10 metr [32.8 troedfedd] i ffwrdd.” Hoffai gwyddonwyr ddatblygu teclynnau sy’n gallu gwneud rhywbeth tebyg.

O ddeg metr i ffwrdd, gall dolffiniaid wahaniaethu rhwng cynwysyddion wrth yr hyn sydd ynddyn nhw

 Aeth y gwyddonwyr ati i ddadansoddi lleisiadau a chlyw y dolffiniaid a cheisio eu copïo. Canlyniad hyn oedd teclyn sonar yn llawn offer electronig soffistigedig, a fydd yn gallu cael hyd i bethau megis ceblau neu biblinellau sydd wedi eu claddu ar wely’r môr, a’u harchwilio heb orfod cyffwrdd â nhw. Mae’r offer yn ffitio mewn silindr llai na metr (3.3 troedfedd) o hyd sy’n cael ei glymu wrth gerbyd robotig sy’n debyg i dorpido. Mae’r datblygwyr yn rhagweld y bydd yn ddefnyddiol yn y diwydiannau olew a nwy. Gyda’r dechnoleg newydd sy’n dynwared sonar y dolffin, dylai’r teclynnau hyn fedru casglu ystod ehangach o ddata. Bydd hyn yn helpu technegwyr i osod offer tanddwr yn y lle gorau, i ganfod unrhyw ddifrod​—megis craciau trwch blewyn yn y coesau sy’n cynnal llwyfannau olew​—a hyd yn oed i ganfod lle mae’r piblinellau wedi eu blocio.

 Beth yw dy farn di? Ai esblygiad sy’n gyfrifol am sonar y dolffin? Neu a gafodd ei ddylunio?