Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Gallu’r Hugan i Blymio

Gallu’r Hugan i Blymio

 Aderyn mawr y môr yw’r hugan. Mae’n gallu cyrraedd 118 milltir (190 km) yr awr wrth blymio i’r môr. Pan fydd hugan yn taro’r dŵr, gall yr ergyd fod yn ugain gwaith mwy na grym disgyrchiant. Sut mae huganod yn gallu gwneud hynny drosodd a throsodd heb niwed?

 Ystyriwch: Cyn i’r hugan daro’r dŵr, mae’n ymestyn ei adenydd y tu ôl i’w gorff, i greu siâp llyfn tebyg i saeth. Mae hefyd yn tynnu pilen dros ei lygaid i’w hamddiffyn ac yn llenwi organau yn ei wddf a’i frest ag aer, sy’n gweithio fel bagiau aer i leihau’r ergyd.

 Wrth i’r hugan fynd trwy wyneb y dŵr, mae ei big, ei ben, a’i wddf yn creu siâp côn. Mae’r siâp hwn yn lledaenu’r ergyd ar draws y cyhyrau cryfion yng ngwddf yr hugan. Gall yr hugan ailffocysu ei lygaid yn sydyn iawn er mwyn gweld o dan y dŵr.

 Pa mor ddwfn mae huganod yn plymio? Gall momentwm yr aderyn fynd ag ef i ddyfnder o bron i 11 metr (36 troedfedd), ond fe all barhau i blymio drwy guro ei adenydd, sydd wedi eu lled blygu, a thrwy gicio ei draed gweog. Yn wir, mae huganod wedi eu gweld yn plymio i fwy na 25 metr (82 troedfedd) o dan wyneb y môr. Yna, gall godi’n ddiymdrech i’r wyneb yn barod i hedfan eto.

 Gwyliwch huganod yn plymio

 Mae gwyddonwyr wedi dylunio huganod bionig i’w defnyddio mewn ymgyrchoedd chwilio ac achub. Y gobaith oedd y byddai’r robotiaid hyn yn gallu hedfan, plymio i’r dŵr, a chodi i’r awyr wedyn. Sut bynnag, mewn arbrofion gyda’r prototeip, torrodd un robot sawl gwaith o ganlyniad iddo daro’r dŵr yn rhy galed. Casgliad yr ymchwilwyr oedd “nad oedd [y prototeip] cystal â’r hugan pan ddaeth at blymio.”

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygiad sy’n gyfrifol am allu’r hugan i blymio? Neu a gafodd ei greu?